Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)
Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)

Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)

Full-Time 28031 - 31236 £ / year (est.) Home office (partial)
P

At a Glance

  • Tasks: Assist in groundbreaking mental health research and engage with participants.
  • Company: Cardiff University, a leading institution in psychological medicine.
  • Benefits: 40 days annual leave, pension scheme, flexible working, and professional development opportunities.
  • Other info: Exciting role with potential for personal and professional growth.
  • Why this job: Join a collaborative team making a real difference in mental health treatment.
  • Qualifications: Degree in Psychology or related field; experience in participant recruitment is a plus.

The predicted salary is between 28031 - 31236 £ per year.

A'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Mae cyfle cyffrous ar gael i ddau Gynorthwyydd Seicoleg ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol Prifysgol Caerdydd, yn adeilad blaenllaw Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis. Bydd deiliaid y swyddi hyn yn gweithio’n rhan o raglen Nodau Iechyd Meddwl (MHG) Omics, menter bwysig ledled y DU, a ariennir gan Lywodraeth y DU. Ei nod yw chwyldroi ein dealltwriaeth a'r ffordd rydyn ni’n trin salwch meddwl difrifol.

Gan ehangu ar ddatblygiadau sylweddol ym maes genomeg, proteomeg, metabolomeg ac iechyd digidol, bydd y prosiect yn sefydlu carfan aml-omig fwyaf y byd o bobl ag anhwylderau seicosis a hwyliau, gan ei chysylltu â data iechyd clinigol a byd go iawn helaeth. Bydd yr seilwaith cenedlaethol newydd hwn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad ag unigolion sydd â phrofiad byw, y GIG, y byd academaidd a diwydiant, yn cyflymu'r gwaith o ddarganfod mecanweithiau biolegol, canfod biofarcwyr i greu triniaethau wedi'u personoli a gwneud y DU yn lle deniadol yn fyd-eang i arloesi ym maes iechyd meddwl.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynorthwyo ag amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig ag astudiaeth gan gynnwys recriwtio a chynnal asesiadau o bobl sydd wedi cael diagnosis o seicosis, gan gynnwys cyfweliadau clinigol, holiaduron a thynnu gwaed, yn ogystal â gweithgareddau cyffredinol o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig ag astudiaeth amlddisgyblaethol fawr. Dylai ymgeiswyr feddu ar radd mewn Seicoleg neu faes cysylltiedig a byddai profiad o recriwtio cleifion i astudiaethau ymchwil yn fantais.

Mae’r swyddi hyn yn gymwys i gael eu cynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. gartref, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng y gwaith a bywyd personol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, gyda nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Gellir gwneud ymholiadau anffurfiol i Dr Kimberley Kendall (kendallkm@caerdydd.ac.uk). Swyddi amser llawn (35 awr yr wythnos) yw’r rhain ac maent ar gael o 1 Medi 2026 am gyfnod penodol tan 31 Awst 2029. Cyflog: £28,031 – £31,236 y flwyddyn (Gradd 4). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Dyddiad cau: Dydd Iau, 21 Mai 2026.

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.

Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Diben y Swydd: Cynorthwyo ag amrywiaeth o dasgau sy'n gysylltiedig ag astudiaeth gan gynnwys recriwtio a chynnal asesiadau o bobl sydd wedi cael diagnosis o seicosis ac anhwylderau hwyliau, gan gynnwys cyfweliadau clinigol, holiaduron a thynnu gwaed, yn ogystal â gweithgareddau cyffredinol o ddydd i ddydd sy'n gysylltiedig ag astudiaeth amlddisgyblaethol fawr. Cynnig cefnogaeth gynhwysfawr a phroffesiynol i'r Brifysgol a’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol.

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau:

  • Dod yn gyfarwydd ac yn fedrus yn y dulliau asesu ymchwil (byddwn ni’n cynnig hyfforddiant).
  • Recriwtio unigolion sydd wedi cael diagnosis o seicosis ac anhwylderau hwyliau drwy sianeli newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.
  • Asesu’r rhai sy’n cymryd rhan wyneb yn wyneb neu ar-lein gan ddefnyddio cyfweliadau a holiaduron clinigol.
  • Cael samplau gwaed gan y rhai sy’n cymryd rhan drwy dynnu gwaed (byddwn ni’n cynnig hyfforddiant).
  • Deall a chyfleu gwybodaeth am brosiectau, a allai fod angen esboniad neu ddehongliad gofalus i helpu eraill i ddeall.
  • Meithrin perthynas gynhyrchiol ag unigolion allweddol (cydweithwyr yn y Brifysgol ac enwau cyswllt allanol) i helpu i wella’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan y tîm ar gyfer ei gwsmeriaid.
  • Sicrhau bod targedau recriwtio cyfranogwyr yn cael eu cyrraedd, cynnal cyfrinachedd a safonau proffesiynol a gweithio fel aelod effeithiol o’r tîm yn gyffredinol.
  • Cymryd rhan yn y cyfarfodydd tîm rheolaidd drwy gyflwyno diweddariadau ar gynnydd (gan gynnwys, er enghraifft, niferoedd a recriwtir, problemau a wynebir) a chyfrannu syniadau at y strategaeth recriwtio.
  • Cyflawni tasgau gweinyddol megis casglu data, cofnodi a chynnal cofnodion a data (e.e. ar Redcap) yn ôl yr angen i redeg y prosiect yn hyderus, gyda goruchwyliaeth.
  • Cefnogi a hyfforddi eraill yn nhîm y prosiect fel bo'r gofyn yng ngweithdrefnau'r prosiect.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol a rheoliadol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, diogelwch data, hawlfraint a thrwyddedu, diogelwch a chyllid, gan gynnwys polisïau, gweithdrefnau a chodau eraill y Brifysgol fel sy'n briodol.
  • Cymryd rhan mewn datblygiad personol a phroffesiynol, gan gynnwys Hyfforddiant Arfer Clinigol Da (GCP) ar gyfer Ymchwil sy'n briodol i'r rôl ac a fydd yn gwella perfformiad.
  • Gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm i gyflawni amcanion yr astudiaeth, gan addasu i weithdrefnau newydd, ymgymryd â thasgau newydd sy'n gyson â'r rôl, a hwyluso datblygiad yr astudiaeth.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n gyson â gofynion y rôl.

Dyletswyddau Cyffredinol:

  • Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
  • Cadw at bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
  • Arddel Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt yn lleol.

PWYSIG: Meini Prawf Tystiolaeth

Polisi’r Ysgol Meddygaeth yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol, yn ogystal â’r rhai dymunol pan fo’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi’r dystiolaeth hon ar ffurf datganiad ategol.

Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei hatodi wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen. Yn achos y swyddi hyn, 21525BR yw’r cyfeirnod.

Os na fydd ymgeiswyr yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig sy’n dangos eu bod yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol, ni fyddwn yn ymdrin â’u cais ymhellach. Mae’r Ysgol Meddygaeth yn croesawu CVs i gyd-fynd â thystiolaeth bod meini prawf y swydd wedi’u bodloni.

Meini Prawf Hanfodol:

  • Gradd (2.1 neu uwch) mewn Seicoleg neu bwnc cysylltiedig, a/neu brofiad cyfatebol.
  • Hyfedredd ym maes TG, gan gynnwys profiad o ddefnyddio E-bost, y Rhyngrwyd, Microsoft Office, SPSS (cofnodi a dadansoddi data).

Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad:

  • Gwybodaeth arbenigol am gynifer o'r canlynol â phosibl:
  • Gweithio gyda phoblogaethau clinigol neu agored i niwed.
  • Recriwtio cyfranogwyr i astudiaethau ymchwil.
  • Gweinyddu asesiadau a holiaduron clinigol.
  • Gwybodaeth am salwch meddwl difrifol.

Profiad:

  • Profiad o weithio mewn swydd neu amgylchedd gweinyddol a’r gallu i sefydlu systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol, gan wella’r rhain fel sy’n briodol.

Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm:

  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid y bydd eu dealltwriaeth o’r materion hyn yn amrywio.
  • Y gallu i weithio’n dda mewn tîm.

Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau:

  • Callu diamheuol i weithio ar eich menter eich hun a heb oruchwyliaeth i gadw at derfynau amser llym, gan gynllunio, trefnu a gosod blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun yn briodol.
  • Tystiolaeth o lefel uchel o gywirdeb a sylw i fanylion.
  • Tystiolaeth o’r gallu i ddatrys problemau gan ddefnyddio mentergarwch a chreadigrwydd ac i nodi a chynnig atebion ymarferol i ddatrys problemau lle mae amrywiaeth o ddewisiadau posibl ar gael.

Meini Prawf Dymunol:

  • Profiad o recriwtio cleifion i astudiaethau ymchwil.
  • Meddu ar drwydded yrru ddilys lawn.
  • Dealltwriaeth dda o gyfrinachedd a diogelwch data.
  • Profiad o weithio ym myd addysg uwch.
  • Profiad o gymryd samplau gwaed (fflebotomi).

Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts) employer: Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd is an exceptional employer, offering a vibrant and supportive work environment that fosters professional growth and collaboration. With a commitment to mental health innovation through the MHG Omics programme, employees benefit from flexible working arrangements, generous annual leave, and a comprehensive benefits package, all while contributing to groundbreaking research that has the potential to transform lives. The university's dedication to inclusivity and diversity ensures a welcoming atmosphere for all staff members.
P

Contact Detail:

Prifysgol Caerdydd Recruiting Team

StudySmarter Expert Advice 🤫

We think this is how you could land Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)

✨Tip Number 1

Network like a pro! Reach out to colleagues and connections within Cardiff University. They might have insights or even inside info about the Psychology Assistant roles that could give you an edge.

✨Tip Number 2

Prepare for those interviews! Brush up on your knowledge of mental health research and be ready to discuss how your skills align with the MHG Omics project. We want to see your passion and expertise shine through!

✨Tip Number 3

Show off your teamwork skills! The role involves working closely with various teams, so be ready to share examples of how you've collaborated effectively in the past. We love a good team player!

✨Tip Number 4

Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets the attention it deserves. Plus, we’re always looking for talented individuals like you to join our innovative projects.

We think you need these skills to ace Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)

Research Assessment Methods
Clinical Interviewing
Data Collection
Recruitment of Participants
Psychological Assessment
Knowledge of Severe Mental Illness
SPSS
Microsoft Office
Communication Skills
Teamwork
Problem-Solving Skills
Attention to Detail
Flexibility
Confidentiality Awareness
Experience in Higher Education

Some tips for your application 🫡

Tailor Your Application: Make sure to customise your application to highlight how your skills and experiences align with the role of Psychology Assistant. Use keywords from the job description to show that you understand what we're looking for.

Showcase Relevant Experience: If you've got experience in recruiting participants or conducting assessments, make it shine! We want to see how your background fits into the exciting work we do at StudySmarter.

Be Clear and Concise: Keep your application straightforward and to the point. We appreciate clarity, so avoid jargon and make sure your key points stand out. This helps us see your potential quickly!

Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our website! It’s the best way to ensure we receive all your details correctly and can process your application smoothly.

How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd

✨Know Your Stuff

Make sure you’re well-versed in the specifics of the Psychology Assistant role. Familiarise yourself with the MHG Omics programme and its goals, as well as the types of assessments you'll be conducting. This will show your genuine interest and understanding of the position.

✨Showcase Relevant Experience

Prepare to discuss any relevant experience you have, especially in recruiting participants for research studies or working with clinical populations. Be ready to share specific examples that highlight your skills and how they relate to the job requirements.

✨Ask Smart Questions

Come prepared with thoughtful questions about the team dynamics, the projects you’ll be involved in, and how success is measured in this role. This not only shows your enthusiasm but also helps you gauge if the position is the right fit for you.

✨Be Yourself

While it’s important to be professional, don’t forget to let your personality shine through. The interviewers are looking for someone who fits well within their collaborative and friendly team, so being authentic can make a big difference.

Internal Applicants Only - Psychology Assistant (2 Posts)
Prifysgol Caerdydd

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

>