At a Glance
- Tasks: Support groundbreaking dementia research using innovative techniques and models.
- Company: Join the vibrant team at Cardiff University’s Dementia Research Institute.
- Benefits: Enjoy competitive salary, 45 days holiday, and a supportive work environment.
- Other info: Flexible working options available; inclusive workplace culture.
- Why this job: Make a real difference in dementia research while developing your skills.
- Qualifications: BSc in neuroscience or related field; research experience preferred.
The predicted salary is between 33951 - 36636 £ per year.
Mae swydd Technegydd Ymchwil a ariennir gan Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU (DRI) ar gael yng ngrŵp ymchwil yr Athro Paul Morgan a Dr Nikoleta Daskoulidou, yn Sefydliad Ymchwil Dementia’r DU yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sydd wedi'i lleoli ar gampws Cathays. Bydd y rôl hon yn cynnwys cefnogi astudiaethau o archwilio camweithrediad oligodendrocyte a cholli myelin mewn clefyd Alzheimer gan ddefnyddio modelau llygod a meinweoedd ymenyddiau post-mortem dynol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ymchwil sy'n archwilio sut mae camreoleiddio'r system ategol yn cyfrannu at ddifrod myelin mewn niwroddirywiad, gyda'r nod o nodi mecanweithiau a thargedau therapiwtig newydd.
Bydd y rôl yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau arbrofol, gan gynnwys imiwnohistocemeg, microsgopeg cydffocal, technegau bioleg foleciwlaidd a chellog, microsgopeg electronau trawsyrru (TEM) a dadansoddi meinweoedd o ymenyddiau llygod a phobl. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig iawn gyda BSc mewn niwrowyddoniaeth, imiwnoleg, y gwyddorau biofeddygol neu ddisgyblaeth gysylltiedig, neu brofiad ymchwil cyfatebol. Mae'r gwaith yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd ymchwil, gan gynnwys bioleg foleciwlaidd, biocemeg, niwrowyddoniaeth, bioleg y gell, ac imiwnoleg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad sylweddol mewn o leiaf un o'r meysydd hyn. Byddai profiad mewn histoleg, microsgopeg, niwrobioleg, neu dechnegau imiwnolegol yn fanteisiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos parodrwydd i ddatblygu sgiliau ac i weithio gyda thîm sy'n cynnwys staff ôl-ddoethurol, myfyrwyr PhD, MSc a myfyrwyr israddedig. Bydd sgiliau cyfathrebu, rheoli amser a hunangymhelliant rhagorol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Cysylltwch â Dr Nikoleta Daskoulidou os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y rôl hon.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon sydd ar gael ar unwaith am gyfnod penodol tan 28 Chwefror 2027. Cyflog: £33,951 hyd at £36,636 y flwyddyn (Gradd 5). Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle ceir llawer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 6 Mai 2026. Dyddiad cau: Dydd Gwener, 22 Mai 2026. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.
Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Diben y Swydd
Cefnogi'r Brifysgol yn y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU, cyflawni gwaith cefnogol, darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth, ac arwain prosiectau yn y maes hwn.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Rhoi cyngor ac arweiniad proffesiynol ar brosesau a gweithdrefnau’r tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia’r DU i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r camau gweithredu gorau pan fo'n briodol, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod materion cymhleth a chysyniadol yn cael eu deall.
- Ymchwilio a dadansoddi materion penodol o fewn y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU, gan greu adroddiadau argymhellion, wedi'u cefnogi gan ddatblygiadau yn y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU.
- Sicrhau bod y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Dementia’r DU yn darparu i’r sefydliad, gan newid y ddarpariaeth yn rhagweithiol yn unol â gofynion y cwsmer.
- Cydweithio ag eraill i argymell ffyrdd o ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig.
- Meithrin perthynas waith ag unigolion cyswllt allweddol, gan greu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Creu gweithgorau penodol gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU.
- Goruchwylio timau prosiect penodol o bryd i'w gilydd i gyflawni amcanion allweddol.
- Datblygu a chyflwyno hyfforddiant yn y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU.
- Cyflawni ystod o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r adran.
- Cyfarwyddo a thywys gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol yn y tîm Ategu a’r Ymennydd yn Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU yn ôl yr angen.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Cadw at bolisïau’r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg
- Gradd/cymhwyster NVQ Lefel 4 neu aelodaeth/profiad proffesiynol cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Profiad sylweddol o weithio mewn disgyblaeth arbenigol.
- Y gallu i ddangos gwybodaeth broffesiynol am y ddisgyblaeth arbenigol er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Y gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel sy’n briodol.
Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl.
- Tystiolaeth o’r gallu i ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu'r gwasanaeth yn briodol er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon.
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
- Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau sylweddol drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau sydd â sawl canlyniad posibl.
- Tystiolaeth o ddealltwriaeth amlwg o ddatblygiadau allweddol yn y ddisgyblaeth arbenigol.
- Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth i derfynau amser, a chynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill, yn ogystal â monitro cynnydd.
Arall
- Parodrwydd i hyfforddi a datblygu ymhellach.
Meini Prawf Dymunol
- Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol.
- Profiad mewn imiwnohistocemeg, delweddu cydffocal, dadansoddi delweddau meddalwedd Imaris a microsgopeg electronau trosglwyddo.
- Profiad o weithio ym maes Addysg Uwch.
- Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Research Technician employer: Prifysgol Caerdydd
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team
StudySmarter Expert Advice 🤫
We think this is how you could land Research Technician
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to people in your field, especially those connected to the University of Cardiff. A friendly chat can open doors that applications alone can't.
✨Tip Number 2
Prepare for interviews by researching the latest in neurobiology and immunology. Show us you’re not just passionate but also knowledgeable about the role and its challenges.
✨Tip Number 3
Practice your communication skills! Whether it’s explaining complex concepts or discussing your research experience, being clear and confident will make a great impression.
✨Tip Number 4
Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen by the right people. Plus, we love seeing candidates who take the initiative!
We think you need these skills to ace Research Technician
Some tips for your application 🫡
Show Your Passion: When writing your application, let your enthusiasm for neuroscience and research shine through. We want to see that you’re genuinely excited about the role and the impact it can have on dementia research.
Tailor Your Supporting Statement: Make sure to align your skills and experiences with the essential criteria listed in the job description. We’re looking for specific examples that demonstrate how you meet these requirements, so don’t hold back!
Keep It Professional Yet Personal: While we love a friendly tone, remember to maintain professionalism in your application. Use clear language and structure your thoughts well, making it easy for us to see your qualifications and fit for the team.
Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our official website! This ensures that your application is processed correctly and gives you the best chance of being considered for the role.
How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd
✨Know Your Stuff
Make sure you brush up on your knowledge of neurobiology, immunology, and the specific techniques mentioned in the job description. Be ready to discuss your experience with histology, microscopy, and any relevant research projects you've been involved in.
✨Show Your Passion
Demonstrate your enthusiasm for dementia research and the role of a Research Technician. Share why this field matters to you and how your background aligns with the goals of the Dementia Research Institute.
✨Prepare Questions
Have a few thoughtful questions ready to ask your interviewers. This shows you're engaged and interested in the role. You might ask about the team dynamics or the specific projects you'll be working on.
✨Highlight Teamwork Skills
Since the role involves working with postdoctoral staff and students, emphasise your ability to collaborate effectively. Share examples of how you've worked in teams before and contributed to achieving common goals.