At a Glance
- Tasks: Support animal care and welfare in a busy research environment.
- Company: Cardiff University, a vibrant and inclusive workplace.
- Benefits: Great benefits, career progression, and support for personal development.
- Other info: Full-time role with excellent growth opportunities and a supportive team.
- Why this job: Join a dynamic team and make a real difference in animal welfare.
- Qualifications: Basic literacy and numeracy skills; caring attitude towards animals.
The predicted salary is between 23350 - 23742 £ per year.
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Technegydd Anifeiliaid
Gwasanaethau Biolegol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd
Mae adran Gwasanaethau Biolegol y Brifysgol yn recriwtio Technegydd Anifeiliaid i ymuno â'n tîm prysur. Ar ôl hyfforddiant priodol, byddwch yn cymryd rhan yn y rhaglenni gofal a lles sylfaenol yn achos rhywogaethau labordy a ddefnyddir at ddibenion ymchwil feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd angen rhifedd a llythrennedd sylfaenol arnoch (er enghraifft NVQ 1/TGAU lefel D - G), a gallu dangos tystiolaeth o agwedd ofalgar tuag at anifeiliaid, ynghyd â thystiolaeth o’ch gallu i ddiwallu anghenion hwsmonaeth a lles anifeiliaid.
Gallwn gynnig y cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Cysylltwch â CallawaySA@caerdydd.ac.uk am drafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y rôl.
Mae'r swydd hon yn gyfnod penodol am 5 mlynedd, yn llawn amser (35 awr yr wythnos), ac mae ar gael i ddechrau 1 Awst 2026.
Cyflog: £23,350 – £23,742 y flwyddyn (Gradd 2)
Cynhelir gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS), asesiad iechyd galwedigaethol a sgrinio diogelwch ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae angen pasio pob un o’r uchod yn foddhaol er mwyn gweithio yn yr Adran Gwasanaethau Biolegol.
Yn benodol, mae eich cyflogaeth yn amodol ar adolygiad sgrinio iechyd boddhaol sy'n dangos nad oes unrhyw alergedd blaenorol sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid. Os bydd y sgrinio iechyd yn cadarnhau bod alergedd, oherwydd goblygiadau iechyd a diogelwch, ni fydd yn bosibl cadarnhau eich penodiad a bydd y cynnig cyflogaeth yn cael ei dynnu'n ôl.
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 20 Mai 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol sydd â’r uchelgais i greu prifysgol sy’n dymuno cyflawni ei rhwymedigaethau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru a’r byd.
Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael y cydbwysedd rhwng byd y gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
DIBEN Y SWYDD
Rhoi cymorth technegol i gymuned ymchwil ar anifeiliaid Prifysgol Caerdydd. Ni yw’r brifysgol fwyaf yng Nghymru. Rydym hefyd yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff. Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol mewn prifddinas hardd a llewyrchus. Gallwn roi’r cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig pecyn buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Prif Ddyletswyddau
- Sicrhau hwsmonaeth a lles ystod o rywogaethau bach sy’n anifeiliaid labordy, gan gydnabod pryd i gyfeirio problem at gydweithwyr eraill.
- Gweithio mewn ffordd sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
- Cynnal cofnodion cywir yn unol â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.
- Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) ar gyfer amryw o dasgau sy'n ymwneud â'r swydd.
- Cynorthwyo i gynnal a chadw cytrefi bridio (dan ddirprwyaeth) gan gynnwys cadw cofnodion cywir o berfformiad bridio, diweddaru cronfeydd data a dadansoddi data/gwybodaeth arferol yn ôl yr angen.
- Ymdrin ag ymholiadau arferol gan gwsmeriaid mewnol ac ymateb yn briodol iddynt, gan sicrhau bod gweithdrefnau/ negeseuon/galwadau/cyfarwyddiadau yn cael eu cyfeirio'n brydlon at y bobl berthnasol i’w gweithredu.
- Sicrhau bod gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag adennill costau BIOSV yn amserol ac yn cael ei chofnodi'n gywir.
- Sicrhau bod hylendid eich maes cyfrifoldeb (yr ystafelloedd dal anifeiliaid a’r ystafelloedd gweithdrefnau) yn cael ei gynnal hyd y safonau uchaf, a hynny drwy lanhau a gofalu am yr offer yn rheolaidd (e.e. arbrofi PAT).
- Cynorthwyo’r tasgau ategol megis anifeiliaid sy’n cyrraedd, nwyddau traul a gwaredu gwastraff: clinigol, tramgwyddus ac ailgylchu.
- Chwarae rhan flaenllaw yng ngwaith y tîm, gan osod esiampl a dangos ymagwedd hyblyg at gyflawni canlyniadau'r tîm.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Kadw at holl bolisïau'r Brifysgol a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffordd briodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cynnal gwerthoedd ac ymddygiad y Gwasanaethau Proffesiynol neu’r hyn sy’n cyfateb i’r rhain yn lleol.
Sylwer: Cynhelir gwiriad Datgelu a Gwahardd (DBS), asesiad iechyd galwedigaethol a sgrinio diogelwch yn achos yr ymgeisydd llwyddiannus.
GWYBODAETH YCHWANEGOL, OS YN BERTHNASOL
- Cyfrinachedd yn hanfodol.
- Parodrwydd i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail rota.
SUT Y BYDDWN YN EICH CEFNOGI I GYFLAWNI’R SWYDD HON
Rydym eisiau eich cefnogi a'ch datblygu yn y swydd, gan ddefnyddio cyfuniad o'r canlynol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial.
- Cyfarfodydd un i un rheolaidd gydag arweinydd eich tîm.
- Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas.
- Cymorth i hyfforddi a datblygu mewn ffordd sy’n berthnasol i'r swydd, fel y nodir gan eich rheolwr llinell. Efallai mai trefniant anffurfiol fydd hyn neu’n brentisiaeth sy'n arwain at gymhwyster ffurfiol, megis NVQ Gweinyddu Busnes.
- Cynllun mentora staff.
- Cefnogaeth i ddysgu’r Gymraeg neu loywi sgiliau iaith.
- Gwiriadau gwirfoddol lles (yn achos swyddi yn y gwasanaethau Diogelwch a Chyfleusterau'r Campws).
MANYLEB YR UNIGOLYN
Rydym yn awyddus i gyflogi pobl sydd ag ystod eang o brofiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y Brifysgol, gan gynnwys pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu gweithio’n rhan o dîm ac a fydd yn cydweithio ag eraill i ddarparu gwasanaeth gwych i’r staff a’r myfyrwyr. Nid oes rhaid eich bod wedi gweithio mewn prifysgol o'r blaen; dyma gyfle i ddangos eich potensial a dechrau neu barhau â'ch gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd eich cais yn cael ei asesu yn unol â’r meini prawf hanfodol a dymunol canlynol sy’n perthyn i’r swydd. Ar ôl copïo’r meini prawf a’u gludo i mewn i ddogfen newydd, rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni pob un ohonynt, a hynny drwy ysgrifennu o dan bob un. Cewch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd (e.e. gwaith, cartref, addysg/cymwysterau neu fywyd cymunedol) cyn belled â'ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i'r swydd.
Dyma'r meini prawf a gaiff eu defnyddio hefyd i asesu ymgeiswyr y rhestr fer mewn cyfweliad a/neu drwy ddulliau eraill (e.e. prawf sgiliau).
Meini Prawf Hanfodol
- O leiaf 5 TGAU.
- Tystiolaeth o agwedd ofalgar tuag at anifeiliaid a’r gallu diamheuol i ddiwallu anghenion hwsmonaeth a lles yr anifeiliaid.
- Profiad o gofnodi data mewn ffurflenni templed (e.e. Excel/Word).
- Tystiolaeth o gyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Tystiolaeth o weithio'n dda’n aelod o dîm, gan roi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill o’r tîm pan fo angen.
- Tystiolaeth o ymdrin â cheisiadau am wybodaeth neu wasanaethau yn brydlon, yn effeithiol ac yn gwrtais.
- Ymwybyddiaeth o'r angen am gyfrinachedd llym.
- Parodrwydd i weithio ar benwythnosau a gwyliau banc ar sail rota.
- Tystiolaeth o’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a gweithio'n annibynnol yn rhan o weithdrefnau/arferion penodol.
- Parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad pellach.
Meini Prawf Dymunol
- Profiad sy’n gysylltiedig â gwaith neu NVQ lefel 2 mewn cwrs gofal anifeiliaid.
- Profiad o ddefnyddio a chynnal a chadw offer labordy sylfaenol.
- Profiad o roi cymorth technegol.
- Dull trefnus tuag at waith ac yn hyblyg wrth ymateb i newidiadau o ran lefelau gwaith o ddydd i ddydd.
- Y gallu i siarad/deall Cymraeg, neu’r parodrwydd i’w dysgu.
Internal Applicants Only - Animal Technologist employer: Prifysgol Caerdydd
Contact Detail:
Prifysgol Caerdydd Recruiting Team
StudySmarter Expert Advice 🤫
We think this is how you could land Internal Applicants Only - Animal Technologist
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to colleagues and connections within Cardiff University. A friendly chat can open doors you didn’t even know existed.
✨Tip Number 2
Prepare for that interview! Research the Biological Services department and think about how your skills match their needs. Show them you’re not just a fit, but the perfect fit!
✨Tip Number 3
Practice makes perfect! Get a mate to do a mock interview with you. It’ll help you feel more confident and ready to tackle any questions they throw your way.
✨Tip Number 4
Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen by the right people. Plus, it shows you’re serious about joining the team!
We think you need these skills to ace Internal Applicants Only - Animal Technologist
Some tips for your application 🫡
Tailor Your Application: Make sure to customise your application to highlight how your skills and experiences match the job description. We want to see how you can contribute to our team, so don’t hold back on showcasing your relevant experience!
Be Clear and Concise: When writing your application, keep it straightforward and to the point. Use clear language and avoid jargon unless it's relevant. We appreciate a well-structured application that’s easy to read!
Show Your Passion for Animal Care: Since this role involves working with lab animals, it’s crucial to express your genuine interest in animal welfare. Share any experiences or insights that demonstrate your caring attitude towards animals.
Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our official website! It’s the best way to ensure your application is seen by the right people. Plus, it helps us keep everything organised!
How to prepare for a job interview at Prifysgol Caerdydd
✨Know Your Stuff
Make sure you brush up on the basics of animal care and welfare, especially as it relates to laboratory species. Familiarise yourself with relevant legislation like the Animals (Scientific Procedures) Act 1986. This will show that you’re not just passionate about animals but also knowledgeable about the legal framework surrounding their care.
✨Show Your Caring Side
During the interview, be ready to share examples that demonstrate your caring attitude towards animals. Think of specific instances where you’ve gone above and beyond to ensure their welfare. This could be from previous roles or even personal experiences—just make sure it’s relevant!
✨Team Player Vibes
Since this role involves working closely with a team, highlight your ability to collaborate effectively. Share stories that showcase your teamwork skills, especially how you’ve supported colleagues or contributed to group tasks in the past. It’s all about showing you can fit into their dynamic!
✨Be Ready for Practical Questions
Expect some practical questions or scenarios during the interview. They might ask how you would handle specific situations involving animal care or data recording. Prepare by thinking through potential challenges and how you would address them, demonstrating your problem-solving skills and attention to detail.