At a Glance
- Tasks: Join a cutting-edge research team at CERN, focusing on antihydrogen synthesis and spectroscopy.
- Company: Swansea University, a leading research institution with a vibrant community.
- Benefits: Competitive salary, excellent work-life balance, and opportunities for career advancement.
- Other info: Inclusive environment promoting diversity and equal opportunities for all applicants.
- Why this job: Make a real impact in groundbreaking physics research while collaborating with top scientists.
- Qualifications: PhD in experimental physics with experience in antihydrogen spectroscopy and laser cooling.
The predicted salary is between 29700 - 36300 £ per year.
Y Brifysgol Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog. Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Mae’r cydweithrediad ALPHA yn CERN yn syntheseiddio ac yn dal gwrth-hydrogen ar gyfer profion trachywir cymesuredd sylfaenol. Mae’r cydweithrediad yn arwain yn fyd-eang ym maes sbectrosgopeg drachywir ac astudiaethau hydrogen disgyrchol. Yn dilyn diweddariad sylweddol i amledd yr offerynnau mesureg ym mhrosiect ALPHA, y nod bellach yw cyflawni neu ragori ar drachywiredd sbectrosgopeg mewn hydrogen cyffredin. Mae Prifysgol Abertawe’n un o aelodau sefydlu a phrif randdeiliaid y cydweithrediad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â’r tîm o Brifysgol Abertawe yn CERN a bydd yn dod yn aelod llawn o gydweithrediad ALPHA. Mae gan y grŵp dri aelod staff academaidd parhaol, pedwar aelod staff ôl-ddoethurol a nifer amrywiol o fyfyrwyr PhD sy'n cyfrannu'n weithredol at brosiect ALPHA yn CERN.
Rydyn ni’n gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar PhD mewn ffiseg arbrofol a dylai fod gennych brofiad o syntheseiddio, oeri â laser a sbectrosgopeg gwrth-hydrogen, datblygu maglau Penning a chryogeneg a thrawsyrru â microdonnau a sbectrosgopeg atomig gan ddefnyddio microdonnau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Swyddog Ymchwil mewn Ffiseg Gwrth-hydrogen employer: Swansea University
Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.