Cynorthwyydd Ymchwil mewn monitro perfformiad a gwerthuso datrysiadau carbon isel mewn tai ar gyfer y prosiect Cartrefi Fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS).
Mae tîm Canolfan yr Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (CLCBE) yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) yn chwilio am Gynorthwyydd Ymchwil llawn cymhelliant i ymuno â thîm y prosiect Cartrefi Fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) i ganolbwyntio ar ddulliau a thechnegau ymchwil o fewn maes arbenigol gwyddor data a/neu berfformiad adeiladau.
Mae\’r tîm CLCBE wedi cael ei gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i gynnal gwaith monitro a gwerthuso fel rhan o\’r prosiect Cartrefi Fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS).
Gan ddefnyddio ei brofiad perthnasol helaeth, bydd y tîm CLCBE yn monitro a gwerthuso\’r cartrefi sydd wedi mabwysiadu\’r dull HAPS mewn ffordd gydlynol ac anymwthiol i gasglu tystiolaeth ar berfformiad technolegol, amodau amgylcheddol, costau ynni a thlodi tanwydd, arbedion ynni, ymddygiad a gwelliannau iechyd a lles sy\’n gysylltiedig â\’r datrysiadau sydd wedi\’u rhoi ar waith.
Mae\’r ymchwil yn cynnwys monitro a gwerthuso gweithrediad datrysiadau carbon isel a\’r effaith y bydd y rhain yn ei chael ar gartrefi a\’u trigolion ar draws ardaloedd pedwar awdurdod lleol \’Dinas-Ranbarth Bae Abertawe\’: Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Nod y rhaglen HAPS yw mynd i\’r afael â newid hinsawdd drwy ddarparu dewisiadau amgen carbon niwtral yn unol â\’r agenda ddatgarboneiddio, gan wella iechyd a lles, mynd i\’r afael â thlodi tanwydd a sicrhau bod gan bobl y sgiliau angenrheidiol sy\’n adlewyrchu natur eang y sector ynni adnewyddadwy.
Dylai fod gan yr ymgeisydd radd mewn disgyblaeth sy\’n gysylltiedig â\’r amgylchedd adeiledig, gwyddor data, cyfrifiadureg neu brofiad cyfatebol. Dylai fod ganddo wybodaeth am ddulliau a thechnegau ymchwil o fewn gwyddor data a/neu berfformiad adeiladau, a phrofiad o ddadansoddi data ymchwil meintiol, ansoddol a/neu ddulliau cymysg. Mae sgiliau trefnu yn hanfodol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn paratoi ac archwilio setiau data cyfres amser mawr ac yn eu crynhoi drwy graffeg, gan gynnwys cyfuniad o wahanol ffynonellau a mathau o ddata, gan ddefnyddio Excel, Python, Matlab, SQL, Tableau Prep neu offer tebyg. Mae sgiliau cyfathrebu yn bwysig iawn gan y bydd disgwyl iddo grynhoi mewnwelediadau o setiau data mawr ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd gan ddefnyddio sgiliau llafar ac ysgrifenedig.
Bydd yn gyfarwydd â chanllawiau, codau a safonau ar gyfforddusrwydd adeiladau, datgarboneiddio, ôl-osod a gwerthuso perfformiad.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y campws mewn gweithle lle rhoddir pwyslais amlwg ar gydweithio. Bydd hefyd yn teithio i Gastell-nedd, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro o bryd i\’w gilydd fel rhan o\’r gwaith o gasglu data monitro. Mae\’n bosibl y gellid ystyried gweithio hybrid o bryd i\’w gilydd.
Swydd amser llawn yw hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau yn y swydd cyn gynted â phosibl. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis.
Am ymholiadau anffurfiol am y rôl cysylltwch â Dr Juan Fernandez Goycoolea, neu Prof. Jo Patterson, (Cyfarwyddwr Ymchwil, Cyfarwyddwr y prosiect ymchwil).
Cyflog: £33,951 – £36,636 y flwyddyn (Gradd 5)
Sylwch fod penodiadau i rolau fel arfer yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa.
Sut i wneud cais:
Yn eich ffurflen gais neu lythyr eglurhaol, ysgrifennwch baragraff am sut rydych chi\’n bodloni pob un o\’r meini prawf hanfodol a dymunol ym manyleb yr unigolyn, a chyflwynwch CV llawn.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 8 Ionawr 2026
Dyddiad cau: Dydd Iau, 22 Ionawr 2026
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o\’r gymuned beth bynnag fo\’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a\’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio\’n hyblyg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy\’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na\’r cyfnodolyn y mae\’r ymchwil wedi\’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad Swydd
Cyfrannu at ymchwil ym maes monitro perfformiad a gwerthuso atebion carbon isel mewn tai yn rhan o brosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS), yn ogystal â chyfrannu at berfformiad ymchwil cyffredinol yr Ysgol a\’r Brifysgol drwy gynorthwyo gweithgareddau ymchwil sy\’n helpu i arwain at gyhoeddi ymchwil o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o\’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Ymgymryd ag ymchwil, e.e. casglu, glanhau, integreiddio, dadansoddi a delweddu perfformiad adeiladau a data cyfres amser
- Cymryd rhan flaenllaw yn y grŵp ymchwil, gan gyfleu a chyflwyno ymchwil mewn cyfarfodydd, drwy gyhoeddiadau a llwybrau cydnabyddedig eraill fel y bo\’n briodol, a gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei rhannu â phartneriaid mewnol ac allanol.
- Cyfrannu at gyflwyniadau a chyhoeddiadau ymchwil a\’u cynorthwyo yn ôl yr angen
- Cyfrannu at geisiadau am arian ymchwil a chynorthwyo\’r rhain yn ôl yr angen
- Dadansoddi syniadau, cysyniadau a data cymhleth drwy ddefnyddio dulliau, pecynnau ac offer priodol; a chyfleu deilliannau drwy ddefnyddio sianeli llafar ac ysgrifenedig, i bartneriaid mewnol ac allanol.
- Datrys problemau a chefnogi cydweithwyr wrth ddyfeisio gweithdrefnau sydd eu hangen i sicrhau bod yr adrodd yn gywir ac yn amserol.
- Cynnal a diweddaru eich gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i\’r llenyddiaeth berthnasol yn y maes a\’i hadolygu\’n feirniadol
- Cydweithio â\’r grŵp ymchwil i ddatblygu, cynnal a gweithredu protocolau a gweithdrefnau i ymgymryd ag ymchwil gwerthuso perfformiad adeiladau drwy ddefnyddio meddalwedd a/neu blatfformau priodol.
- Sicrhau cynnyrch ymchwil a chyfrannu at ddatblygu syniadau annibynnol a gwreiddiol fel y bo\’n briodol
- Cefnogi gweithgareddau ymchwil ar gyfer cyrsiau israddedig a rhaglenni ymchwil a rhoi arweiniad i aelodau eraill o staff y tîm ymchwil
- Cynnal a diweddaru eich gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i\’r llenyddiaeth berthnasol yn y maes a\’i hadolygu\’n feirniadol
Arall
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau\’r Ysgol er mwyn hyrwyddo\’r Ysgol a\’i gwaith ar draws y Brifysgol a thu hwnt
- Datblygu\’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd sy\’n briodol ac a fydd yn gwella perfformiad.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o\’ch dyletswyddau
- Cydymffurfio â pholisïau\’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi\’u nodi uchod ond sy\’n cyd-fynd â gofynion y swydd
Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) yn cael ei rhestru\’n gyson ymhlith yr ysgolion pensaernïaeth gorau yn nhablau cynghrair y Deyrnas Unedig ac eraill ledled y byd: 3ydd yn y DU (rhestr The Times o Brifysgolion Gorau\’r DU 2025), 6ed yn y DU (Complete University Guide 2026) ac ymhlith y 100 uchaf ar restr Quacquarelli Symonds (QS) o brifysgolion gorau\’r byd 2026.
Mae\’r WSA hefyd wedi llwyddo i gael y sgôr uchaf posibl i\’n hamgylchedd ymchwil yn REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil) 2021, ac aseswyd bod 100% ohono yn helpu i gynhyrchu ymchwil o\’r radd flaenaf. Yn ogystal, fe aseswyd bod 100% o\’n hastudiaethau achos o effaith, a 93% o\’n hallbynnau, yn rhai sydd gyda\’r gorau yn y byd neu\’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae hyn yn ein gosod yn y 4ydd safle yn y DU ar gyfer Pensaernïaeth, yr Amgylchedd Adeiledig a Chynllunio.
Mae\’r Ysgol hon yn arbennig oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â\’r ddealltwriaeth angenrheidiol i wireddu dyluniadau trwy ymarfer. Mae ganddi hefyd enw da am ymchwil o ansawdd uchel yn ogystal ag ansawdd ei staff. Mae ei lleoliad yn unigryw mewn prifddinas gyfeillgar, ddymunol a fforddiadwy sydd â thirwedd anhygoel Cymru ar garreg y drws.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
1. Gradd mewn disgyblaeth berthnasol megis pwnc sy\’n gysylltiedig â\’r amgylchedd adeiledig, gwyddor data, cyfrifiadureg neu brofiad cyfatebol.
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
2. Gwybodaeth am ddulliau a thechnegau ymchwil mewn maes arbenigol gwyddor data a/neu berfformiad adeiladu.
3. Y gallu diamheuol i drefnu a dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chrynhoi\’n briodol gan gynnwys creu cynrychiolaeth graffigol o setiau data cyfres amser mawr drwy ddefnyddio Excel, Python, Matlab, SQL, Tableau Prep neu offer tebyg.
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth am gyllid ymchwil cystadleuol er mwyn gallu paratoi ceisiadau i gyrff cyllido.
Cyfathrebu a Gweithio\’n Rhan o Dîm
5. Sgiliau cyfathrebu diamheuol (ysgrifenedig a llafar) gan gynnwys y gallu i grynhoi gwybodaeth o setiau data mawr a\’u cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
6. Sgiliau rhagorol o ran trefnu a gweithio mewn tîm
Arall
7. Gallu profedig i ddangos creadigrwydd, bod yn arloesol a gweithio\’n rhan o dîm yn y gwaith
8. Gallu profedig i weithio heb oruchwyliaeth fanwl
Meini Prawf
1. Cyfarwydd â chanllawiau, codau a safonau ar gyfforddusrwydd adeiladau, datgarboneiddio, ôl-osod a gwerthuso perfformiad.
2. Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol y gymuned Ad
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team