Internal Applicants Only - Marketing and Communications Assistant
Internal Applicants Only - Marketing and Communications Assistant

Internal Applicants Only - Marketing and Communications Assistant

Full-Time No home office possible
P
Mae’r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.

Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Cynorthwy-ydd Marchnata a Chyfathrebu
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol a chanddi weledigaeth feiddgar a strategol, ac mae mewn prifddinas hardd a ffyniannus.

Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ar hyn o bryd yn awyddus i benodi gweithiwr proffesiynol marchnata a chyfathrebu i gefnogi gweithgareddau’r Coleg a’i holl Ysgolion cyfansoddol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio i wella’n sylweddol y ffordd y mae ein hysgolion yn cyflwyno eu hunain i’r byd y tu allan, yn ogystal â chyfathrebu’n effeithiol ag ystod amrywiol o gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu cymysgedd o weithgareddau cyfathrebu a fydd yn hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu.

Rydym yn chwilio am unigolyn â sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddehongli gwybodaeth gymhleth i destun diddorol a chreadigol o safon uchel. Byddai profiad o recriwtio myfyrwyr, cefnogi gweithredu ymgyrchoedd marchnata a chysylltu ag asiantaethau allanol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. Yn ddelfrydol, rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig sy’n angerddol dros ddatblygu gyrfa mewn Cyfathrebu. Rhywun sy’n greadigol, yn awyddus i ddysgu, ac yn llawn syniadau cyffrous.

Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd.

Mae Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd yn gymuned academaidd fywiog, sy’n ymgymryd ag ymchwil arloesol ac yn darparu cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf. Mae’r Coleg yn dwyn ynghyd saith Ysgol sydd â chryfder aruthrol mewn ymchwil ac addysgu, nid yn unig yng Nghymru, ond y DU a ledled y byd. Ymgymerir â phob agwedd ar ymchwil iechyd a biowyddonol mewn modd integredig, gan gyflawni canlyniadau a berchir yn rhyngwladol ym mhob cam o’r broses ymchwil feddygol, o wyddoniaeth y labordy hyd at wella ymarfer meddygol a gofal iechyd.

Ein nod yw cynnig profiad cadarnhaol a chyfoethog i fyfyrwyr lle maent yn dysgu ac yn ymgysylltu ag academyddion ac ymchwilwyr sy’n ysbrydoli, ac yn dod yn rhan o amgylchedd rhyngwladol sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.

Mae’r rhan fwyaf o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau “gweithio cyfunol” ar hyn o bryd, gyda hyblygrwydd i staff weithio yn rhannol o’u cartref ac yn rhannol o gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Gellir trafod y trefniadau hyn gyda’r ymgeisydd llwyddiannus ar ôl iddo gael ei benodi.

Ar gyfer ymholiadau anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Mike Roberts, RobertsM18@Cardiff.ac.uk.

Mae’r safle hwn yn llawn amser, 35 awr yr wythnos, a phenagored.

Croesewir y cyfle am secondiad – sylwer, os ydych yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd sydd â diddordeb yn y swydd hon ar secondiad, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd eich Rheolwr Llinell presennol cyn gwneud cais.

Cyflog: £25,249 – £26,093 y flwyddyn (Gradd 3); fel arfer gwneir penodiadau ar waelod y raddfa.

Dyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 11 Mai 2026

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 29 Mai 2026

Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio’n hyblyg.
Disgrifiad Swydd
Cefnogi’r tîm Marchnata a Chyfathrebu i ddarparu ystod eang o weithgareddau cyfathrebu arloesol a fydd yn hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu.

Cynorthwyo gydag ymgyrchoedd marchnata, creu cynnwys, rheoli cyfryngau cymdeithasol, a chyfathrebu mewnol / allanol. Cymryd rôl ragweithiol wrth gefnogi ein rhaglen ddigwyddiadau, gan ddarparu cefnogaeth ddigidol a gweinyddol ardderchog.

Darparu gwasanaeth eithriadol i’n holl gwsmeriaid a chydweithio ar draws y Brifysgol i wella’r ffordd yr ydym yn cyflwyno ein hunain i’r byd y tu allan.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU

  1. Cydweithio â staff cyfathrebu ar lefel y Coleg ac ar draws Prifysgol Caerdydd i sicrhau dull integredig o gyflawni gwaith marchnata a chyfathrebu mewnol ac allanol.
  2. Helpu i ddatblygu cynnwys ymgysylltu ar gyfer gwahanol sianelau cyfathrebu, gan gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd e-bost.
  3. Cynorthwyo i reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys amserlennu cynnwys, monitro ymgysylltu, ac ymateb i sylwadau/negeseuon. Cynhyrchu syniadau creadigol ar gyfer ymgyrchoedd a chyfrannu at ddatblygu cynnwys.
  4. Cyfrannu at greu cynnwys gweledol arloesol, fel graffeg, delweddau, a fideos i’w defnyddio ar draws ein platfformau digidol.
  5. Cynorthwyo gyda datblygu cynlluniau cyfathrebu i gefnogi strategaeth y Coleg. Datblygu rhaglen o weithgarwch sydd ar y gweill a gwneud argymhellion i wella effaith ac effeithiolrwydd cyfathrebu.
  6. Cefnogi gweithgarwch ymchwil i’r farchnad, fel grwpiau ffocws ac arolygon, i gasglu mewnwelediadau a chyfrannu at ddatblygu strategaethau ymgyrchu.
  7. Cefnogi’r Rheolwr Cyfathrebu Digidol i fonitro ac adrodd ar fetrigau yn ofalus, gan gynnwys dadansoddeg gwe, ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol, a pherfformiad ymgyrchoedd e-bost.
  8. Helpu i ddadansoddi data i nodi tueddiadau, patrymau a meysydd i’w gwella. Darparu mewnwelediadau ac argymhellion i optimeiddio ymgyrchoedd marchnata.
  9. Cefnogi’r gwaith o ddarparu rhaglen o weithgarwch marchnata i gefnogi recriwtio myfyrwyr ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol i wneud y mwyaf o drosi a gwella boddhad myfyrwyr.
  10. Darparu cyfathrebiadau o ansawdd uchel, gan sicrhau cysondeb a chydymffurfiaeth â negeseuon cyfathrebu allweddol Prifysgol Caerdydd. Glynu wrth safonau ansawdd, brandio, dylunio, hygyrchedd a chanllawiau arddull testunol. Gweithio’n agos gydag aelodau’r tîm i brawfddarllen a golygu deunyddiau marchnata i sicrhau cywirdeb a chysondeb brand.
  11. Cynorthwyo i gyflawni prosiectau / ymgyrchoedd cyfathrebu penodol fel y cyfarwyddir gan y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.
  12. Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen i gefnogi’r Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu.

Dyletswyddau Cyffredinol (safonol)

∙ Sicrhau bod dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd yn cael ei chymhwyso wrth gyflawni pob swydd.
∙ Cydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth.
∙ Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd nad ydynt wedi’u cynnwys uchod, ond a fydd yn gyson â’r rôl.

NODYN PWYSIG: Wrth gyflwyno eich datganiad ategol, rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ynglŷn â’r modd yr ydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol (a dymunol os yn berthnasol) isod. Rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny drwy ddefnyddio’r meini prawf yn is-benawdau, gan roi tystiolaeth ysgrifenedig o’ch sgiliau perthnasol ar gyfer pob un. Cyn lanlwytho’r atodiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys **** BR yn enw’r ffeil.

Meini Prawf Hanfodol

1. Gradd/NVQ 6, profiad cyfatebol neu aelodaeth o sefydliad proffesiynol priodol.
2. Rhywfaint o brofiad mewn rôl farchnata neu gyfathrebu gan gynnwys profiad o farchnata digidol, rheoli cynnwys gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
3. Gallu cyfathrebu ag ystod eang o bobl yn effeithiol a chwrtais wrth gynnal safonau proffesiynol, addasu eich iaith ac arddull cyfathrebu yn dibynnu ar bwy rydych chi’n cyfathrebu â nhw.
4. Gallu cymryd y cam cyntaf i ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, dod o hyd i’r ateb gorau a’i gynnig.
5. Y gallu i ddatrys problemau eang gan ddefnyddio menter a chreadigrwydd; nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol.
6. Yn llawn hunangymhelliad gydag agwedd frwdfrydig, ragweithiol, hyblyg at waith, a’r gallu i addasu.
7. Sgiliau cyfathrebu rhagorol gydag awydd i ddysgu a datblygu yn y proffesiwn cyfathrebu.

Meini Prawf Dymunol

1. Profiad o weithio ym maes addysg uwch
2. Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

P

Contact Detail:

Prifysgol Caerdydd Recruiting Team

Internal Applicants Only - Marketing and Communications Assistant
Prifysgol Caerdydd

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

>