At a Glance
- Tasks: Assist in collecting biomechanical data using advanced imaging and motion capture techniques.
- Company: Cardiff University, a leading research institution with a focus on innovation.
- Benefits: Competitive salary, full-time hours, and opportunities for professional development.
- Other info: Dynamic, interdisciplinary team environment with excellent career growth potential.
- Why this job: Join a groundbreaking project that impacts health and biomechanics while working with cutting-edge technology.
- Qualifications: Degree or equivalent experience in engineering or related fields; technical lab experience preferred.
The predicted salary is between 33951 - 36636 € per year.
Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol (MSKBRF), Ysgol Peirianneg Caerdydd. Mae cyllid EPSRC wedi’i ddyfarnu i'r Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Cyhyrysgerbydol ar gyfer prosiect ymchwil newydd a chyffrous o’r enw, Piblinell aml-blatfform ar gyfer peirianneg gweithrediad cymal yr ysgwydd dynol (Ysgwydd ENGIN). Bydd y prosiect hwn yn datblygu dulliau newydd o ddeall sut mae'r ysgwydd ddynol yn gweithio mewn iechyd, adegau o ansefydlogrwydd ac wrth amnewid cymalau. Cynhelir y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi'i alinio â phartneriaeth o bwys sy'n cynnwys Coleg Imperial Llundain a phartneriaid rhyngwladol. Mae'n rhan o amgylchedd ymchwil sy'n arwain y byd ac sy'n cwmpasu delweddu meddygol, modelu cyfrifiadurol a biofecaneg arbrofol.
Mae poen a chamweithrediad yn yr ysgwydd yn gyffredin iawn ac yn rhoi baich sylweddol ar gleifion a gwasanaethau gofal iechyd. Er gwaethaf y defnydd cynyddol o ymyriadau llawfeddygol, gan gynnwys arthroplasti'r ysgwydd, mae canlyniadau'n parhau i fod yn amrywiol ac yn anodd eu rhagweld. O'i gymharu â'r glun a'r pen-glin, mae'r ysgwydd yn cyflwyno problem fiofecanegol arbennig o heriol gan fod gweithrediad yn dibynnu ar ryngweithiadau cymhleth rhwng geometreg esgyrn, meinweoedd meddal a chydlyniant y cyhyrau. Mae prosiect Ysgwydd ENGIN EPSRC yn mynd i'r afael â'r her hon trwy biblinell aml-blatfform unigryw sy'n rhychwantu delweddu pelydr-X plaen ddwbl deinamig in vivo, modelu cyhyrysgerbydol a phrofion celaneddol wedi'u llywio gan robotiaid.
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y swydd yn y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF). Hwn yw cartref yr unig gyfleuster pelydr-X plaen dwbl deinamig yn y DU sydd wedi'i integreiddio â chofnodi symudiad ac electromyograffeg, ochr yn ochr â mynediad at ddelweddu uwch ac arbenigedd biofecaneg cyhyrysgerbydol sefydledig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm hynod ryngddisgyblaethol sy'n cwmpasu peirianneg, orthopaedeg glinigol, delweddu a biofecaneg gyfrifiadurol, a bydd cyfleoedd i ymgysylltu â chydweithwyr ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Yn y rôl hon, byddwch yn rhoi cymorth technegol ac ymchwil arbenigol ar gyfer gwaith biofecaneg in-vivo ar yr ysgwydd yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn cynnwys:
- Paratoi a chynorthwyo sesiynau casglu data drwy ddefnyddio pelydr-X plaen dwbl deinamig, cofnodi symudiad ac EMG.
- Cynorthwyo llifoedd gwaith delweddu a dadansoddi delweddau.
- Prosesu a threfnu setiau data arbrofol.
- Cynnal offer labordy arbenigol.
- Cyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau technegol gwell a phiblinellau dadansoddi.
Bydd y rôl yn cynorthwyo astudiaethau gyda gwirfoddolwyr iach a chleifion ac yn cyfrannu at nod ehangach y prosiect, sef sefydlu dulliau dilysu, wedi'u galluogi gan AI, i ddadansoddi symudiad cymalau’r ysgwydd.
Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) o 1 Awst 2026 am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2029. Cyflog: £33,951 - £36,636 y flwyddyn (Grade 5). Ni ddisgwyliir y bydd penodiad yn cael ei wneud uwchben Pwynt 25 ar raddfa gradd 5, £33,951 y flwyddyn.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Prof C Holt drwy e-bostio Holtca@cardiff.ac.uk. I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio Enginadmin@caerdydd.ac.uk.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 14 Mai 2026. Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Mai 2026.
Mae gan yr Ysgol Peirianneg Wobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod arfer cyflogaeth da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth. Mae Prifysgol Caerdydd yn gyflogwr cyfle cyfartal sy’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod yn enwedig i ymgeisio am y swydd hon. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu’r swydd neu weithio’n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyletswyddau
Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- Cynorthwyo i gasglu data biofecaneg yr ysgwydd drwy ddefnyddio pelydr-X plaen dwbl deinamig, cofnodi symudiad ac EMG.
- Paratoi labordai, cyfarpar a meddalwedd ar gyfer sesiynau ymchwil gyda gwirfoddolwyr iach a chleifion.
- Prosesu, trefnu a rheoli setiau data delweddu ac arbrofol.
- Cynorthwyo llifoedd gwaith ar gyfer cofrestru delweddau a dadansoddi data er mwyn meintioli symudiad cymal yr ysgwydd.
- Cynnal cyfarpar ymchwil biofecaneg arbenigol a datrys problemau sy’n codi ynddo.
- Helpu i ddatblygu a gwella protocolau technegol, gweithdrefnau a dogfennaeth.
- Cynorthwyo'r tîm ymchwil ehangach i gyflawni prosiect ysgwydd ENGIN.
- Cydweithio ag eraill er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau, gweithdrefnau a dogfennaeth dechnegol sefydledig yn y cyfleuster ymchwil a'r prosiect.
- Meithrin perthnasoedd gwaith â phrif gysylltiadau, gan greu cysylltiadau cyfathrebu priodol ag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau'r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Creu gweithgorau penodol o gydweithwyr ar draws y Brifysgol i gyflawni amcanion y prosiect.
- Goruchwylio timau prosiectau penodol o bryd i'w gilydd i gyflawni amcanion allweddol.
- Datblygu hyfforddiant a’i gyflwyno, yn ogystal â rhoi arweiniad a chymorth technegol i staff, myfyrwyr, ac aelodau tîm y prosiect drwy ddefnyddio'r cyfleuster ymchwil a'r cyfarpar cysylltiedig.
- Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol yn ôl y gofyn.
Meini Prawf Hanfodol
- Cymwysterau ac Addysg: Gradd, HNC/HND, NVQ4 neu gymhwyster cyfatebol mewn peirianneg, peirianneg biofeddygol, peirianneg feddygol, biofecaneg, delweddu, neu ddisgyblaeth sydd â chysylltiad agos, neu brofiad cyfatebol sy'n gysylltiedig â gwaith.
- Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad: Profiad sylweddol o weithio mewn gweithle technegol, labordy neu amgylchedd ymchwil sy'n cynnwys cyfarpar neu offer arbenigol.
- Cyfathrebu, Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Gwaith Tîm: Y gallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol a chysyniadol fanwl a chymhleth yn glir ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl gan gynnwys staff, myfyrwyr, y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil a chydweithwyr.
- Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau: Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau technegol eang, nodi a chynnig atebion ymarferol, a datrys problemau sydd ag ystod o ddeilliannau posibl.
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o weithio gydag un neu ragor o'r canlynol: Recordio symudiadau, electromyograffeg, pelydr-X neu systemau delweddu eraill, llifoedd gwaith dadansoddi delweddau, neu gyfarpar biofecaneg cyhyrysgerbydol.
- Profiad o weithio gyda gwirfoddolwyr iach, cleifion, neu gyfranogwyr ymchwil eraill mewn amgylchedd ymchwil neu glinigol.
- Profiad o brosesu data, codio neu ddadansoddi meintiol drwy ddefnyddio meddalwedd fel MATLAB neu Python.
- Profiad o weithio mewn Addysg Uwch, y GIG neu amgylchedd ymchwil-ddwys.
Research Specialist Technician employer: Prifysgol Caerdydd
At Cardiff University, we pride ourselves on being an exceptional employer, offering a vibrant and inclusive work culture that fosters collaboration and innovation. As a Research Specialist Technician in the cutting-edge Musculoskeletal Bioengineering Research Facility, you will have access to world-class resources and interdisciplinary teams, providing ample opportunities for professional growth and development while contributing to impactful research that addresses real-world health challenges.
StudySmarter Expert Advice🤫
We think this is how you could land Research Specialist Technician
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to people in your field, especially those connected to the Research Specialist Technician role. Attend events, join online forums, and don’t be shy about asking for informational interviews. You never know who might have the inside scoop on job openings!
✨Tip Number 2
Prepare for interviews by researching the latest trends in bioengineering and musculoskeletal research. Show us you’re not just passionate but also knowledgeable about the field. Bring up specific projects or technologies that excite you during your chat!
✨Tip Number 3
Practice your technical skills! If you’ve got experience with X-ray imaging or EMG, brush up on those techniques. We want to see you demonstrate your hands-on abilities, so consider doing mock sessions or even volunteering in related labs.
✨Tip Number 4
Apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen. Plus, it shows you’re serious about joining our team at Cardiff University. Don’t forget to tailor your application to highlight how your skills match the job description!
We think you need these skills to ace Research Specialist Technician
Some tips for your application 🫡
Show Off Your Skills:Make sure to highlight your relevant skills and experiences in your application. We want to see how your background fits with the role of Research Specialist Technician, so don’t hold back on showcasing your expertise!
Tailor Your Statement:When writing your supporting statement, tailor it specifically to the job description. Use keywords from the listing to demonstrate that you understand what we’re looking for and how you can contribute to the team.
Be Clear and Concise:Keep your application clear and to the point. We appreciate well-structured documents that are easy to read, so avoid fluff and focus on what matters most to us.
Apply Through Our Website:Don’t forget to submit your application through our website! It’s the best way to ensure your application gets to us directly and is considered promptly.
How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd
✨Know Your Stuff
Make sure you brush up on the latest developments in biomechanics and related technologies. Familiarise yourself with the specifics of the ENGIN project and how it integrates imaging techniques and data analysis. This will show your genuine interest and understanding of the role.
✨Showcase Your Experience
Prepare to discuss your previous experience in technical environments, especially any work with imaging equipment or data collection. Be ready to provide examples of how you've solved problems or improved processes in past roles, as this will highlight your practical skills.
✨Ask Smart Questions
Come prepared with insightful questions about the research facility and the ENGIN project. Inquire about the team dynamics, collaboration opportunities, and how the role contributes to the overall goals of the project. This demonstrates your enthusiasm and forward-thinking approach.
✨Emphasise Teamwork
Since the role involves working in an interdisciplinary team, be sure to highlight your teamwork skills. Share examples of how you've successfully collaborated with others in past projects, and express your eagerness to contribute to a diverse team environment.