Mae\’r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda\’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Rheolwr y Ganolfan
Ysgol Seicoleg
Rydym yn awyddus i recriwtio rheolwr rhagorol i arwain a rheoli Canolfan newydd Ymchwil Iechyd Menywod Cymru.
Mae\’r rôl yn cynnig y cyfle i arwain tîm gwasanaethau proffesiynol ein canolfan a gweithio\’n agos gyda\’r cyfarwyddwr ac aelodau eraill o uwch-dîm rheoli\’r ganolfan i lywio strategaeth gyffredinol y ganolfan a sicrhau ei llwyddiant parhaus. Bydd Rheolwr y Ganolfan yn cael ei gynnwys yn llawn yng ngwaith y ganolfan, gan gydweithio ag ymchwilwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid rhyngwladol. Fel canolfan newydd, mae\’r rôl hefyd yn cynnig cyfle sylweddol ar gyfer bod yn arweinydd proffesiynol wrth gyd-greu prosesau\’r ganolfan gyda thîm brwdfrydig o staff academaidd a phroffesiynol.
Bydd y ganolfan yn ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer cynnal gwaith ymchwil ac arloesi ym maes iechyd menywod yng Nghymru gyda\’r genhadaeth i ddileu anghydraddoldebau o ran iechyd menywod. Mae\’r ganolfan wedi\’i gwreiddio mewn ysgolion academaidd a phrifysgolion o fri yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae partneriaid y ganolfan yn cynnwys arweinwyr iechyd menywod yn Llywodraeth Cymru, Gweithrediaeth Glinigol y GIG, y trydydd sector a grwpiau cymunedol, diwydiant a chanolfannau iechyd menywod rhyngwladol. Ariennir y ganolfan gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae\’r ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol, cefnogol, cynhwysol a cholegol wedi\’i lleoli yn un o ysgolion seicoleg mwyaf y DU, sydd ag enw da yn y byd ym maes iechyd menywod a seicoleg iechyd. Mae\’r Brifysgol yn cynnig polisïau sy\’n ystyriol o deuluoedd, llwybrau ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg, cynllun pensiwn, a llawer o fuddion eraill: gan gynnwys cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi. Cynigir mentora gan staff y Brifysgol sydd â phrofiad o arwain canolfannau i gefnogi datblygiad gyrfaol.
Mae cyllid y Ganolfan hyd at 5 mlynedd, yn amodol ar adroddiad perfformiad boddhaol o\’r Ganolfan ar ôl y drydedd flwyddyn.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon sydd ar gael ar unwaith am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028. Efallai y bydd estyniad o ddwy flynedd arall yn bosibl ar sail adroddiad boddhaol ar berfformiad y Ganolfan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i gael sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Jacky Boivin (e-bost: )
Cyflog: £50,694 – £55,295 y flwyddyn (Gradd 7).
Mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i\’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Mae\’n lle cyffrous a bywiog i weithio lle bydd nifer o wahanol heriau. Rydym yn falch o gefnogi\’r Cyflog Byw. Bydd anghenion busnes yn gofyn am rywfaint o weithio yn y swyddfa ond gellir treulio gweddill yr amser yn y swyddfa neu\’n gweithio o bell (yn amodol ar gytundeb gyda\’r rheolwr llinell).
NODYN PWYSIG: Wrth gyflwyno eich datganiad ategol, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ynglŷn â\’r modd yr ydych yn bodloni\’r holl feini prawf hanfodol (a dymunol os yn berthnasol) isod. Ein cyngor ar gyfer gwneud hyn yw defnyddio\’r meini prawf fel is-benawdau a rhoi tystiolaeth ysgrifenedig o\’ch sgiliau perthnasol o dan bob un. Cyn lanlwytho\’r atodiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys ****BR yn enw\’r ffeil.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 6 Mawrth 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais – cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau gweithle cynhwysol. Rydym o\’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o\’r gymuned, beth bynnag fo\’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a\’u bywyd personol, fe fyddwn ni hefyd yn ystyried cynigion i rannu\’r swydd neu weithio\’n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Prif Ddyletswyddau
Mae\’r swydd yn cyd-fynd ag agor Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru. Prif nodau\’r swydd yw creu hunaniaeth a màs critigol y ganolfan, trwy ddod â phobl at ei gilydd fel grŵp, cyd-greu strategaeth gydlynol ar gyfer datblygu a chynnal gwaith ymchwil, cynnwys cleifion a\’r cyhoedd a gwaith ymgysylltu (diwydiant, GIG, llywodraeth). Yn ein blwyddyn gyntaf, byddwn yn diffinio ein ffyrdd o weithio a gweithdrefnau llywodraethu i sicrhau cydweithio amlddisgyblaethol, mentora, diwylliant ymchwil cadarnhaol, gan gynnwys tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant a gonestrwydd ymchwil. Mae gwerthoedd cyffredinol ein sefydliadau a\’n canolfan yn cynnwys proffesiynoldeb, gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol, cydweithio, cyd-greu, cynwysoldeb, gwrth-hiliaeth, ysgolheictod agored a chreadigrwydd.
Rheoli prosiectau
- Cynorthwyo Cyfarwyddwr y Ganolfan ac arweinwyr pecynnau i ddatblygu a chyflawni strategaeth ymchwil y ganolfan, gan ddatblygu prosiectau ymchwil newydd a chyllid gyda\’r nod o wella cynaladwyedd y ganolfan.
- Arwain a bod yn gyfrifol am dîm gwasanaethau proffesiynol y ganolfan a\’r holl swyddogaethau proffesiynol yn y ganolfan, gan sicrhau bod cymuned academaidd y ganolfan a rhanddeiliaid allanol yn cael eu cefnogi wrth gyfrannu at Gynlluniau Strategol y Brifysgol a\’r Coleg. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio, trefnu a dirprwyo gwaith, monitro cynnydd ac ymyrryd yn ôl yr angen i sicrhau bod amcanion adrannau\’n cael eu cyfleu a\’u cyflawni.
- Bod yn rheolwr ar brosiectau datblygu cyfleoedd ariannu ar raddfa fawr o ffynonellau cyllid mewnol ac allanol, gan baratoi dogfennau drafftio ar gyfer ceisiadau am grantiau, cysylltu â chyrff cyllido a thimau mewnol cysylltiedig.
- Fel aelod o uwch-dîm rheoli\’r ganolfan, cyfrannu at waith cynllunio a rheoli strategol hirdymor y ganolfan, dehongli strategaeth y ganolfan yn flaenoriaethau gwaith a phennu\’r safonau ar gyfer y ganolfan.
- Dylunio, datblygu a rheoli systemau a phrosesau monitro a rheoli ariannol y ganolfan, rheoli cyllid y ganolfan o ddydd i ddydd a gwaith rheoli arall, gan gynnwys amcanestyniadau o gyflogau staff a monitro gwariant yn erbyn y gyllideb
- Casglu a dadansoddi data i lywio penderfyniadau, gan adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol yn y data a llunio adroddiadau fel y bo\’n briodol.
- Cymryd cyfrifoldeb am asesu cynnydd yn erbyn allbynnau a thargedau yn rheolaidd, a dadansoddi ac adrodd ar wariant, gweithgareddau ac allbynnau\’r ganolfan i\’r tîm rheoli, arianwyr a\’r grŵp cynghori allanol, gan gynnwys adroddiadau ariannol, adroddiadau cynnydd (chwarterol) ac adroddiad blynyddol rhanddeiliaid sy\’n wynebu\’r cyhoedd.
- Cyfrannu at ddatblygiad y ganolfan a mentrau ysgolion cysylltiedig ar lefel y Brifysgol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys gwaith ymgysylltu, addysg ac effaith ymchwil
Bod yn Rheolwr Llinell
- Rheoli perfformiad, cyfnodau sefydlu a datblygiad staff y ganolfan yn ôl y gofyn, ac fel sy\’n briodol.
- Arwain a helpu aelodau\’r tîm o ran y diwylliant gwaith, yr amgylchedd a materion sy\’n ymwneud â lles staff, gan gynyddu\’r gefnogaeth yn ôl yr angen i feysydd cefnogaeth arbenigol.
Disgrifiad Swydd yn parhau ar frig y manyleb person –
Parhad o\’r fanyleb unigolyn –
6. Profiad o reoli sawl tîm, cydbwyso sawl amcan a blaenoriaeth ac ymdrin â materion sy\’n ymwneud â pherfformiad a lles, gyda phrofiad o reoli gwrthdaro
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
7. Tystiolaeth o allu cynnal a chyflwyno prosiectau, cynllunio amser ac adnoddau, sefydlu ac arwain timau prosiect tymor byr mewn cyd-destun proffesiynol, gan gynnwys cyflawni tasgau i derfynau amser a chyllidebau llym, a phrofiad o ymgynghori, cysylltu a negodi, ac ymateb i newidiadau mewn llwyth gwaith, blaenoriaethau a chyfeiriad strategol y ganolfan.
8. Gallu diamheuol i gyfrannu at wneud penderfyniadau fel rhan o dîm, a\’r hyder i wneud penderfyniadau annibynnol ac ystyriol.
9. Profiad diamheuol o ddelio â phroblemau amrywiol a heriol ac eich pen eich hun, gan gynnwys ymchwilio i broblemau a chreu atebion newydd lle nad oes rhai eisoes yn bodoli.
Meini Prawf Dymunol
1. Cymhwyster ôl-raddedig/proffesiynol
2. Profiad o weithio ym maes ymchwil iechyd menywod, rheoli ymchwil neu amgylchedd Addysg Uwch gyda dealltwriaeth fanwl o gynllunio, cydlynu, cynnal a chyfieithu ymchwil ar lefel uwch
3. Rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Canolfan Ymchwil Iechyd Menywod Cymru yn fuddsoddiad gwerth £3m gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gyda phrif swyddfa ym Mhrifysgol Caerdydd, a phartneriaid craidd ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol De Cymru. Nod y ganolfan yw bod yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwil ac arloesi iechyd menywod gyda chenhadaeth i ddileu anghydraddoldebau ym maes iechyd menywod. Gwnaethom sefydlu y bydd newid trawsnewidiol ar gyfer iechyd menywod yn gofyn am weithredu mewn pedwar maes thematig: atal a thrawsnewidiadau iechyd (Thema 1), cyflyrau cychwyn cynnar a chyflyrau gydol oes (Thema 2), cyflyrau prin a stigmatig (Thema 3), a chymunedau heb eu gwasanaethu (Thema 4). Bydd gan y ganolfan ymgysylltiad dwfn a pharhaus â chymunedau, busnesau a llywodraethau, a diwylliant ymchwil sy\’n adlewyrchu ein nodau ac yn hyrwyddo camau gweithredu. Byddwn yn dod ag arbenigedd amlddisgyblaethol ynghyd o bob rhan o Gymru ac yn meithrin cydweithio ag arbenigwyr yn y gymuned, y trydydd sector, y llywodraeth, y GIG a diwydiant, a phartneriaid mewn mannau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol i ddatblygu ymchwil arloesol sy\’n gallu mynd i\’r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd menywod. Bydd ein gwaith yn cael ei ategu gan gyllid ymchwil sylweddol y DU a rhyngwladol a rhagamcanir twf cyflym mewn staff ymchwil.
Bydd y ganolfan yn cynnig amgylchedd gwaith ysgogol, cefnogol, cynhwysol a cholegol wedi\’i lleoli yn un o ysgolion seicoleg mwyaf y DU, sydd ag enw da yn y byd ym maes iechyd menywod a seicoleg iechyd (rhagor o wybodaeth: ) Mae gan Brifysgol Caerdydd broffil rhyngwladol fel Prifysgol lwyddiannus, ymchwil-ddwys, a gadarnhawyd gan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddar (REF) 2021, sy\’n ein rhoi ni\’n 14eg o ran pŵer ymchwil yn y DU ac yn gyntaf am effaith ymchwil ar draws gwledydd datganoledig yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Chymru. Mae\’r Brifysgol yn cynnig polisïau sy\’n ystyriol o deuluoedd, llwybrau ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg, cynllun pensiwn, a llawer o fuddion eraill: gan gynnwys cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi. Cynigir mentora gan staff y Brifysgol sydd â phrofiad o arwain canolfannau i gefnogi datblygiad gyrfaol. Mae\’r Ysgol Meddygaeth a\’r Ysgol Cyfrifiadureg hefyd yn cefnogi\’r ganolfan.
Disgrifiad Swydd yn parhau –
- Sicrhau bod ymrwymiadau\’r ganolfan yn cael eu cyflawni, gan addasu\’r rhain yn unol â newidiadau i\’r llwyth gwaith a gofynion o ran cydweithio.
Gweithio gyda phobl eraill
- Gweithio\’n effeithiol gydag uwch staff yn yr Ysgol Seicoleg, y Gwasanaeth Ymchwil ac Arloesi, y Rhag Is-ganghellor Ymchwil, canolfannau ymchwil eraill yn y Brifysgol, ac ystod eang o staff academaidd ac ymchwilwyr ynghyd â chydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol sy\’n rheoli gweithgareddau\’r Brifysgol mewn meysydd perthnasol megis partneriaethau strategol, datblygu ceisiadau mawr, cynllunio strategol, adnoddau dynol sgiliau a chyflogadwyedd.
- Datblygu a hwyluso partneriaethau cydweithio â busnesau a sefydliadau y tu allan i\’r Brifysgol, yn ogystal â phartneriaethau strategol cysylltiedig y ganolfan, i ddatblygu prosesau a gweithdrefnau sy\’n cefnogi mentrau ymchwil drosi\’r ganolfan, datblygu gweithgareddau addysgol, a chylch gorchwyl cynnwys ac ymgysylltu â\’r cyhoedd ac arloesi\’r ganolfan.
- Hyfforddi pobl eraill mewn meysydd sy\’n ymwneud â gwaith y ganolfan.
- Arwain y gwaith o reoli\’r berthynas â rhanddeiliaid, gan gynnal ac adeiladu ar bartneriaethau cryf â\’r diwydiant, y GIG, y llywodraeth a sefydliadau allanol eraill i gefnogi amcanion y Ganolfan o ran ymchwilio, trosi ac arloesi
- Cysylltu â phartneriaid yn y diwydiant, gan hwyluso cydweithio, cyd-ddatblygu prosiectau ac alinio â strategaeth y Ganolfan a blaenoriaethau\’r Brifysgol
- Meithrin perthynas waith ag enwau cyswllt allweddol i helpu i wella\’r gwasanaeth, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas ag ysgolion/cyfarwyddiaethau\’r Brifysgol a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Rheoli\’r ffyrdd y mae\’r ganolfan yn cyfathrebu â\’r cyhoedd gyda\’r swyddog cyfathrebu (gan gynnwys gwefan y ganolfan, y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr a datganiadau i\’r wasg, digwyddiadau sy\’n agored i\’r cyhoedd a/neu gyfarfodydd tîm)
Datblygiad personol
- Ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol sy\’n briodol ac yn gwella perfformiad
Dyletswyddau Cyffredinol
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd
- Cadw at bolisïau\’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelu data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch, ariannol ac eraill, yn ogystal â gofynion arianwyr
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i\’w gilydd nad ydynt wedi\’u nodi uchod ond sy\’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Manyleb yr Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Addysg i lefel gradd/NVQ 4 neu aelodaeth/profiad proffesiynol cyfatebol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Profiad sylweddol o fod yn uwch reolwr mewn sefydliad mawr yn y sector preifat, cyhoeddus neu elusennol neu\’r sector addysg uwch ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi
- Profiad o reoli prosiectau a rheoli cyllidebau cymhleth, a gwybodaeth arbenigol a phrofiad diamheuol o ddatblygu systemau a phrosesau gweinyddol ac ariannol priodol.
Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio\’n Rhan o Dîm
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog a\’r gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, a thystiolaeth o archwilio anghenion cwsmeriaid ac addasu\’r gwasanaeth yn unol â hynny er mwyn cyflwyno gwasanaeth o safon
- Y gallu i ddatblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol er mwyn sicrhau canlyniadau strategol a budd cynaliadwy, gan gynnwys cefnogi dulliau ymgysylltu effeithiol ag arianwyr, staff academaidd ac amrywiaeth o randdeiliaid trydydd parti
Mae\’r fanyleb unigolyn yn parhau isod
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team