Research Associate - Musculoskeletal Biomechanics Research Facility

Research Associate - Musculoskeletal Biomechanics Research Facility

Full-Time 41064 - 46049 € / year (est.) No home office possible
P

At a Glance

  • Tasks: Join a cutting-edge research team to develop AI-based imaging techniques for shoulder biomechanics.
  • Company: Cardiff University, a leader in interdisciplinary research and innovation.
  • Benefits: Competitive salary, flexible working options, and opportunities for professional growth.
  • Other info: Collaborate with top academic and clinical partners globally in a dynamic research environment.
  • Why this job: Make a real impact in healthcare by transforming our understanding of shoulder movement.
  • Qualifications: PhD or near completion in a relevant field; experience in biomechanics and medical imaging.

The predicted salary is between 41064 - 46049 € per year.

Cydymaith Ymchwil Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol (MSKBRF) Ysgol Peirianneg Caerdydd. Dyfarnwyd cyllid EPSRC i'r Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol ar gyfer prosiect ymchwil newydd cyffrous, Piblinell aml-blatfform ar gyfer peirianneg gweithrediad cymal yr ysgwydd ddynol. Bydd y prosiect yn datblygu dulliau newydd i ddeall biofecaneg yr ysgwydd ym maes iechyd, ansefydlogrwydd ac amnewid cymalau, gan ddod â delweddu meddygol uwch, modelu cyfrifiadurol a biofecaneg arbrofol ynghyd mewn cydweithrediad graddfa fawr rhwng Prifysgol Caerdydd, Imperial College Llundain a phartneriaid prosiect rhyngwladol.

Mae poen a chamweithrediad yn yr ysgwydd yn gyffredin iawn ac yn gosod baich sylweddol ar gleifion a gwasanaethau gofal iechyd. Er gwaethaf y defnydd cynyddol o ymyriadau llawfeddygol, gan gynnwys gweithdrefnau sefydlogi ac arthroplasti'r ysgwydd, mae canlyniadau'n parhau'n amrywiol ac yn anodd eu rhagweld. O'i chymharu â'r glun a'r pen-glin, mae'r ysgwydd yn cyflwyno her fiofecanegol arbennig o gymhleth oherwydd bod gweithrediad yn dibynnu ar ryngweithiadau cyd-gysylltiedig rhwng geometreg esgyrn, meinweoedd meddal, dyluniad mewnblaniadau a llwytho cyhyrau.

Mae prosiect ENGIN Shoulder yn mynd i'r afael â'r her hon trwy biblinell aml-blatfform unigryw sy'n rhychwantu delweddu pelydr-X plaen dwbl deinamig in-vivo, modelu cyhyrysgerbydol penodol a phrofion celaneddol wedi'u llywio gan robotiaid. Bydd y swydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn cyfrannu at waith biofecaneg ysgwydd in-vivo y Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol, sy'n gartref i unig gyfleuster pelydr-X plaen dwbl deinamig y DU sydd wedi'i integreiddio â chofnodi symudiad ac electromyograffeg.

Gan weithio'n agos gyda thîm In-Vivo Caerdydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn datblygu ac yn cyflawni dulliau cofrestru delweddau seiliedig ar AI a dadansoddi biofecaneg ar gyfer yr ysgwydd, gan gefnogi piblinell delweddu newydd sy'n cysylltu data in-vivo Caerdydd â gweithgareddau modelu cyhyrysgerbydol a phrofi celaneddol ar draws y consortiwm ehangach. Mae'r rôl yn gyfle ardderchog i weithio mewn amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol iawn sy'n rhychwantu peirianneg, orthopaedeg, delweddu a gwyddor data.

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â phartneriaid academaidd a chlinigol blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol, a bydd yn cyfrannu at ddatblygu dulliau, setiau data a phiblinellau dadansoddi newydd fydd yn helpu i drawsnewid dealltwriaeth o symudiad cymal yr ysgwydd a chefnogi arloesedd clinigol yn y dyfodol.

Yn y rôl, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu, gweithredu ac integreiddio cofrestru delweddau seiliedig ar AI a dulliau dadansoddi biofecaneg yn rhaglen ENGIN-Shoulder, gan ddefnyddio data a gynhyrchir o lwyfannau pelydr-X plaen dwbl deinamig, cofnodi symudiad, electromyograffi a delweddu MR Caerdydd a chysylltu'r rhain â modelu cyhyrysgerbydol penodol a phrofion celaneddol robotig a gynhelir gydag Imperial College Llundain a phartneriaid y prosiect.

Gan weithio gyda fframweithiau dadansoddi presennol a setiau data sydd newydd eu caffael gan wirfoddolwyr iach a grwpiau cleifion, byddwch yn helpu i ddatblygu piblinell aml-blatfform ar gyfer deall gweithrediad yr ysgwydd, ansefydlogrwydd a biofecaneg amnewid cymalau. Bydd y swydd yn canolbwyntio'n arbennig ar drosi gwybodaeth ginematig sy'n deillio o ddelweddu i lifoedd gwaith dadansoddi cadarn, mireinio dulliau ar gyfer meintioli symudiad ysgwydd gynhenid ac a fewnblannwyd, a chefnogi integreiddio allbynnau biofecaneg in vivo Caerdydd gyda data in silico ac in vitro ar draws y rhaglen ehangach.

Byddai eich prif ddyletswyddau'n cynnwys:

  • Gweithio gyda chydweithwyr Caerdydd, Imperial a rhyngwladol i ddatblygu, cymhwyso a mireinio llifoedd gwaith cofrestru delweddau sy'n seiliedig ar AI ar gyfer setiau data pelydr-X plaen dwbl deinamig yr ysgwydd gynhenid ac wedi'i mewnblannu.
  • Datblygu ac integreiddio piblinellau dadansoddi biofecaneg sy'n cysylltu pelydr-X plaen dwbl deinamig, cofnodi symudiad, electromyograffi a modelau anatomegol penodol sy'n deillio o MR.
  • Cynorthwyo gyda phrosesu, dadansoddi a dehongli data ysgwydd cinemateg gan wirfoddolwyr iach a charfannau cleifion.
  • Cyfrannu at ddilysu ac optimeiddio dulliau cofrestru a dadansoddi delweddau gan ddefnyddio setiau data perthnasol in vivo ac in vitro.
  • Cynorthwyo gydag integreiddio allbynnau delweddu in vivo Caerdydd gyda modelu cyhyrysgerbydol a gweithgareddau profi celaneddol wedi'u llywio gan robotiaid ar draws y rhaglen.
  • Dadansoddi a dehongli data delweddu a biofecaneg i feintioli symudiad yr ysgwydd, mecaneg sy'n gysylltiedig ag ansefydlogrwydd a gweithrediad yn gysylltiedig â mewnblaniad.
  • Cyfrannu at guradu, dogfennu a lledaenu llifau gwaith dadansoddi, setiau data sy’n deillio ohonynt ac allbynnau at ddefnydd ymchwil gydweithredol ac agored.
  • Gweithio'n agos gyda thîm Caerdydd, clinigwyr a chydlynydd y prosiect i sicrhau bod gweithgarwch dadansoddi’n cyd-fynd â gwaith parhaus i gasglu data, llywodraethu a chyflawni’r prosiect.
  • Cyfrannu at adroddiadau, cyhoeddiadau, cyflwyniadau a chyfarfodydd cydweithredol ym mhob rhan o gonsortiwm ENGIN-Shoulder.

Mae hon yn swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) o 1 Awst 2026 am gyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2029. Cylog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Ni ddisgwyliir y bydd penodiad yn cael ei wneud uwchben Pwynt 32 ar raddfa Gradd 6, £41,064 y flwyddyn.

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Prof C Holt drwy e-bostio Holtca@cardiff.ac.uk. I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio Enginadmin@caerdydd.ac.uk.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 15 Mai 2026. Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Mai 2026.

Mae gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd Wobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod yn enwedig i ymgeisio am y swydd hon. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer cyfleoedd i rannu swydd neu weithio’n hyblyg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA), sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y cyhoeddir ymchwil ynddo.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Meini Prawf Hanfodol: Cymwysterau ac Addysg Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD (neu’n agos ag gwblhau/cyflwyno) mewn maes pwnc cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol. Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad: Arbenigedd a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y maes ymchwil biofecaneg gyhyrysgerbydol in vivo, delweddu meddygol a dadansoddi delweddau. Gwybodaeth am statws cyfredol yr ymchwil yn eich maes arbenigol. Gallu diamheuol i gyhoeddi mewn cyfnodolion cenedlaethol/rhyngwladol, cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol a chynhyrchu allbynnau ymchwil perthnasol eraill. Gwybodaeth a dealltwriaeth am gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu datblygu ceisiadau i gyrff cyllido.

Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm: Gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol. Gallu goruchwylio gwaith pobl eraill i roi canolbwynt i waith y tîm ac ysgogi unigolion. Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol ac i weithio mewn tîm. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos.

Meini prawf dymunol: Cymhwyster(au) proffesiynol perthnasol mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol: Peirianneg Feddygol, Biofecaneg, Delweddu Meddygol, Cyfrifiadureg, Gwyddor Symud, neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant/y GIG. Tystiolaeth o’r gallu i gyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a'u defnyddio er mwyn gwella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol.

Research Associate - Musculoskeletal Biomechanics Research Facility employer: Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd is an exceptional employer, offering a dynamic and collaborative research environment within the Musculoskeletal Biomechanics Research Facility. Employees benefit from access to cutting-edge technology, opportunities for professional development, and the chance to work alongside leading academics and clinicians both nationally and internationally. The university fosters a supportive culture that values diversity and encourages innovative thinking, making it an ideal place for those seeking meaningful contributions to healthcare advancements.

P

Contact Detail:

Prifysgol Caerdydd Recruiting Team

StudySmarter Expert Advice🤫

We think this is how you could land Research Associate - Musculoskeletal Biomechanics Research Facility

Tip Number 1

Network like a pro! Get out there and connect with people in the field of biomechanics and engineering. Attend conferences, workshops, or even casual meet-ups. You never know who might have a lead on your dream job!

Tip Number 2

Show off your skills! If you’ve got a portfolio of your research or projects, make sure to bring it along to interviews or networking events. Visuals can really help you stand out and demonstrate your expertise.

Tip Number 3

Don’t just apply – engage! When you find a role that excites you, reach out to the team or department directly. Ask questions about the project or express your enthusiasm. It shows initiative and can make a lasting impression.

Tip Number 4

Keep learning! Stay updated on the latest trends in musculoskeletal biomechanics and AI in imaging. Join online courses or webinars. This not only boosts your knowledge but also makes you more attractive to potential employers.

We think you need these skills to ace Research Associate - Musculoskeletal Biomechanics Research Facility

AI Image Registration Techniques
Biomechanics Analysis
In-Vivo Research Methodologies
Data Processing and Analysis
Medical Imaging Techniques
Kinematic Data Interpretation
Robotic Testing Procedures

Some tips for your application 🫡

Tailor Your Application:Make sure to customise your application to highlight how your skills and experiences align with the role. We want to see how you can contribute to our exciting projects in musculoskeletal biomechanics!

Showcase Your Research Experience:Don’t hold back on sharing your research background! We’re looking for someone with a solid portfolio in biomechanics or related fields, so make sure to detail your relevant projects and findings.

Be Clear and Concise:When writing your application, clarity is key. Use straightforward language and get to the point quickly. We appreciate well-structured applications that are easy to read!

Apply Through Our Website:Remember to submit your application through our official website. It’s the best way to ensure it gets to us directly and helps streamline the process. We can’t wait to hear from you!

How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd

Know Your Stuff

Make sure you’re well-versed in musculoskeletal biomechanics and the specifics of the ENGIN Shoulder project. Brush up on recent research, methodologies, and technologies related to AI-based imaging registration and biomechanics analysis. This will show your genuine interest and expertise during the interview.

Showcase Your Collaboration Skills

Since this role involves working closely with teams from Cardiff University, Imperial College London, and international partners, be ready to discuss your experience in collaborative projects. Share examples of how you’ve successfully worked in interdisciplinary teams and contributed to shared goals.

Prepare Thoughtful Questions

Interviews are a two-way street! Prepare insightful questions about the research facility, the team dynamics, and future projects. This not only demonstrates your enthusiasm but also helps you gauge if the environment is the right fit for you.

Highlight Your Problem-Solving Skills

Be prepared to discuss specific challenges you've faced in previous research or projects, particularly those related to biomechanics or data analysis. Explain how you approached these problems and what solutions you implemented, showcasing your analytical thinking and creativity.