Gwyddonydd Data

Gwyddonydd Data

Full-Time On-site
Swansea University

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn recriwtio tri Gwyddonydd Data i weithio ar draws y Platfform Data Niwrolegol (NDP). Mae’r NDP yn darparu isadeiledd a gwasanaethau diogel ar gyfer ymchwil niwrolegol. Mae'r swyddi hyn yn cynnig gwaith amrywiol sy'n rhychwantu darganfod data, rheoli data a phiblinellau data, gyda thasgau prosiect yn adlewyrchu anghenion y gwasanaeth a'ch sgiliau sy'n datblygu.

Byddwch yn paratoi, yn glanhau ac yn trawsnewid setiau data, yn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud ag ansawdd data, ac yn ailfformatio metadata a geiriaduron data. Byddwch yn helpu i gadw gwybodaeth ddarganfod yn gywir, fel y gall ymchwilwyr ddod o hyd i ddata sydd ar gael a'i asesu.

Byddwch yn ysgrifennu ac yn cynnal sgriptiau prosesu, yn rhedeg ac yn profi piblinellau, yn ymchwilio i fethiannau arferol ac yn dogfennu newidiadau. Gan weithio gyda chydweithwyr profiadol, byddwch yn cyfrannu at dasgau gwyddor data sy'n benodol i brosiectau, ac yn gwella llifoedd gwaith y gellir eu hailadrodd.

Byddwch hefyd yn adolygu ffeiliau y gofynnwyd am eu rhyddhau o amgylcheddau ymchwil diogel. Darperir hyfforddiant ar y gweithdrefnau gwirio cymeradwy. Byddwch yn cofnodi eich gwiriadau, yn nodi problemau ac yn cyfeirio achosion cymhleth ar gyfer adolygiad pellach. Byddwch yn darparu cymorth ymarferol i ymchwilwyr a chydweithwyr o ran paratoi a phrosesu data.

Rydym yn chwilio am sgiliau ymarferol mewn rhaglennu a thrin data, profiad o wirio ansawdd data, a sgiliau cyfathrebu technegol clir. Dylech allu trefnu tasgau a neilltuwyd i chi yn annibynnol, cofnodi eich gwaith a cheisio arweiniad pan fo angen. Mae angen gradd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gwyddonydd Data employer: Swansea University

Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.

Swansea University

Contact Details:

Swansea University Recruitment Team