Uwch Beiriannydd Platfform Cwmwl in Cardiff

Uwch Beiriannydd Platfform Cwmwl in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
S4C International

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant o waith sy'n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac ar adeg dyngedfennol yn hanes S4C wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Teledu, ac wrth i ni weithredu strategaeth 2030. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy'n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd i ymuno â'n Tîm.

Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i Uwch Beiriannydd Platfform chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu, cynnal a gwella’r seilwaith sy’n sail i wasanaethau digidol S4C. Gyda ffocws cryf ar AWS, byddwch yn gweithio ar draws meysydd dibynadwyedd platfformau, piblinellau defnyddio, gallu i arsylwi ar weithrediad systemau, diogelwch, integreiddio â phartneriaid a galluoedd platfformau cynhyrchu incwm. Byddwch yn cefnogi’r Arweinydd Pensaeriadol Datrysiadau i ddarparu seilwaith platfformau diogel, sefydlog, graddadwy a chost-effeithiol, sy’n galluogi S4C i wireddu ei huchelgeisiau Digidol yn Gyntaf.

Wrth i S4C barhau â'i thrawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform, mae systemau digidol, llif gwaith a rheoli cynnwys wrth wraidd popeth a wnawn o fewn y Tîm Datblygu Cynnyrch.

Byddwch yn adrodd i'r Arweinydd Pensaeriadol Datrysiadau o fewn adran Gorfforaethol / Tîm Datblygu Cynnyrch S4C.

Lleoliad: Caerdydd / Caerfyrddin / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod yn y swyddfa)

Cyflog:£62,500.00 y flwyddyn

Oriau gwaith:35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

  • Gwyliau: Yn ogystal â'r gŵyl banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi'n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r absenoldeb.
  • Pensiwn:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
  • Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel arfer yn y Deyrnas Unedig

Dyddiad Cyfweliad: I'w gadarnhau ond mae'n debygol y bydd yn cael ei gynnal ar ôl wythnos 23ain o Dachwedd 2026.

#J-18808-Ljbffr

Uwch Beiriannydd Platfform Cwmwl in Cardiff employer: S4C International

At S4C, we pride ourselves on being an inclusive and dynamic employer that values creativity and collaboration. Located in the vibrant Central Square of Cardiff, we offer a supportive work culture where employees can thrive and grow, with opportunities to engage in meaningful projects that shape the future of media. With competitive benefits including generous holiday allowances and a robust pension scheme, joining our team as an Archive & Content Delivery Officer means becoming part of a forward-thinking organisation dedicated to celebrating diversity and innovation.

S4C International

Contact Details:

S4C International Recruitment Team