Rheolwr Gweithrediadau Cyllid

Rheolwr Gweithrediadau Cyllid

Full-Time On-site
Swansea University

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol profiadol ym maes cyllid arwain Tîm Gweinyddiaeth Ariannol Gwyddor Data Poblogaethau am gyfnod penodol, gan reoli portffolio gwerth miliynau o bunnoedd o raglenni a phrosiectau sy'n cefnogi amcanion gweithredol allweddol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio mewn amgylchedd cyllid proffesiynol, a byddai profiad mewn lleoliad academaidd neu ymchwil yn hynod fanteisiol. Rhaid bod gan ymgeiswyr brofiad o faterion ariannol ac AD a dyrannu gwaith i gynnal gwasanaethau, gorau oll mewn amgylchedd prifysgol.

Gan weithio mewn tîm prysur ac ymroddedig, bydd y Rheolwr Gweithrediadau Cyllid yn rhoi arweinyddiaeth effeithiol, gan fynd ati'n rhagweithiol i ddyrannu cyfrifoldebau a rheoli llwythi gwaith er mwyn sicrhau gwasanaeth rheoli ariannol cyson ac effeithlon sydd o safon uchel. Mae'r rôl yn cynnwys rheoli prosesau ariannol ac AD, cydlynu adroddiadau ariannol a sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio'n effeithiol. Gan weithio'n agos gydag arweinwyr tîm ac uwch-gyfarwyddwyr, bydd deiliad y swydd yn darparu dadansoddiadau ariannol er mwyn cyfeirio gwneud penderfyniadau, yn cyfrannu at waith cyllidebu a rhagamcanu prosiectau newydd ac yn rheoli gwaith i baratoi datganiadau ariannol i'r cyllidwyr. Drwy reoli'n gadarn, cydlynu'r tîm yn effeithiol ac ymrwymo i welliant parhaus, bydd y Rheolwr Gweithrediadau Cyllid yn sbarduno cyflwyno gwasanaeth proffesiynol, ymatebol a dibynadwy sy'n cefnogi cyflwyniad llwyddiannus rhaglenni a phrosiectau.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rheolwr Gweithrediadau Cyllid employer: Swansea University

Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.

Swansea University

Contact Details:

Swansea University Recruitment Team