Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Cyfieithydd yn Uned Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Academi Hywel Teifi. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn allweddol i’r swydd hon.
Prif nod y Cyfieithydd fydd cynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau i gymuned gyfan y Brifysgol gan weithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd safonol ar gael i’r Brifysgol.
Mae’r gwaith yn amrywiol iawn o ran maes pwnc a thema, a bydd yn adlewyrchu ystod eang o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael pob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn y swydd.
Mae Academi Hywel Teifi yn arwain ar y gwaith o wireddu strategaeth Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe ac mae’n gartref i’r Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Uned Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe a’r Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol.
Bydd y swydd yn cynnwys patrwm gweithio sy’n cyfuno gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa.
-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein wedi’i gwblhau sy’n dangos tystiolaeth o’r modd yr ydych yn ateb Meini Prawf Hanfodol y swydd. Gellir atodi dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais e.e. CV neu dystiolaeth ddogfennol berthnasol. Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol.
Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol.
Am ragor o fanylion neu os am drefnu sgwrs anffurfiol ynghylch y swydd cysylltwch â:
Mrs Sarah Gray, Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith trwy e-bostio s.a.gray@abertawe.ac.uk
Cyfieithydd Cymraeg employer: Swansea University
Swansea University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that prioritises collaboration and innovation within the School of Social Sciences. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive environment, and the chance to make a meaningful impact on care-experienced children's educational outcomes in Wales. Located in a beautiful coastal city, the university provides a unique setting for personal and professional growth.