At a Glance
- Tasks: Create engaging multimedia content to connect with communities through storytelling.
- Company: Join a dynamic communications team making a real difference.
- Benefits: Full-time role with competitive salary and flexible working hours.
- Other info: Opportunity for career growth and collaboration in a supportive environment.
- Why this job: Use your creativity to shape impactful campaigns and engage diverse audiences.
- Qualifications: Experience in multimedia design and proficiency in Adobe Creative Suite.
The predicted salary is between 44595 - 54505 £ per year.
- Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: Dydd Gwener, 4ydd Rhagfyr 2026 am 12:00, canol dydd
- Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w. y. d 7fed Rhagfyr 2026
- Disgwylir I’r cyfweliadau gael eu cynhaliaeth: w. y. d 16eg Rhagfyr 2026
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu blaengar, gan helpu i lunio'r ffordd yr ydym yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr drwy gynnwys amlgyfrwng creadigol a deniadol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Amlgyfrwng ac Ymgysylltu newydd a fydd yn dod â'n Gwasanaeth a'i flaenoriaethau'n fyw drwy ffotograffiaeth, fideo, animeiddio, dylunio digidol ac adrodd storïau gweledol gafaelgar.
Gan weithio ar draws ein Gwasanaeth, byddwch yn creu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer ymgyrchoedd a sianeli digidol, gan ddod o hyd i ffyrdd creadigol o adrodd straeon ein pobl, ein gwaith a'r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud yn ein cymunedau.
Mae hwn yn rôl amrywiol lle bydd pob dydd yn wahanol.
Gallech fod yn creu cynnwys ar gyfer ymgyrch fawr, tynnu lluniau neu ffilmio fideo yn un o'n lleoliadau, datblygu graffeg ar gyfer ein sianeli digidol, neu gefnogi gweithgareddau cyfathrebu yn ystod digwyddiad gweithredol.
Ni fyddwch yn ymateb i friffiau yn unig.
Rydym eisiau rhywun a fydd yn gweld cyfleoedd, yn cynnig syniadau ac yn ein helpu i ddod o boslynnau a deniadol o gyrraedd ein cynulleidfaoedd.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus.
Os ydych yn adroddwr straeon creadigol sy'n mwynhau troi syniadau yn cynnwys deniadol, yn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau defnyddio eich sgiliau mewn rôl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
- Manylion Cyflog
- Cytundeb: Amser llawn, parhaol
- Cyflog: £33,673 - £34,911 ynghyd â lwfans ar alwad pan fyddwch yn rhan o'r rota ar alwad
- Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
- Cyfarwyddiaeth: Cyfryngau a Chyfathrebu
- Lleoliad: Pencadlys y Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant
- HANFODOL
- Addysg i lefel HNC/HND mewn Dylunio Amlgyfrwng neu Ddylunio Graffig, neu’n gallu dangos profiad proffesiynol perthnasol o weithio mewn rôl debyg.
- Profiad ymarferol o ddefnyddio cymwysiadau Adobe Creative Suite, gan gynnwys Photoshop, After Effects a Premiere Pro.
- Profiad o gynhyrchu delweddau llonydd, sain a fideo at ddibenion proffesiynol.
- Profiad a gwybodaeth o ddatblygu graffeg ddigidol, ynghyd ag ymwybyddiaeth o lwyfannau digidol.
- Gwybodaeth dda o Microsoft Outlook, Word, Excel a Power Point. Y galluoedd canlynol:
- o gweithio o dan bwysau ac i derfynau amser llym ar draws amrywiaeth o weithgareddau, gan ddarparu gwaith o ansawdd uchel yn gyson.
- o cyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gydag ystod eang o gynulleidfaoedd.
- o deall a defnyddio gwybodaeth berthnasol wrth make pen decisions, gan adlewyrchu blaenoriaethau a gofynion allweddol.
- o gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm a defnyddio menter mewn amgylchedd heriol sy'n newid.
- o gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Tân ac Achub, a hefyd asiantaethau allanol.
- o Yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn dangos dull teg a moesegol.
- o Dull cydwybodol a rhagweithiol, gyda’r gallu i lunio a gweithredu cynlluniau effeithiol.
- DYMUNOL
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol, ac mae’r angen i ddatblygu cynnwys sy’n cofleidio’r iaith Gymraeg yn allweddol.
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio mewn modd hyblyg, a gallai fod angen gweithio rhai oriau gyda'r nos neu ar benwythnosau, er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a nodir yn y disgrifiad swydd hwn yn effeithiol.
Bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfathrebu ymateb ar gyfer Gwasanaeth Argyfwng sy'n gweithredu 24 awr y dydd.
Mae cyfle i ymuno â Rota Ar Alwad i ddarparu cymorth i dimau gweithredol y tu allan i oriau gwaith arferol.
Mae'r rôl hon yn golygu teithio'n aml rhwng safleoedd ar draws ardal De Cymru.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.
SWYDDOG AMLGYFRWNG AC YMGYSYLLTU in Pontyclun employer: South Wales Fire and Rescue Service
Join an innovative Communications and Engagement team where your creativity and storytelling skills will thrive. Located in the vibrant Forest View Business Park, we offer a supportive work culture that values collaboration and continuous improvement, alongside opportunities for professional growth. With a focus on making a real difference in our communities, this role not only provides a competitive salary but also the chance to engage with diverse audiences and contribute to impactful campaigns.
Contact Details:
South Wales Fire and Rescue Service Recruitment Team