Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol

Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol

Full-Time On-site
N

Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael

Ydych chi'n barod i ddechrau eich gyrfa mewn Adnoddau Dynol?

Rydym yn chwilio am berson graddedig brwdfrydig a chymhellol i ymuno â'n tîm AD. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd wedi graddio yn ddiweddar ennill profiad ymarferol ar draws ystod eang o weithgareddau AD wrth ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn Adnoddau Dynol.

Graddfa 4, Pwynt Sefydlog, £31,455 y flwyddyn.

37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Contract tymor penodol am 2 flynedd.

Ynglyn â chi: Bydd gennych radd mewn disgyblaeth berthnasol a byddwch yn barod i ymgymryd â chymhwyster CIPD ar Lefel 5 neu Lefel 7, pa un bynnag sy'n briodol (darperir hyfforddiant). Dylech feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 3.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam gweithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn rhagorol o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), ac oherwydd ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd a gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant pwrpasol, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad at amrywiaeth o adnoddau llesiant am ddim.

Mae parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol employer: NPTC Group

NPTC Group of Colleges is a leading education provider in Wales, dedicated to making a meaningful impact on students' lives through high-quality vocational training. With competitive salaries, generous holiday allowances, and a strong focus on employee wellbeing and professional development, we foster a supportive work culture that values work-life balance and continuous growth. Join us at Newtown College, where you can contribute to shaping the future of education while enjoying excellent benefits and a collaborative environment.

N

Contact Details:

NPTC Group Recruitment Team