Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni gweithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu, ac wrth i ni weithredu strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n Tîm.
Trosolwg y Swydd
Mae hwn yn cyfle gwych i rywun sy’n mwynhau gweithio gyda systemau cynnwys digidol, archifau, rheoli gwybodaeth a gwelliant parhaus mewn amgylchedd cyfryngol cyflym. Bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth i S4C barhau i ddatblygu fel cyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, ac wrth i ni ddatgloi gwerth ein casgliad archif helaeth. FelSwyddog Archif a Chyfleu Cynnwys byddwch yn angerddol am gyfryngau digidol, archif a systemau cynnwys. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio wrth galon strategaeth Digidol yn Gyntaf S4C, gan reoli cynnwys ar draws amrwy o lwyfannau a helpu illunio dyfodol un o archifau cyfryngau pwysicaf y Deyrnas Unedig. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyfleu a rheoli'r cynnwys a gomisiynir gan S4C, ynghyd â’r cynnwys sydd yn archif helaeth y sianel.
Wrth i S4C barhau â'i thrawsnewidiad yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, mae systemau digidol, llif gwaith a rheoli cynnwys wrth wraidd popeth a wnawn o fewn y Tîm Archif a Chyfleu Cynnwys.
Byddwch ynadroddi’rArweinydd Archif a Chyfleu Cynnwys o fewn AdranGweithrediadau CynnwysS4C.
Lleoliad: Sgwar Canolog, Caerdydd (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa).
Cyflog:£30,000.00 y flwyddyn
Oriau gwaith:35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau:Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn:Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig
#J-18808-Ljbffr