Ymgeisiwch erbyn: Canol dydd, 28 Medi 2026
Disgwylir i'r broses o lunio rhestr fer ddigwydd: w/c 5 Hydref 2026
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal: w/c 19 Hydref 2026
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu arloesol, gan helpu i lunio sut yr ydym yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr.
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd a fydd yn creu cynnwys dwyieithog o ansawdd uchel, deniadol gan ddod â blaenoriaethau ein Gwasanaeth yn fyw, gan weithio ar draws cyfryngau, digidol, sianeli mewnol ac ymgysylltu. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ymgyrchoedd integredig, gan weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid i adrodd straeon diddorol sy'n llywio, dylanwadu ac ysgogi gweithredu.
Mae hon yn rôl amrywiol a chyflym, lle byddai gallu siarad Cymraeg yn fantais. Byddwch yn ymateb i'r cyfryngau ac yn cefnogi ymgyrchoedd yn ogystal â chwilio'n weithredol am gyfleoedd i rannu straeon cadarnhaol ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd. Byddwch yn helpu i gadw ein sianeli yn gyfredol ac yn berthnasol, yn cyfrannu at ymgyrchoedd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yn cefnogi cyfathrebu mewnol sy'n cysylltu cydweithwyr ar draws y Gwasanaeth.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus, gan ddefnyddio mewnwelediad ac adborth i gryfhau'r hyn a wnawn. Os ydych chi'n gyfathrebwr hyderus sy'n mwynhau adrodd straeon ac yn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau datblygu eich gyrfa mewn rôl sydd â gwir effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
- Contract: Llawn amser, parhaol
- Cyflog: £32,597 – £33,699 (Dyfarniad cyflog yn yr arfaeth)
- Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
- Cyfarwyddiaeth: Gwasanaethau Corfforaethol - Perfformiad
- Cyfeirnod y Swydd: 506604
- Lleoliad: Penwadlys Tân, Parc Busnes Forest View,
#J-18808-Ljbffr
Contact Details:
South Wales Fire and Rescue Service Recruitment Team