At a Glance
- Tasks: Inspire and educate students in health, social care, and childcare.
- Company: Join NPTC Group, a leading provider of further education in Wales.
- Benefits: Competitive salary, generous holidays, and excellent pension schemes.
- Other info: Flexible working options and strong support for professional development.
- Why this job: Make a real difference in students' lives while enjoying a fulfilling career.
- Qualifications: Level 6 qualification in a relevant discipline and teaching experience required.
The predicted salary is between 31113 - 38027 £ per year.
Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael.
Mae gennym uchelgeisiau mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector, a hoffem i chi chwarae rhan yn hyn. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.
Band B. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 552.9 - 677 (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Ffracsiynol hyblyg, cyfnod penodol tan 1 Mehefin 2027.
Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).
Ynglyn aa chi: Yn ddelfrydol dylech feddu ar gymhwyster lefel 6 (e.e. gradd neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol, profiad perthnasol, a chymhwyster addysgu. Dylech hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at Lefel 2. Byddai dyfarniadau Asesydd/Dilysydd yn fanteisiol.
Ynglyn aa ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rymad y aldofdion i noeth da o ddiwe ai.
Pam gweithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.
Mae'r lwfans gwyliau yn rhagorol o flwyddyn 1. Mae gennych chi 46 diwrnod o wyliau'r flwyddyn, ac oherwydd ein bod ni'n cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd a gwaith!
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant pwrpasol, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn cynnwys â darparu mynediad at amrywiaeth o adnoddau llesiant am ddim.
Mae parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ychwanegiadâ? Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy’n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!
Darlithydd: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Cyfnod Mamolaeth) in Newtown employer: NPTC Group
NPTC Group of Colleges is a leading education provider in Wales, dedicated to making a meaningful impact on students' lives through high-quality vocational training. With competitive salaries, generous holiday allowances, and a strong focus on employee wellbeing and professional development, we foster a supportive work culture that values work-life balance and continuous growth. Join us at Newtown College, where you can contribute to shaping the future of education while enjoying excellent benefits and a collaborative environment.