Internal Applicants Only - Research Support Administrator
Internal Applicants Only - Research Support Administrator

Internal Applicants Only - Research Support Administrator

Full-Time No home office possible
P
Mae’r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Gweinyddwr Cymorth Ymchwil (3 swyddi)
Canolfan Treialon Ymchwil (CTR)
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.

Rydyn ni’n mynd i’r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â’r cyhoedd. Gallwch ddysgu rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma.

Gan weithio fel rhan o dîm mawr, amrywiol o lawer o gefndiroedd gwahanol, byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o dasgau gan gynnwys pryniannau a thaliadau, mewnbynnu data a rheoli ffeiliau, trefnu a gwasanaethu cyfarfodydd a digwyddiadau ac ymgysylltu â chyfranogwyr yr astudiaeth.

Mae profiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol neu swyddfa, a’r gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol yn bwysig. Mae’r rôl hefyd yn gofyn am sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â’r gallu i weithio mewn tîm. Mae gweithio mewn amgylchedd rheoledig iawn hefyd yn golygu bod y rôl yn gofyn am y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol. Mae amrywiaeth y tasgau a gyflawnir yn golygu y bydd eich gallu i gynllunio a blaenoriaethu, sgiliau datrys problemau a’r gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn hanfodol ar gyfer y rôl. Byddem hefyd yn falch iawn o glywed gennych os ydych yn teimlo bod gennych gymwysterau neu brofiad cyfatebol na chrybwyllir yn benodol yma.

Gyda diwylliant o ddatblygiad proffesiynol a gyrfaol parhaus mae gan y Ganolfan hanes rhagorol o helpu pobl i ddatblygu yn y meysydd sydd o ddiddordeb iddynt, gyda llawer yn symud ymlaen i gamau nesaf eu gyrfa yn y Ganolfan ei hun, yn y Brifysgol yn ehangach, neu ymhellach i ffwrdd.

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Leeann Jones (Swyddog Cymorth Ymchwil) drwy ffonio:JonesL201@cardiff.ac.uk +44(0)2922 511690

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon. Mae ar gael o 1 Mehefin 2026 am gyfnod penodol tan 31 Mai 2028. Fodd bynnag, mae’r swydd hon yn destun proses adolygu ac felly mae’n bosibl y bydd yn cael ei hymestyn, neu ei throi’n swydd benagored

Mae’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau “gweithio cyfunol” ar hyn o bryd, gan roi hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o gartref ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gall trafodaethau ynghylch y trefniadau hyn gael eu cynnal ar ôl penodi’r ymgeisydd llwyddiannus.

Cyflog: £25,249 – £26,093 y flwyddyn (Gradd 3)

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i’r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu nifer o wahanol heriau. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 11 Mai 2026

Dyddiad cau: Dydd Llun, 25 Mai 2026

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais – cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Disgrifiad Swydd
Cynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Ysgol/Cyfarwyddiaeth, gan ymgymryd ag ystod o dasgau cyffredinol a’u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaeth cwsmeriaid. Darparu cefnogaeth ac arweiniad ar systemau a phrosesau gweinyddol, sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei chefnogi, a chyflawni dyletswyddau allweddol.

Mae’r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y gallwch ddewis gweithio o leoliad arall (megis eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac rydym yn gyflogwr o bwys, sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd sy’n ffynnu. Gallwn gynnig y cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.

DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

Prif Ddyletswyddau
• Ymdrin ag ystod o ymholiadau gan gwsmeriaid mewnol (staff a myfyrwyr), ac allanol (aelodau’r cyhoedd), mewn ffordd broffesiynol, gan ddarganfod eu hanghenion ac addasu’r ymatebion safonol yn unol â hynny.
• Gweithio gyda phobl eraill i wneud argymhellion i ddatblygu a gwella prosesau a gweithdrefnau presennol y Brifysgol.
• Creu perthnasoedd gwaith da â chysylltiadau allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth.
• Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi’r tîm a’r adran.
• Casglu ac adolygu data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol megis cronfeydd data a thaenlenni, gan sicrhau bod yr wybodaeth yn fanwl gywir, a thynnu sylw eich rheolwr llinell at dueddiadau a phatrymau sylfaenol.
• Mynd ati i gyfrannu at lwyddiant y tîm a bod o gymorth gyda’r gwaith o oruchwylio’r tîm a’i reoli.

Dyletswyddau Penodol
• Paratoi dogfennau, cynllunio a threfnu cyfarfodydd, cymryd cofnodion/nodiadau a gofalu am unrhyw drefniadau teithio.
• Cynorthwyo gyda chefnogaeth a gweinyddiaeth meddalwedd arbenigol a ddefnyddir i gefnogi ein hymchwil.
• Sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud a’i ddogfennu mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau, a’i fod yn barod ar gyfer archwiliadau rheolaidd, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu’r system rheoli ansawdd ar gyfer maes Materion Rheoleiddio a Gwyliadwriaeth Ffarmacolegol a Diogelwch

Dyletswyddau Cyffredinol
• Cadw at holl bolisïau’r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
• Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd
• Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu werthoedd ac ymddygiadau cyfatebol yn lleol

Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn gymuned fawr, ryngwladol o ymchwilwyr, staff y gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd.
Rydyn ni’n mynd i’r afael â chlefydau a phryderon iechyd mawr ein hoes trwy ffurfio partneriaethau ag ymchwilwyr a meithrin perthnasoedd parhaol â’r cyhoedd. Cewch wybod rhagor am y Ganolfan ac am weithio gyda ni yma.

SUT Y BYDDWN YN EICH HELPU I GYFLAWNI’R SWYDD HON

Rydym am eich cefnogi a’ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o’r canlynol i’ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial:

1. Cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
2. Tîm profiadol a chefnogol o’ch cwmpas.
3. Cymorth i ymgymryd â sesiynau hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i’r swydd, fel y nodir gan eich Rheolwr Llinell. Efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy’n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
4. Cynllun mentora staff.
5. Cymorth i ddysgu Cymraeg neu ddiweddaru eich sgiliau iaith.

Manyleb Unigolyn
Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd, cred, cyfrifoldebau gofalu neu oedran yr unigolion. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu bod yn rhan o dîm ac a fydd yn sicrhau gwasanaeth gwych ar gyfer staff a myfyrwyr. Nid oes angen i chi fod wedi gweithio i brifysgol o’r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau eich gyrfa, neu barhau â hi ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gall y swydd hon fod yn gyfle i chi adeiladu ar eich profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol yn y gorffennol, yn gyfle i amlygu eich sgiliau trosglwyddadwy a’ch potensial i fod yn llwyddiannus yn y swydd. Dylech fod yn frwdfrydig am ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau i ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm.

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol ar gyfer y swydd. Ar ôl copïo’r adran hon a’i gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut yr ydych yn bodloni pob maen prawf, a hynny trwy ysgrifennu o dan bob un. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â’ch bod yn canolbwyntio ar ei pherthnasedd i’r rôl.

Dylech gadw eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF 21695BR Y SWYDD] a’i atodi i’ch cais yn y system recriwtio, sydd ar gael yma.

Nodwch mai dyma’r meini prawf hefyd y bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu hasesu yn eu herbyn mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).

Meini Prawf Hanfodol

1. Y gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys ysgrifennu’n glir ac yn gryno.
2. Profiad o weithio mewn lleoliad gweinyddol neu swyddfa.
3. Profiad o ddefnyddio pecynnau TG a ddefnyddir yn aml yn y swyddfa (e.e. MS Office, e-bost, ac ati).
4. Y gallu i sefydlu a chynnal systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol, gan gynnwys defnyddio systemau’r Brifysgol i goladu a chofnodi data ar-lein ac ar ffurf copi caled. (Bydd hyfforddiant yn cael ei roi lle bo angen).
5. Y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl mewn modd effeithiol a chwrtais wrth gynnal safonau proffesiynol, gan addasu eich iaith ac arddull cyfathrebu yn dibynnu ar bwy rydych yn cyfathrebu â hwy.
6. Y gallu i weithio’n dda gyda’ch tîm, gan wybod sut i roi cyngor, arweiniad ac adborth (i gyd-weithwyr a’r cyhoedd) fel y bo’n briodol.
7. Y gallu i ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaeth, gan ddatrys problemau cwsmeriaid pan fo hynny’n briodol, neu’n gallu uwchgyfeirio lle bo angen.
8. Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith yn unol ag amserlenni a bennir gan eich Rheolwr Llinell.
9. Gallu cymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan ddod o hyd i’r ateb gorau a’i gynnig.
10. Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach.

Meini prawf dymunol

1. Profiad o weithio ym maes addysg uwch.
2. Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu barodrwydd i’w dysgu.

P

Contact Detail:

Prifysgol Caerdydd Recruiting Team

Internal Applicants Only - Research Support Administrator
Prifysgol Caerdydd

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

>