Darlithydd: Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth a Graffeg) in Newtown

Darlithydd: Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth a Graffeg) in Newtown

Newtown Full-Time No working from home possible
N

At a Glance

  • Tasks: Inspire students in Art and Design, focusing on Photography and Graphics.
  • Company: Join NPTC Group Colleges, a leading education provider in Wales.
  • Benefits: Competitive salary, generous holidays, and excellent pension schemes.
  • Other info: Flexible working options and strong support for professional development.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives while pursuing your passion for education.
  • Qualifications: Teaching qualification and Level 6 subject expertise required.

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael.

Mae gennym uchelgeisiau mawr i fod yn ddarparwr addysg blaenllaw yn y sector a hoffem i chi chwarae rhan yn hyn. Os ydych chi'n angerddol am Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yna daliwch ati i ddarllen.

Band C. Oriau dros gyfnod o flwyddyn: 417.5 - 536 (yn cynnwys boreau cynnar, gyda'r hwyr a phenwythnosau yn achlysurol). Parhaol, hyblyg ffracsiynol. Grwp Colegau NPTC - I'w lleoli yng Ngholeg Y Drenewydd (i addysgu hefyd yng Ngholeg Bannau Brycheiniog).

Graddfeydd Darlithydd Cyswllt 1 - 4, £26,387 - £31,140 y flwyddyn, pro rata. Graddfeydd Prif Raddfa 1 - UP1, £33,596 - £48,289 y flwyddyn, pro rata (ar gyfer darlithwyr cymwysedig).

Ynglyn â chi: Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol gymhwyster addysgu (darperir hyfforddiant), ynghyd â chymhwyster lefel 6 (gradd neu gyfwerth) yn y maes pwnc, a phrofiad diwydiannol perthnasol. Dylech feddu hefyd ar gymwysterau lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth). Gyda'r effaith y mae'r byd digidol yn ei chael ar ddysgu ac addysgu, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn TG cyfwerth â lefel 2.

Amdanom ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru. Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam gweithio i ni? Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill. Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych chi 46 diwrnod o wyliau'r flwyddyn, ac oherwydd ein bod ni'n cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda'r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 59 diwrnod o wyliau blynyddol fel Darlithydd. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae budd-daliadau salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim. Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy’n ddefnyddiol i'ch swydd. Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu. Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Darlithydd: Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth a Graffeg) in Newtown employer: Nptc-Group-of-College

Mae'r NPTC Group of Colleges yn gyflogwr rhagorol sy'n cynnig amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol, lle gall darlithwyr Peirianneg Drydanol ddatblygu eu sgiliau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau myfyrwyr. Gyda chyflog cystadleuol, cynllun pensiwn da, a 46 diwrnod o wyliau y flwyddyn, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus yn y gymuned leol yng Ngholeg Castell-nedd, Cymru.

N

Contact Details:

Nptc-Group-of-College Recruitment Team

We think you need these skills to ace Darlithydd: Celf a Dylunio (Ffotograffiaeth a Graffeg) in Newtown

Teaching Qualification
Level 6 Qualification in Subject Area
Industrial Experience
Level 2 Qualifications in Mathematics and English
Digital Literacy (Level 2)
Passion for Education
Flexibility