Aelod Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Aelod Anweithredol
£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2 i 3 diwrnod y mis.
Lleoliad: Cymru
Mae Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol Swyddfa Archwilio Cymru a sicrhau bod swyddogaethau’r sefydliad yn cael eu cyflawni mewn modd effeithlon a chost-effeithiol. Mae’r sefydliad yn cyflogi tua 300 o staff, a’r Archwilydd Cyffredinol yw ei Brif Weithredwr a’i Swyddog Cyfrifyddu. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ddeiliad swydd statudol sy’n gyfrifol am amrywiaeth o swyddogaethau archwilio, gan gynnwys archwilio cyfrifon y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Mae Senedd Cymru yn dymuno penodi Aelod Anweithredol i’r Bwrdd, a fydd yn dechrau yn y rôl ym mis Mawrth 2027.
Yn gyfan gwbl, mae Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnwys naw aelod, pump ohonynt yn aelodau anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd), ynghyd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a thri aelod sy’n gyflogeion Swyddfa Archwilio Cymru. Penodir yr Aelodau Anweithredol gan Senedd Cymru. Caiff un aelod o staff ei enwebu gan yr Archwilydd Cyffredinol, a chaiff y ddau arall eu penodi gan yr Aelodau Anweithredol yn dilyn balot o staff Swyddfa Archwilio Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y rôl hon, mae’n bwysig cyfeirio at y meini prawf cymhwysedd sy’n llywodraethu’r penodiad hwn, fel y’u nodir yn y briff gwybodaeth i ymgeiswyr.
#J-18808-Ljbffr
Non-Executive Member of the Wales Audit Office in Cardiff employer: Senedd
The Senedd in Bangor is an exceptional employer, offering a supportive work environment where your contributions directly impact the community. With a strong emphasis on employee development and a culture of collaboration, you will have opportunities to grow your skills while engaging with local and national issues. The unique location in Bangor provides a vibrant atmosphere, making it an ideal place for those passionate about public service and community engagement.