At a Glance
- Tasks: Join a cutting-edge research team exploring brain function and dementia.
- Company: UK Dementia Research Institute at Cardiff University, a leader in neuroscience.
- Benefits: Great benefits including 45 days annual leave, pension scheme, and professional development.
- Other info: Dynamic environment with opportunities for collaboration and career growth.
- Why this job: Make a real impact in neuroscience and contribute to groundbreaking dementia research.
- Qualifications: PhD or near completion in a relevant field; expertise in molecular biology or related areas.
The predicted salary is between 41064 - 46049 € per year.
Cymdeithion Ymchwil (x3) Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol Yr Ysgol Meddygaeth Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Mae Labordy Baljit Khakh yn symud o Brifysgol California Los Angeles i Sefydliad Ymchwil Dementia'r DU (UK DRI) yng Nghaerdydd. Mae'n awyddus i benodi nifer o Gymdeithion Ymchwil i ymuno â rhaglen ymchwil newydd ac uchelgeisiol sy'n ymchwilio i rolau astrosytau yng ngweithrediad yr ymennydd a dementia. Mae'r Athro Baljit S. Khakh, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei ganfyddiadau ym maes ffisioleg astrosytau a signalau niwron-glia, yn lansio ei raglen ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod haf 2026. Bydd y labordy yn integreiddio geneteg foleciwlaidd, delweddu uwch, electroffisioleg, a niwrowyddoniaeth drosiadol i archwilio mecanweithiau niwrowyddoniaeth sylfaenol a datgelu sut mae camweithrediad astrosytau yn cyfrannu at ddechrau dementia a’i ddatblygiad.
Dyma gyfle newydd i ymuno â labordy niwrowyddoniaeth blaenllaw yn un o ganolfannau ymchwil mwyaf bywiog a chydweithredol y DU. Bydd y grŵp yn archwilio sut mae astrosytau yn siapio gweithgareddau cylchedau niwral, gwybyddiaeth, a niwroddirywiad — a'r nod fydd nodi mecanweithiau newydd a strategaethau therapiwtig ar gyfer dementia ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd y labordy mewn cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yn Adeilad Hadyn Ellis.
Mae Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI), a lansiwyd yn 2017, yn gawr ym maes arloesi gwyddonol wedi iddo gael buddsoddiad gwerth £300 miliwn na welwyd ei debyg ym maes ymchwil i ddementia - y mwyaf o'i fath yn hanes y DU. Pwrpas UK DRI yw trawsnewid rhagolygon pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwroddirywiol neu sydd mewn perygl o’u datblygu, a hynny drwy ymchwil. Sefydliad Ymchwil er Dementia’r DU yng Nghaerdydd yw’r buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil i glefydau niwroddirywiol hyd yma yng Nghymru ac mae’n rhan o amgylchedd ymchwil niwrowyddoniaeth a biofeddygol o'r radd flaenaf Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan yn dod â gwyddonwyr o ystod o gefndiroedd ymchwil ynghyd, ac mae'r labordy yn cynnig lleoliad eithriadol ar gyfer arloesi, cyhoeddi papurau ymchwil effeithiol, cydweithio, hyfforddiant mewn dulliau o'r radd flaenaf a datblygu gyrfa.
Hoffem glywed gennych os ydych yn:
- Ymrwymo i ymchwil drylwyr, gydweithredol ac arloesol.
- Llawn cymhelliad ac uchelgais.
- Hyblyg, trefnus ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu.
- Aelod effeithiol o dîm sydd â phrofiad diamheuol o weithio ar eich liwt eich hun.
- Meddu ar ddiddordeb mewn teithio i ddatblygu partneriaethau a allai gynnwys treulio peth amser yn labordy cydweithiwr cenedlaethol neu ryngwladol.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r rôl hon – Mae’n rhaid ichi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd datblygu’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl ichi ddechrau yn y swydd, rydym eisiau eich cefnogi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i wireddu eich llawn botensial:
- Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr.
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
- Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’r swydd.
- Cynllun mentora.
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â'r Athro Baljit Khakh drwy ebostio KhakhB@caerdydd.ac.uk.
Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos) yw hon sydd ar gael o 1 Awst 2026, ac mae am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2031. Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Graddfa 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r bobl a benodir fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 14 Mai 2026. Diddiad cau: Dydd Gwener, 29 Mai 2026. Hysbysebwyd y swydd hon i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig yn flaenorol. Rydym nawr yn gwahodd ceisiadau allanol.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd.
Diben y Swydd: Cynnal ymchwil yn y labordy, gan integreiddio geneteg foleciwlaidd, delweddu uwch, electroffisioleg, a niwrowyddoniaeth drosiadol. Y nod fydd datgelu sut mae camweithrediad astrosytau yn cyfrannu at ddechrau dementia a’i ddatblygiad. Ar ben hynny, byddwch yn cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol, gan gynnal gwaith ymchwil i’w gyhoeddi mewn cyfnodolion o safon uchel. Dilyn rhagoriaeth mewn ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. Swyddi amser llawn yw’r rhain sy’n cynnwys cryn dipyn o waith arbrofol a dadansoddi data, a bydd yn ofynnol bod yn bresennol wyneb yn wyneb.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau: Prif Ddyletswyddau Ymchwil • Cynnal ymchwil a meddu ar arbenigedd mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol: delweddu in vivo, electroffisioleg darnau’r ymennydd, dadansoddiadau ymddygiadol, geneteg foleciwlaidd, dylunio fectorau firaol, bioleg foleciwlaidd, proteomeg neu fiowybodeg. • Cyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a'r Brifysgol drwy sicrhau allbwn y gellir ei fesur. Mae hyn yn cynnwys gwneud ceisiadau am gyllid, cyhoeddi gwaith mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol, yn ogystal â recriwtio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a’u goruchwylio. • Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid. • Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl y gofyn. • Cyflawni tasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu'r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith er mwyn sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon. • Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo'n briodol. • Adolygu a chyfosod llenyddiaeth ymchwil yn y maes. • Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol. • Datblygu a chreu rhwydweithiau yn fewnol yn y Brifysgol a’r tu allan iddi, dylanwadu ar benderfyniadau, archwilio gofynion ymchwil y dyfodol, a rhannu syniadau ymchwil er budd prosiectau ymchwil.
Arall • Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol, i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau sy’n strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws sawl gweithgarwch. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol. • Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd sy’n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad. • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth yr Ysgol a gweithgareddau i hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt. • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
PWYSIG: Meini Prawf Tystiolaeth Polisi’r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swydd hon, 21414BR yw’r cyfeirnod. Os na fydd ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos ei fod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fyddwn yn ymdrin â’i gais ymhellach. Mae’r Ysgol Meddygaeth yn derbyn CVs sy’n cyd-fynd â thystiolaeth bod meini prawf y swydd wedi’u bodloni.
Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg 1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu bron â’i chwblhau/cyflwyno) mewn maes pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 2. Arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad perthnasol o weithio yn un neu ragor o’r meysydd canlynol: i. Bioleg foleciwlaidd ii. RNAseq a dadansoddiadau data iii. Proteomeg a dadansoddiadau data iv. Electroffisioleg mewn unrhyw leoliad cellog in vivo neu mewn darnau o’r ymennydd v. Delweddu calsiwm mewn unrhyw leoliad cellog in vivo neu mewn darnau o’r ymennydd vi. Bioleg glial mewn diwylliant celloedd neu in vivo vii. Dulliau in vivo viii. Profiad o ddiwylliant celloedd, yn ddelfrydol gydag astrosytau sy'n deillio o gelloedd bonyn ix. Dealltwriaeth o niwrowyddoniaeth gellog a moleciwlaidd 3. Gwybodaeth am statws cyfredol gwaith ymchwil ym maes arbenigol niwrowyddoniaeth a bioleg glial 4. Y gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol a/neu gyflwyno data mewn cynadleddau cenedlaethol 5. Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu datblygu ceisiadau i gyrff cyllido. Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm 6. Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn glir 7. Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i ffocws i ymdrechion y tîm, yn ogystal ag ysgogi unigolion. Arall 8. Y gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith 9. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos. Meini prawf dymunol 10. Cymwysterau proffesiynol perthnasol megis hyfforddiant mewn defnyddio diwylliannau celloedd 11. Tystiolaeth o bartneriaethau 12. Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd addysg uwch.
Research Associates (x3) employer: Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Caerdydd, a sefydliad ymchwil blaenllaw, yw lleoliad cyffrous i ymuno â labordy niwrowyddoniaeth sy'n arbenigo mewn ymchwil dementia. Gyda phecyn buddion eang, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn lleol, mae'r amgylchedd gwaith yn annog datblygiad personol a phroffesiynol, gan gynnig cyfleoedd i gydweithio â gwyddonwyr o gefndiroedd amrywiol. Mae'r labordy yn cynnig cyfle i gyfrannu at ymchwil arloesol sy'n newid bywydau, gan greu effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
StudySmarter Expert Advice🤫
We think this is how you could land Research Associates (x3)
✨Tip Number 1
Network like a pro! Get out there and connect with people in your field. Attend conferences, seminars, or even casual meet-ups. You never know who might have the inside scoop on job openings or can put in a good word for you.
✨Tip Number 2
Prepare for interviews by researching the lab and its projects. Show genuine interest in their work and be ready to discuss how your skills align with their research goals. This will help you stand out as a candidate who’s not just looking for any job, but is truly passionate about their mission.
✨Tip Number 3
Don’t underestimate the power of follow-ups! After an interview, send a thank-you email expressing your appreciation for the opportunity. It keeps you fresh in their minds and shows your enthusiasm for the role.
✨Tip Number 4
Apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen. Plus, it shows you’re serious about joining our team at the UK DRI. Don’t miss out on this chance!
We think you need these skills to ace Research Associates (x3)
Some tips for your application 🫡
Tailor Your Application:Make sure to customise your application to highlight how your skills and experiences align with the role. We want to see how you fit into our research team, so don’t hold back on showcasing your relevant expertise!
Show Your Passion:Let your enthusiasm for research shine through in your written application. We love candidates who are genuinely excited about the work we do at StudySmarter, especially in the field of neuroscience and dementia research.
Be Clear and Concise:Keep your writing clear and to the point. We appreciate well-structured applications that make it easy for us to see your qualifications and motivations without wading through unnecessary fluff.
Apply Through Our Website:Don’t forget to submit your application through our official website! It’s the best way to ensure your application gets to the right place and is considered promptly.
How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd
✨Know Your Research
Before the interview, dive deep into the latest research on astrocytes and dementia. Familiarise yourself with Professor Khakh's work and the specific methodologies mentioned in the job description. This will not only show your genuine interest but also allow you to engage in meaningful discussions during the interview.
✨Showcase Your Skills
Prepare to discuss your relevant experience in molecular genetics, electrophysiology, or any of the other specified areas. Bring examples of your past research projects, publications, or presentations that highlight your expertise. Be ready to explain how these experiences make you a great fit for the role.
✨Ask Insightful Questions
Interviews are a two-way street! Prepare thoughtful questions about the lab's research direction, potential collaborations, or the team dynamics. This demonstrates your enthusiasm and helps you assess if the environment aligns with your career goals.
✨Be Yourself
While it's important to be professional, don't forget to let your personality shine through. The lab values collaboration and creativity, so showing your passion for research and your ability to work well in a team can set you apart from other candidates.