Darlithydd: Iechyd a Gofal Cymdeithasol in Newtown

Darlithydd: Iechyd a Gofal Cymdeithasol in Newtown

Newtown Full-Time 25949 - 30000 £ / year (est.) No working from home possible
N

At a Glance

  • Tasks: Inspire and educate students in Health and Social Care.
  • Company: Join NPTC Group, a leading provider of further education in Wales.
  • Benefits: Competitive salary, generous holidays, and excellent pension schemes.
  • Other info: Flexible working options and strong support for professional development.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives while enjoying a fulfilling career.
  • Qualifications: Level 6 qualification in a relevant discipline and teaching experience preferred.

The predicted salary is between 25949 - 30000 £ per year.

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael.

Mae gennym uchelgais mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector ac fe hoffem i chi chwarae rhan yn hyn o beth. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen.

Band B. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 552.9 - 677 (gan gynnwys gyda’r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol). Parhaol, hyblyg ffracsiynol.

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).

Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol dylech feddu ar gymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) mewn disgyblaeth berthnasol, profiad perthnasol, a chymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant). Dylech feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Byddai Dyfarniadau Asesydd/Dilysydd yn fanteisiol.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i’ch pensiwn, am bob £100 rydych chi’n ei ennill.

Mae’r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, a gan ein bod ni’n cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Darlithydd: Iechyd a Gofal Cymdeithasol in Newtown employer: Nptc-Group-of-College

Grwp Colegau NPTC is an exceptional employer, offering a competitive salary and generous benefits including a robust pension scheme and up to 59 days of annual leave. Our commitment to employee well-being is reflected in our flexible working options, comprehensive health support, and a strong focus on professional development, making it an ideal environment for passionate educators looking to make a meaningful impact in the community.

N

Contact Details:

Nptc-Group-of-College Recruitment Team

We think you need these skills to ace Darlithydd: Iechyd a Gofal Cymdeithasol in Newtown

Communication Skills
Flexibility
Adaptability
Compassion
Problem-Solving Skills
Organizational Skills
Teamwork