Teitl Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg
Oriau a Lleoliad: 35 awr yr wythnos. Opsiwn hyblyg o weithio o gartref neu yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd angen teithio i Gaerdydd yn achlysurol.
Graddfa Gyflog: Graddfa Swyddog Datblygu ProMo (£26,708 - £30,327)
Math o Gytundeb: Parhaol (yn amodol ar gyllid)
Gwyliau a Buddiannau:
- Wythnos waith hyd at 35-awr
- Hyd at 25 diwrnod o wyliau/flwyddyn, yn cynyddu i 30 diwrnod (yn ddibynnol ar hyd gwasanaeth)
- Absenoldeb salwch â thâl - hyd at 3 mis (yn ddibynnol ar hyd gwasanaeth)
- Gwyliau Banc statudol yn ogystal ag 1 diwrnod ar gyfer Noswyl Nadolig neu Benblwydd
- Gweithio hybrid (yn ddibynnol ar rôl y swydd)
- Hyd at 4 wythnos o weithio i ffwrdd o dy leoliad gwaith yng Nghymru
- Cynllun pensiwn - cyfraniad cyflogwr o hyd at 6%
- Cynllun beicio i'r gwaith (www.cyclescheme.co.uk)
- Yswiriant marwolaeth mewn swydd
- Lwfans Rhyngrwyd/Ffôn Symudol misol £30
- Lwfans Cyfarfodydd/Digwyddiadau £50
- Apwyntiadau Meddygol â Thâl
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gwybodaeth am ProMo Cymru
Ein Gweledigaeth: Newid creadigol er budd cymdeithasol
Ein Cenhadaeth: Gwireddu newid wrth Gyfathrebu, Cynllunio, Adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau
Ein ffordd o weithio
Mae ProMo Cymru yn gweithio ar y cyd i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a'r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.
Rydym yn gweithio â chymunedau trwy ddigidol a chynhyrchu cyfryngau, cyfathrebu, eiriolaeth, ac ymgysylltiad diwylliannol. Mae dros 25 mlynedd o gyflawni gwybodaeth ieuenctid digidol yn llywio ein gwaith. Mae'r wybodaeth yma yn cael ei rannu drwy hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, gan sefydlu partneriaethau hirdymor er budd pobl a gwasanaethau.
Mae