Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae PHEROCROP yn brosiect ymchwil a datblygu ar y cyd sy'n datblygu system cyflenwi fferomonau chwistrelladwy ar gyfer dull integredig o reoli plâu mewn garddwriaeth fasnachol. Mae cyfraniad Prifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar wyddor fformwleiddiadau a phrofi dadansoddol. Mae'r rhaglen arbrofol yn cynnwys dethol polymerau bioddiraddadwy, eu fformiwleiddio a’u mewngapsiwleiddio ar raddfa ficro, ymgorffori fferomonau a phrofi eu cydnawsedd, ymddygiad rhyddhau, sefydlogrwydd ffisegol a storio, ailadroddadwyedd, a pharatoi llwythi arbrofol mwy o faint ar gyfer dilysu pellach.
Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil neu Swyddog Ymchwil i gyfrannu at y rhaglen ymchwil arloesol hon gan ddatblygu fformwleiddiadau fferomonau bioddiraddadwy a ryddheir dan reolaeth ar gyfer dull cynaliadwy o ddiogelu cnydau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Cynorthwy-ydd Ymchwil / Swyddog Ymchwil mewn Fformwleiddiadau Fferomonau Bioddiraddadwy employer: Swansea University
Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.