At a Glance
- Tasks: Provide high-quality operational support for learning and capability activities.
- Company: Join a dynamic team focused on enhancing learning experiences.
- Benefits: Gain valuable experience in a supportive environment with growth opportunities.
- Other info: Ideal for those passionate about supporting teams and improving processes.
- Why this job: Make a real difference in learning and development while using digital tools.
- Qualifications: Strong administrative skills and attention to detail required.
The predicted salary is between 30000 - 40000 £ per year.
Darparu cymorth gweithredu a chydlynu o safon uchel ar gyfer gweithgarwch ym maes dysgu a gallu, gan hwyluso cyflawni effeithiol drwy weinydu cywir, defnyddio offer digidol a darparu cymorth sy’n ymatebol i gwsmeriaid. Bydd deiliad y swydd yn cefnogi effeithlonrwydd, ansawdd data a’r broses o ddarparu gwasanaethau, gan weithio o dan gyfarwyddyd y Swyddog Gweithredol ac o fewn prosesau sefydledig.
Bydd y Swyddog Cymorth Gallu a Diwylliant yn darparu cymorth ymarferol i'r tîm Gallu a Diwylliant, gan sicrhau bod gweithgarwch dysgu yn cael ei gynnal yn ddidrafferth a bod cofnodion, systemau ac ymholiadau yn cael eu rheoli'n gywir ac yn broffesiynol. Bydd deiliad y swydd yn defnyddio offer digidol a deallusrwydd artiffisial yn gynyddol, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a chysondeb, a chan barhau i ganolbwyntio ar gymorth cyflawni yn hytrach na gwneud penderfyniadau neu oruchwylio. Bydd deiliad y swydd hon yn adrodd i'r Swyddog Gweithrediadau Gallu a Diwylliant.
Meini prawf o ran y Gymraeg:
- Gwrando: Yn deall trafodaethau a chyfarwyddiadau, hyd yn oed ynglŷn â phynciau anghyfarwydd. (Lefel 4)
- Siarad: Yn gallu siarad a chymryd rhan mewn trafodaeth am gyfnod hir, yn hyderus a heb anogaeth. (Lefel 4)
- Darllen: Yn deall gohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau wedi'u hanelu at siaradwyr Cymraeg rhugl. (Lefel 4)
- Ysgrifennu: Yn gallu ysgrifennu gwahanol fathau o destunau mewn arddulliau sy'n briodol i'r darllenydd sydd mewn golwg. (Lefel 4)
Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol. I gael rhagor o wybodaeth am y lefelau gallu o ran y Gymraeg, ewch i'n gwefan.
Sgiliau a chymwyseddau penodol i'r swydd:
- Sgiliau gweinyddu a threfnu cryf.
- Lefel uchel o sylw i fanylion a chywirdeb.
- Y gallu i reoli tasgau arferol yn effeithiol a bodloni terfynau amser.
- Hyder wrth ddefnyddio offer a systemau digidol.
Nid yw'r rhinweddau a ganlyn yn hanfodol ar gyfer y swydd benodol hon, ond ystyrir eu bod yn ddymunol. Dim ond os bydd dau (neu ragor) o ymgeiswyr yn cael yr un sgôr am eu cais neu mewn cyfweliad y caiff y rhain eu hystyried.
- Profiad o gefnogi timau dysgu, timau Adnoddau Dynol neu dimau sy’n darparu gwasanaethau.
- Profiad o weithio gyda systemau gweinyddol neu gyllidol.
Culture and Capability Support Officer in Cardiff employer: Senedd
Sennedd yn Cardiff is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and inclusive work environment where citizen engagement is at the forefront. Employees benefit from professional development opportunities, a supportive culture that values ethical research principles, and the chance to make a meaningful impact in the community. Working here means being part of a team that prioritises transparency and active participation, ensuring that every voice is heard.