Darlithydd: Gosod Trydanol in Port Talbot

Darlithydd: Gosod Trydanol in Port Talbot

Port Talbot Full-Time 31537 - 33699 £ / year (est.) No working from home possible
N

At a Glance

  • Tasks: Inspire and educate students in electrical installation with hands-on training.
  • Company: Join NPTC Group, a leading provider of further education in Wales.
  • Benefits: Competitive salary, generous holidays, and excellent pension schemes.
  • Other info: Flexible working options and strong support for professional development.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives while enjoying a fulfilling career.
  • Qualifications: Teaching qualification and relevant industry experience required.

The predicted salary is between 31537 - 33699 £ per year.

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael.

Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.

Band A. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 699.6 - 835 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol).

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).

Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster addysgu (darparu hyfforddiant), ynghyd â chymhwyster Lefel 3 mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad diwydiannol perthnasol. Mae angen cymwysterau Lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg hefyd (TGAU neu gyfwerth). Gyda’r effaith y mae’r byd digidol yn ei chael ar addysgu a dysgu bydd angen i ymgeiswyr hefyd fod yn llythrennog mewn TG hyd at lefel 2 o leiaf.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £20 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni'n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae’r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy’n ddefnyddiol i’ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Darlithydd: Gosod Trydanol in Port Talbot employer: Nptc-Group-of-College

Mae'r NPTC Group of Colleges yn gyflogwr rhagorol sy'n cynnig amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol, lle gall darlithwyr Peirianneg Drydanol ddatblygu eu sgiliau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau myfyrwyr. Gyda chyflog cystadleuol, cynllun pensiwn da, a 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus yn y gymuned leol yng Ngholeg Castell-nedd, Cymru.

N

Contact Details:

Nptc-Group-of-College Recruitment Team

We think you need these skills to ace Darlithydd: Gosod Trydanol in Port Talbot

Communication Skills
Problem-Solving Skills
Compassion
Flexibility
Adaptability
Teamwork
Organizational Skills