Ydych chi'n arweinydd ragorol sydd â phrofiad o reoli tîm o ymchwilwyr, cyfreithwyr neu weithwyr achos o fewn corff rheoleiddio arall, cwmni cyfreithiol, neu sefydliad tebyg? Rydym yn recriwtio Rheolwyr Ymchwilio yn ein swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd a Llundain. Mae'r rhain yn swyddi amser llawn sy'n cynnig trefn waith hybrid.
Mae'r swyddi hyn ar gael yn ein Tîm Ymchwilio Cyffredinol.
Rydym yn cael miloedd o adroddiadau bob blwyddyn sy'n codi honiadau o gamymddwyn a thorri rheoliadau yn erbyn y rhai rydym yn eu rheoleiddio.
AERT sy'n ystyried yr adroddiadau hyn yn gyntaf ac yn penderfynu a ddylai'r SRA ymchwilio ymhellach. Mae'r tîm yn gwneud ymholiadau ac yn casglu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen arnom ar gyfer ein hasesiad, yn nodi unrhyw achos posibl o dorri ein rheolau ac yn blaenoriaethu materion risg uchel. Yna mae'r tîm yn ystyried cryfder ac ansawdd y dystiolaeth hyd yma ac a oes modd cael tystiolaeth i ategu'r mater. Weithiau gallwn roi arweiniad i'r cwmni neu'r cyfreithiwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth neu newid eu prosesau ar gyfer y dyfodol. Gan gymryd popeth i ystyriaeth, bydd AERT yn penderfynu cau'r mater neu ei basio ymlaen ar gyfer ymchwiliad llawn.
Tîm Ymchwilio Cyffredinol
Cyfeirir materion a asesir fel rhai difrifol at ein timau ymchwilio. Mae'r timau ymchwilio yn rheoli llwythi achosion o gymhlethdod amrywiol, ar draws gwahanol feysydd cyfraith. Byddant yn dadansoddi gwybodaeth fanwl i gyrraedd craidd y mater ac yn nodi a chael gafael yn brydlon ar ystod o dystiolaeth ddogfennol, a fydd fel arfer yn cynnwys dogfennau cyfreithiol ac ariannol, gohebiaeth drafodion a datganiadau tystion. Mae'r timau ymchwilio yn defnyddio pwerau ffurfiol i reoli risg a gosod sancsiynau lle mae'r ymddygiad yn ddifrifol. Bydd yr achosion mwyaf difrifol yn arwain at gamau gorfodi gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud drwy'r gwaith pwysig hwn mae:
- cynhal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau cyfreithiol, a
- chyflawni gwaith sy'n amserol, yn effeithlon, o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Gallwch ddarllen mwy am ein dull gorfodi yma.
- Arwain tîm o Swyddogion Ymchwilio i gyflawni cenhadaeth yr SRA i wella hyder mewn gwasanaethau cyfreithiol.
- Darparu cyngor technegol o safon, strategaeth ymchwilio a chyfeiriad achosion ar amrywiaeth o ymchwiliadau ynghylch honiadau o dorri ein Safonau a'n Rheoliadau.
- Dangos eich sgiliau rheoli pobl trwy gefnogi a datblygu eich tîm i ddod yn ymchwilwyr rhagorol sy'n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac sy'n gweithio i'r safonau uchaf o fewn amgylchedd rheoleiddio deinamig.
- Bod yn rhan o'r tîm arweinyddiaeth ymchwilio gan weithio gyda rheolwyr eraill ac uwch reolwyr i ddatblygu a gweithredu newidiadau a gwelliannau i'r ffordd rydym yn gweithio.
- Gweithio ar y cyd â meysydd eraill o'n sefydliad i gymryd camau i amddiffyn y cyhoedd.
Eich rôl
Fel Rheolwr Ymchwilio, bydd gennych chi rôl hanfodol wrth arwain a rheoli tîm o Swyddogion Ymchwilio, gan chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gyflawni safonau proffesiynol uchel yn y proffesiwn cyfreithiol. Mae Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i adroddiadau am gamymddwyn honedig a thorri ein Safonau a'n Rheoliadau.
Fel rhan o dîm o tua phymtheg Rheolwr Ymchwilio, byddwch yn darparu cymorth, datblygiad, arbenigedd technegol ac arweiniad ar achosion i dîm o tua phump o Swyddogion Ymchwilio. Yn bwysig, byddwch yn esiampl o'n gwerthoedd ac yn ffigwr blaenllaw ar ein taith tuag at ragoriaeth gweithredol o fewn tîm sy'n perfformio ar lefel uchel.
Mae hon yn rôl arwain a fydd yn gofyn i chi ysbrydoli a datblygu pobl i gyflawni perfformiad uchel, yn unol â'r gwerthoedd sy'n llywio popeth a wnawn.
Byddwch yn cynnig cymorth ac arweiniad i'ch tîm gan ganolbwyntio ar y materion mawr sy'n effeithio ar ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau cyfreithiol, gan sicrhau bod ymchwiliadau o'r safon uchaf, yn cael eu cynnal yn amserol ac yn unol gyda nodau perfformiad uchelgeisiol.
Gan weithio gydag uwch reolwyr byddwch yn llwyddo i ddarparu rhaglenni newid sefydliadol o fewn eich tîm ac yn mynd ati i chwilio am welliannau yn y ffordd rydym yn gweithio.
Eich tîm
Gan weithio'n agos gyda'ch tîm byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'u hanghenion unigol. Bydd gennych fewnbwn strategol ond pragmatig i waith eich tîm, gan ddangos sgiliau perfformiad a sgiliau rheoli rhagorol i gael y gorau o'ch tîm.
Byddwch yn atebol am gynnydd ac ansawdd yr ymchwiliadau y mae eich tîm yn ymdrin â nhw, a byddwch yn eu goruchwylio. Byddwch hefyd yn sicrhau bod achosion yn cael eu rheoli'n brydlon a bod safonau ansawdd yn gyson uchel.
Mae sgiliau rhyngbersonol rhagorol a gallu profedig i herio a dylanwadu ar randdeiliaid allweddol ar bob lefel yn allweddol er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl hon.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
- Profiad sylweddol o arwain timau sy'n cynnal ymchwiliadau mewn corff rheoleiddio arall, cwmni cyfreithiol neu amgylchedd tebyg.
- Rhagoriaeth dechnegol a gafwyd o brofiad ymarferol, i roi cyngor cadarn ar gyfeiriad achosion yn ogystal â dealltwriaeth o risgiau rheoleiddiol a gweithredol.
- Y gallu i ysgogi eich tîm, rheoli perfformiad trwy hyfforddi i wella safonau, sicrhau bod staff yn cymryd rhan weithredol yn eu datblygiad eu hunain a gweithredu prosesau gwella ffurfiol lle bo angen.
- Y gallu i arwain timau'n effeithiol trwy newid gan ddefnyddio'r cyfle i greu gwerth i'ch tîm a'r busnes.
- Penderfynwr rhagweithiol ar ymchwiliadau cymhleth a heriol a materion sy'n ymwneud â budd y
- Unigolyn hyblyg a dygn a all addasu blaenoriaethau ar fyr rybudd a gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd deinamig.
Gwybodaeth ddefnyddiol ac ychwanegol
Mae Proffil Rôl wedi'i atodi wrth waelod yr hysbyseb ar ein gwefan.
Y cyflog cychwynnol ar gyfer y rôl hon yw £59,449 y flwyddyn ar gyfer Birmingham a Chaerdydd, a £65,394 ar gyfer Llundain.
Rydym yn recriwtio ar gyfer y rôl hon gan weithio ar sail hybrid o'n swyddfeydd yn Birmingham, Caerdydd a Llundain. Byddwch yn gweithio yn y swyddfa agosaf at eich lleoliad, gyda'r disgwyliad o weithio 1-2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa a gweddill yr wythnos gartref. Mae hon yn rôl amser llawn yn gweithio 35 awr yr wythnos. Fel arfer, byddwch yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, a threfnir eich oriau gwaith rhwng ein horiau busnes craidd o 8:00 a.m. a 6:00 p.m.
Bydd angen teithio'n achlysurol i swyddfeydd heblaw eich canolfan arferol ar gyfer cyfarfodydd rhanddeiliaid, digwyddiadau neu anghenion busnes eraill. Os ydych chi wedi'ch lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu yn Llundain, disgwylir i chi hefyd deithio i'n swyddfa yn Birmingham:
- Bob deufis ar gyfer diwrnodau cydweithredol wyneb yn wyneb gyda'r tîm arweinyddiaeth ehangach.
- Unwaith bob chwarter ar gyfer diwrnodau cydweithredol gyda thimau ar draws y Tîm Ymchwilio Cyffredinol.
Os yw eich cais yn bodloni ein gofynion llunio rhestr fer, cewch eich gwahodd i fynychu sesiwn asesu a chyfweld wyneb yn wyneb yn ein swyddfa yn Birmingham. Rydym yn rhagweld y bydd asesiadau a chyfweliadau wyneb yn wyneb yn digwydd ar 27 Tachwedd 2026 a/neu 4 Rhagfyr 2026, a chysylltir ag ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer gyda rhagor o fanylion ganol mis Tachwedd. Peidiwch â gwneud cais oni bai eich bod yn gallu ymrwymo i fynychu un o'r sesiynau asesu a chyfweld wyneb yn wyneb a nodir uchod.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau nad ydynt wedi'u hateb yn yr hysbyseb neu ar ein gwefan, gallwch gysylltu â ni dri .
#J-18808-Ljbffr
Investigation Manager/ Rheolwr Ymchwilio (hybrid) in Cardiff employer: Solicitors Regulation Authority
The Solicitors Regulation Authority (SRA) is an excellent employer, offering a dynamic work environment at the heart of governance in the legal sector. With opportunities for professional growth and development, employees benefit from close collaboration with senior leaders and exposure to strategic decision-making processes. The SRA promotes a supportive culture that values attention to detail and effective communication, making it an ideal place for those seeking meaningful and rewarding employment in Birmingham or London.
Contact Details:
Solicitors Regulation Authority Recruitment Team