Technegydd: Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu (Plymio)

Technegydd: Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu (Plymio)

Full-Time On-site
N

Technegydd: Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu (Plymio)

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n hadran Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu lle byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno addysg.

Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £25,949 - £25,949 y flwyddyn, pro rata. (yn cyfateb i £12,974 -£12,974 y flwyddyn).

18.5 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Parhaol, rhan amser.

Grwp Colegau NPTC (a oedd wedi'i leoli'n wreiddiol yng Ngholeg Castell-nedd i ddarparu cymorth yn Castell-nedd, Coleg Afan a Chanolfan Adeiladu Abertawe).

Ynglyn â chi: Dylai fod gan ymgeiswyr gymhwyster lefel 2 mewn disgyblaeth berthnasol, cymwysterau lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad perthnasol hefyd. Mae'r gallu i weithredu a chyn-nal a chadw offer peiriannau yn hanfodol.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae gennym amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

#J-18808-Ljbffr

Technegydd: Gwasanaethau Peirianneg ac Adeiladu (Plymio) employer: Nptc-Group-of-College

Mae Mae Grwp Colegau NPTC yn gyflogwr rhagorol sy'n cynnig amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol, gyda chyfleoedd i dyfu yn eich gyrfa fel darlithydd peirianneg drydanol. Gyda chynlluniau cyflogaeth parhaol, oriau hyblyg, a phensiwn ardderchog, mae'r cwmni yn ymrwymo i ddarparu profiad gwaith gwerthfawr a chymorth i'w weithwyr. Mae'r lleoliad yng Ngholeg Castell-nedd yn cynnig cyfle i gyfrannu at gymuned leol, gan wneud y rôl hon yn foddhaol ac ystyrlon.

N

Contact Details:

Nptc-Group-of-College Recruitment Team