Yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Gydymaith Ymchwil (Biowybodeg) brwdfrydig a phrofiadol ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Valentina Escott-Price yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddadansoddi setiau data mawr a chymhleth sy’n cynnwys cofnodion iechyd genetig ac electronig, a hynny drwy ddefnyddio offer ym maes Biowybodeg, dulliau ystadegol a dysgu peirianyddol. Bydd yn gwneud hyn wrth arwain ystod eang o weithgareddau ymchwiliadol a dadansoddol i fanteisio i’r eithaf ar ddata clinigol a genetig cleifion sglerosis ochrol amyotroffig (ALS) a’u cysylltu â sgoriau risg genetig, gyda’r nod o nodi targedau therapiwtig newydd ar gyfer ALS gan ddefnyddio data moleciwlaidd, data cellol a data ar bobl/anifeiliaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ymchwil arloesol i bensaernïaeth gymhleth ALS ac isffenoteipiau perthnasol mewn data dynol.
Swydd yn Adeilad Hadyn Ellis ar gampws Parc Cathays yw hon.
Mae gweithio cyfunol yn bosibl wrth wneud y swydd hon. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, y cewch ddewis gweithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn eich helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio lle ceir llawer o heriau gwahanol. Mae’r Brifysgol hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni’r swydd hon –
Mae’n rhaid i chi fodloni rhai gofynion cyn gallu dechrau’r swydd hon (gweler ‘Meini Prawf Hanfodol’), ond bydd modd sicrhau’r elfennau eraill drwy gael hyfforddiant neu brofiad cyffredinol yn y swydd. Ar ôl i chi ddechrau yn y swydd, rydym am eich cefnogi a’ch datblygu gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i gael y gorau ohonoch:
1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd â’ch rheolwr
2. Tîm profiadol a chefnogol o’ch cwmpas
3. Cyfleoedd i hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen sy’n berthnasol i’r swydd
4. Cynllun mentora
Ar gyfer cwestiynau anffurfiol, cysylltwch â’r Athro Valentina Escott-Price drwy e-bostio EscottPriceV@caerdydd.ac.uk.
Mae’r swydd hon yn llawn amser (35 awr yr wythnos), ac mae ar gael o 5 Ionawr 2026 ac mae’n tymor sefydlog am uchafswm o 18 mis.
Cyflog: £41,064 hyd at £46,049 y flwyddyn (Gradd 6) – mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol
Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 11 Mai 2026
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Mai 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na’r cyfnodolyn y mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Diben y Swydd
Diben y swydd yw gwneud ymchwil yn bennaf ym meysydd bioystadegau, dysgu peirianyddol a biowybodeg sy’n gysylltiedig â geneteg sglerosis ochrol amyotroffig (ALS) a chyflyrau niwroddirywiol cysylltiedig, a hynny’n rhan o astudiaethau o boblogaethau mawr ac astudiaethau trawstoriadol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at berfformiad cyffredinol yr Ysgol, y Brifysgol a Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym maes ymchwil, a bydd ei ymchwil o safon i’w chyhoeddi. Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
Ymchwil
• Gwneud ymchwil sy’n gysylltiedig ag ALS a chyflyrau niwroddirywiol cysylltiedig yn rhan o astudiaethau o boblogaethau mawr ac astudiaethau trawstoriadol
• Cyfrannu at berfformiad cyffredinol yr Ysgol a’r Brifysgol ym maes ymchwil drwy sicrhau allbynnau y gellir eu mesur, gan gynnwys gwneud ceisiadau am gyllid, cyhoeddi gwaith mewn cynadleddau a chyfnodolion academaidd cenedlaethol a recriwtio a goruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
• Datblygu amcanion ymchwil a chynigion ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol neu ar y cyd, gan gynnwys ceisiadau am gyllid
• Mynd i gynadleddau/seminarau lleol a chenedlaethol a/neu roi cyflwyniadau ynddynt yn ôl y gofyn
• Ymgymryd â thasgau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r prosiect ymchwil, gan gynnwys cynllunio a threfnu’r prosiect a rhoi’r gweithdrefnau sydd eu hangen ar waith i sicrhau bod adroddiadau cywir yn cael eu cyflwyno’n brydlon
• Paratoi ceisiadau moeseg ymchwil a llywodraethu ymchwil fel y bo’n briodol
• Adolygu a chyfosod y llenyddiaeth ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes
• Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol
• Datblygu a chreu rhwydweithiau yn y Brifysgol a’r tu allan iddi er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau, ystyried gofynion o ran ymchwil yn y dyfodol a rhannu syniadau ar gyfer ymchwil er budd prosiectau ymchwil
Arall
• Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin partneriaethau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i weithio ar y cyd yn rhan o ystod o weithgareddau – bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol
• Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad
• Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgarwch yr Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith yn y Brifysgol a’r tu allan iddi
• Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda’r Athro Valentina Escott Price. Bydd hefyd yn mynd i gyfarfodydd a seminarau ac yn cyfrannu atynt. Bydd cyfle i ryngweithio ag ystod o garfanau rhyngwladol er mwyn dadansoddi data, yn ogystal â chyfle i gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon.
PWYSIG: Tystiolaeth o’r Meini Prawf
Polisi’r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi gyflwyno’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.
Gofalwch mai cyfeirnod y swydd wag yw enw’r ddogfen hon wrth ei chyflwyno / ei hatodi i’ch cais. Yn yr achos hwn, y cyfeirnod yw 21029BR.
Os na fydd ymgeisydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos ei fod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fyddwn yn ymdrin â’i gais. Mae’r Ysgol Meddygaeth yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â’r dystiolaeth o fodloni meini prawf y swydd.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig (cewch fod yn agosáu at orffen eich rhaglen/cyflwyno eich gwaith terfynol), neu brofiad diwydiannol perthnasol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o waith ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol yn y meysydd ymchwil canlynol:
– Bioystadegau/Biowybodeg i ddadansoddi data genetig cymhleth
– Geneteg clefydau cymhleth
– Cyfrifiadura perfformiad uchel
– Trin a dadansoddi data mawr
– Dadansoddiad amrywiolion genetig prin
3. Gwybodaeth am statws presennol ymchwil ym meysydd bioystadegau, biowybodeg, prosesu a dadansoddi data dilyniannu ecsomau a dadansoddi mynegiadau genynnau
4. Gallu diamheuol i gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion cenedlaethol
5. Gwybodaeth am gyllid ymchwil cystadleuol, a dealltwriaeth ohono, er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
6. Gallu diamheuol i gyfathrebu’n effeithiol ac yn argyhoeddiadol
7. Y gallu i oruchwylio gwaith pobl eraill i lywio ymdrechion y tîm ac ysgogi unigolion
Arall
8. Gallu diamheuol i fod yn greadigol ac yn arloesol a gweithio’n rhan o dîm yn y gwaith
9. Gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
Meini Prawf Dymunol
10. Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol: Cefndir/modiwlau israddedig mewn naill ai Seicoleg, Niwrowyddoniaeth, Cyfrifiadureg neu Fathemateg
11. Gwybodaeth am dechnegau a ddefnyddir ym meysydd epidemioleg enetig, dadansoddi genetig a dadansoddi rhyngweithio, yn ogystal â phrofiad o ddefnyddio meddalwedd ar gyfer dadansoddi data genomig megis Plink, GCTA, FUMA, SuSi/SuSiE, GATK ac AlphaGenome
12. Gwybodaeth am yr ymchwil sy’n cael ei gwneud ar hyn o bryd i ALS
13. Gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol maes addysg uwch
14. Tystiolaeth o allu cyfrannu at rwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio i wella gweithgareddau ymchwil yr Ysgol
15. Parodrwydd i fod yn gyfrifol am waith gweinyddol academaidd
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team