Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol | Lleolir gartref, Sir Gaerfyrddin. in Wales
Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol | Lleolir gartref, Sir Gaerfyrddin.

Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol | Lleolir gartref, Sir Gaerfyrddin. in Wales

Wales Part-Time No home office possible
Go Premium
Stroke Association

Cyf: S1078 | Lleolir gartref, Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, bydd teithio mynych yn ofynnol fel rhan o’r rôl hon, (gall gynnwys cyfarfodydd tîm neu gyfarfodydd eraill yn gysylltiedig â gwaith) | 25 awr yr wythnos

Mae ein gwasanaethau dan gontract, mae gennym gyllid ar hyn o bryd ar gyfer y contract hwn tan yr Rhagfyr 2024.

Chwiliwn am unigolyn arloesol, angerddol a phroffesiynol sydd â sgiliau cyfathrebu a threfnu ardderchog i ymuno â’r Gymdeithas Strôc i ddarparu’n gwasanaeth Cyswllt Cymunedol newydd yn Sir Gaerfyrddin. Dyma rôl gyffrous i gynorthwyo a grymuso goroeswyr strôc a’u teuluoedd i fod yn annibynnol ac i elwa o gyfleoedd yn y gymuned ar ôl strôc.

Nod y gwasanaeth yw nodi a rhoi sylw i anghenion goroeswyr strôc a gofalwyr unwaith y byddant wedi gadael ysbyty, drwy ddarparu ystod o ddatrysiadau cymorth arloesol sydd yn eu galluogi i gyflawni’u canlyniadau a ddymunir.

Bydd Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol y Gymdeithas Strôc yn:

  • Cynorthwyo goroeswyr strôc newydd a’u gofalwyr i fyw bywydau annibynnol yn y gymuned.
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth wedi’u personoli.
  • Cynorthwyo goroeswyr strôc i wneud newidiadau i’w ffordd o fyw ar sail gwybodaeth fydd yn eu helpu i atal rhagor o strociau.
  • Gweithio’n gydweithredol gyda chydweithwyr Gofal Cymdeithasol, y GIG, y Trydydd Sector a meysydd eraill yn y gymuned i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl yr effeithir arnynt gan strôc.
  • Rheoli gwirfoddolwyr cyswllt cymunedol strôc.
  • Hyrwyddo cymunedau sy’n ystyriol o strôc.
  • Mae’r rôl hon yn mynnu bod deiliad y swydd yn teithio ledled y gymdogaeth i gysylltu pobl â’u cymuned a’u cymheiriaid. Mae’n rhaid i ymgeiswyr allu dangos sut y gallant fodloni gofyniad hwn y rôl.

    I gyflawni’r rôl, mae’n rhaid ichi fod yn breswylydd yn y Deyrnas Unedig a bod â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.

    Diddordeb yn y swydd hon?

    Darganfyddwch fwy trwy lawrlwytho\’r proffil rôl ar gyfer y swydd Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol

    Cyfeiriwch rif y swydd yn eich cais.

    Rydym am leihau\’r rhwystrau i gynhwysiant. Helpwch ni i ddeall pwy sy\’n gwneud cais am a chael swyddi gyda ni trwy lenwi ein ffurflen cyfleoedd cyfartal.

    Mae hyn yn ein helpu i barhau i nodi unrhyw beth sy\’n rhwystro pobl sy\’n edrych i ymuno â ni. Nid yw\’r wybodaeth hon yn rhan o\’ch cais.

    Rydym yn gweithio i adeiladu sefydliad mwy amrywiol. Un lle rydym yn cydnabod ac yn hyrwyddo unigoliaeth pawb gyda charedigrwydd, a lle rydym yn harneisio gwerth ac amrywiaeth y mae pawb yn dod gyda nhw i helpu i gyflawni ein nodau. Rydym yn annog ceisiadau gan unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan o\’r dyfodol hwnnw. Ac yn benodol, byddem yn annog unrhyw un sydd â phrofiad byw o strôc i wneud cais

    Oes gennych chi gwestiynau o hyd?

  • Darganfyddwch fwy am yr hyn rydyn ni\’n ei wneud.
  • Darganfyddwch fwy am y manteision o ymuno â ni.
  • Darganfyddwch sut y byddwn yn defnyddio\’ch gwybodaeth.
  • Neu anfonwch e-bost i
  • Amdanom ni

    Cymdeithas Strôc. Ailadeiladu bywydau ar ôl strôc.

    Pan fydd strôc yn taro, mae rhan o\’ch ymennydd yn cau i lawr. Ac felly hefyd rhan ohonoch chi. Mae hynny oherwydd bod strôc yn digwydd yn yr ymennydd, y ganolfan reoli ar gyfer pwy ydym ni a beth allwn ni ei wneud. Mae\’n digwydd bob pum munud yn y DU ac yn newid bywydau ar unwaith. Mae adferiad yn anodd, ond gyda\’r gefnogaeth arbenigol gywir a digon o ddewrder a phenderfyniad, gall yr ymennydd addasu.

    Credwn fod pawb yn haeddu byw\’r bywyd gorau y gallant ar ôl cael strôc. Ac mae\’n ymdrech tîm i gyrraedd yno.

    Rydym yn darparu cefnogaeth arbenigol, ariannu ymchwil hanfodol ac yn ymgyrchu i sicrhau bod pobl y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael y gofal a\’r gefnogaeth orau un i ailadeiladu eu bywydau.

    Rydym yn gweithio i wella amrywiaeth ein tîm. Oherwydd ein bod ni\’n gwybod bod unigoliaeth yn arwain at brofiad cyfoethocach i\’n pobl a gwell cefnogaeth i\’r rhai sy\’n cael eu heffeithio gan strôc.

    Rydym yn annog pobl o bob cefndir i ymgeisio. Ac rydym yn arbennig o awyddus i gynyddu nifer y ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad byw o strôc a rhai o gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

    Bob pum munud, mae strôc yn dinistrio bywydau. Helpwch ni i\’w hailadeiladu ac ymuno â\’n tîm.

    Gwnaethom ddatblygu strategaeth gorfforaethol newydd a beiddgar fel y gallwn ailadeiladu mwy o fywydau ar ôl strôc a gwneud mwy o wahaniaeth i fywydau pobl.

    Er mwyn ein helpu i gyflawni ein strategaeth a gwneud gwahaniaeth go iawn, rydym yn edrych i recriwtio pobl dalentog i nifer o rolau newydd.

    Os hoffech chi gefnogi goroeswyr strôc i ailadeiladu eu bywydau, rydyn ni eisiau clywed gennych chi!

    Stroke Association

    Contact Detail:

    Stroke Association Recruiting Team

    Cydgysylltydd Cyswllt Cymunedol | Lleolir gartref, Sir Gaerfyrddin. in Wales
    Stroke Association
    Location: Wales
    Go Premium

    Land your dream job quicker with Premium

    You’re marked as a top applicant with our partner companies
    Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
    Be among the first applications for new jobs with our AI application
    1:1 support and career advice from our career coaches
    Go Premium

    Money-back if you don't land a job in 6-months

    >