At a Glance
- Tasks: Teach and develop modules in Biomedical Sciences, inspiring students and supervising their work.
- Company: Cardiff University, a diverse and inclusive academic environment.
- Benefits: Full-time position with competitive salary and opportunities for professional development.
- Other info: Flexible working options and commitment to equality and diversity.
- Why this job: Join a dedicated team and make a real impact in the field of Biomedical Sciences.
- Qualifications: PhD in a related field and teaching experience in Biomedical Sciences required.
The predicted salary is between 41064 - 46049 £ per year.
A'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Mae swydd ar gael dros gyfnod mamolaeth penodol i gyflenwi swydd Darlithydd yn y Gwyddorau Biofeddygol ar lwybr gyrfaol Addysgu ac Ysgolheictod i ymuno â'n tîm ymroddedig o staff academaidd yn Ysgol y Biowyddorau.
Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu modiwlau/rhaglenni ym maes y biowyddorau o fewn y ddarpariaeth israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol gan eu cyflwyno a’u gwerthuso, yn goruchwylio myfyrwyr ac yn cyflawni dyletswyddau gweinyddol a all gynnwys recriwtio myfyrwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar PhD mewn maes pwnc cysylltiedig neu brofiad perthnasol yn niwydiant y gwyddorau biofeddygol, profiad o addysgu ar lefel israddedig/ôl-raddedig ym maes y gwyddorau biofeddygol, a gwybodaeth arbenigol ym maes clefydau biofeddygol, gan gynnwys un neu’n fwy o’r canlynol: (i) cardiofasgwlaidd, (ii) anadlol, (iii) clefydau dynol perthnasol eraill, a (iv) agweddau ffisiolegol neu enetig ar glefydau biofeddygol.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 11 Ionawr 2027.
Cyflog: £41,064 – £46,049 y flwyddyn (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 14 Mai 2026.
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed.
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif swyddogaeth
Ymgymryd â llwyth addysgu llawn, gan gynnwys datblygu, cyflwyno a gwerthuso modiwlau/rhaglenni ym maes y gwyddorau biofeddygol ym mhortffolio addysgu'r Ysgol (gan gynnwys rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig a addysgir). Ymhlith y profiadau penodol sy'n berthnasol i'r swydd y mae arbenigedd ym maes clefydau biofeddygol (cardiofasgwlaidd/anadlol/arall), a'u ffisioleg a’u geneteg. Mae ceisio rhagoriaeth ym maes addysgu biofeddygol ac ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un peth yn rhan annatod o'r swydd.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Addysgu
- Dylunio a chyflwyno rhaglenni addysgu at ddibenion cyrsiau biofeddygol a chyfrannu at ddatblygu modiwlau ac asesu myfyrwyr yn rhan o dîm modiwlau.
- Ysbrydoli myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o dan arweiniad mentor / arweinydd modiwl, a meithrin sgiliau asesu a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr.
- Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig a myfyrwyr Meistr.
- Rhoi gofal bugeiliol drwy fod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr, gan feithrin ymddiriedaeth.
Ysgolheictod
- Cyfrannu at ysgolheictod yn y maes gwaith drwy gymryd rhan mewn cynadleddau, seminarau a fforymau academaidd a phroffesiynol eraill i rannu canlyniadau ysgolheictod unigol.
- Ymgysylltu â gweithgarwch ysgolheigaidd drwy erthyglau mewn cyfnodolion a/neu allbynnau sy’n ehangu gwybodaeth yn y maes gwaith.
- Cyfrannu at ysgolheictod drwy waith rhyngddisgyblaethol gydag unigolion a thimau yng nghymuned ehangach y Brifysgol a thu hwnt iddi.
- Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod gan gynnwys gwaith sy’n gysylltiedig ag arholiadau (gosod a marcio’r papur a rhoi adborth adeiladol i fyfyrwyr), gweinyddu a chymryd rhan mewn gwaith pwyllgora.
Arall
- Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar draws ystod o weithgareddau.
- Bydd disgwyl i’r gweithgareddau hyn gyfrannu at yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol.
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd sy’n briodol i berfformiad swydd Darlithydd yn ogystal â gwella’r perfformiad hwnnw.
- Mentora cydweithwyr llai profiadol a rhoi cyngor ynglŷn â datblygiad personol.
- Cymryd rhan yng ngwaith gweinyddol a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt iddi.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
PWYSIG: TYSTIOLAETH SY’N BODLONI'R MEINI PRAWFM
Mae'r Brifysgol yn defnyddio manyleb yr unigolyn wrth lunio rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, pan fo hynny’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi gyflwyno'r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol.
Cadwch eich datganiad ategol mewn dogfen ar wahân sy’n dwyn y teitl [EICH ENW-RHIF BR-TEITL Y SWYDD] a'i roi ynghlwm wrth eich cais yn y system recriwtio.
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau ac Addysg: Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes pwnc neu brofiad diwydiannol perthnasol ym maes y gwyddorau biofeddygol.
- Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad: Profiad addysgu a chymwysterau ar y lefel israddedig/ôl-raddedig ym maes y gwyddorau biofeddygol.
- Dangos gwybodaeth arbenigol a datblygiadau cyfredol ym maes pwnc academaidd clefydau biofeddygol, gan gwmpasu un neu ragor o’r canlynol: (i) cardiofasgwlaidd, (ii) anadlol, (iii) clefydau dynol perthnasol eraill, a (iv) agweddau ffisiolegol neu enetig ar glefydau biofeddygol.
- Y gallu i lunio, cyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus yn rhan o raglenni addysgu’r Ysgol.
- Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno syniadau cymhleth a chysyniadol yn eglur ac yn hyderus i eraill, gan ddefnyddio sgiliau lefel uchel ac ystod o gyfryngau.
- Y gallu i estyn cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, deall anghenion ac amgylchiadau myfyrwyr unigol yn ogystal â bod yn diwtor personol iddynt.
Arall
- Y gallu diamheuol i ddangos creadigrwydd, arloesedd a gwaith tîm yn y gweithle yn ogystal ag addysgu ar lefel addysg uwch.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol.
- Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant a rhanddeiliaid sy'n berthnasol i addysg prifysgol.
- Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl.
- Y gallu diamheuol i addasu i ofynion cyfnewidiol byd Addysg Uwch.
- Tystiolaeth o’r gallu i gymryd rhan mewn rhwydweithiau mewnol ac allanol, eu datblygu a’u defnyddio, a hynny i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol.
- Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd yn ogystal â gwaith gweinyddol rheolwr.
Internal Applicants Only - Lecturer in Biomedical Sciences employer: Prifysgol Caerdydd
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team
StudySmarter Expert Advice 🤫
We think this is how you could land Internal Applicants Only - Lecturer in Biomedical Sciences
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to colleagues and mentors within the university. They can provide insights about the role and might even put in a good word for you.
✨Tip Number 2
Prepare for that interview! Brush up on your teaching methods and be ready to discuss your expertise in biomedical sciences. Show them how passionate you are about inspiring students.
✨Tip Number 3
Don’t forget to showcase your research! If you've got publications or projects, bring them up during discussions. It’s a great way to demonstrate your commitment to academia.
✨Tip Number 4
Apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets the attention it deserves. Plus, you’ll find all the info you need right there.
We think you need these skills to ace Internal Applicants Only - Lecturer in Biomedical Sciences
Some tips for your application 🫡
Tailor Your Application: Make sure to customise your application to highlight how your experience and skills match the job description. We want to see how you fit into our team, so don’t hold back on showcasing your relevant expertise!
Showcase Your Teaching Experience: Since this role is all about teaching and mentoring, be sure to emphasise your teaching experience. Share specific examples of how you've inspired students or developed engaging course materials in the biomedical sciences.
Be Clear and Concise: When writing your application, keep it clear and to the point. We appreciate well-structured documents that are easy to read, so avoid jargon and make your qualifications shine through without unnecessary fluff.
Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our official website! It’s the best way for us to receive your details and ensures you’re considered for the role. Plus, it’s super straightforward!
How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd
✨Know Your Stuff
Make sure you’re well-versed in the latest developments in biomedical sciences, especially in areas like cardiovascular and respiratory diseases. Brush up on your PhD research and be ready to discuss how it relates to the teaching modules you’ll be developing.
✨Showcase Your Teaching Skills
Prepare examples of your teaching experience, particularly at undergraduate and postgraduate levels. Think about specific instances where you inspired students or received positive feedback, and be ready to share these stories during the interview.
✨Engage with the Interviewers
Don’t just answer questions; engage in a dialogue. Ask insightful questions about the department’s goals and how you can contribute. This shows your enthusiasm for the role and helps you gauge if the environment is right for you.
✨Highlight Collaboration
Emphasise your ability to work collaboratively with colleagues and industry partners. Share experiences where you’ve successfully worked in teams or contributed to interdisciplinary projects, as this is crucial for enhancing the school’s profile.