Job reference REQ06051 Date posted 17/10/2026 Application closing date 30/10/2026 Location Gwaun-Cae-Gurwen Primary Salary Graddfa 3 (PCG 4-5) £26,016 i £26,427 (pro rata) (yn amodol ar addasiad amser tymor). Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os bydd y gyflogaeth yn dechrau ar ddyddiad heblaw 1 Medi. Package Blank Contractual hours 27.5 Basis Term Time Job category/type Education and Schools Attachments Level 2 TA JD and PS New format - Cymraeg (1).docx
Job description
Oriau: 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Dros dro: Tan Mawrth 2027 yn y lle cyntaf gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb ar ôl y dyddiad yma.
Mae YGG Gwaun Cae Gurwen yn ysgol cynnes, groesawgar a chynhwysol yng nghalon cymuned fywiog y Waun. Fel ysgol cyfrwng Cymraeg, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu dysgwyr dwyieithog hyderus sy’n gwerthfawrogi eu hiaith, eu treftadaeth a’u diwylliant Cymreig. Mae disgyblion yn mwynhau profiadau dysgu difyr yn y dosbarth a thu hwnt iddo, gyda dysgu yn yr awyr agored yn helpu i feithrin chwilfrydedd, annibyniaeth a chariad at ddysgu. Wrth wraidd popeth a wnawn mae ymdeimlad cryf o gymuned, wedi’i adeiladu ar berthnasoedd cadarnhaol â theuluoedd ac ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n werthfawr, yn cael ei gefnogi ac yn falch o berthyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r tîm fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 1:1. Fel Cynorthwyydd Addysgu 1:1, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at gyfleoedd dysgu, datblygu annibyniaeth a chymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i daith addysgol plentyn, gan ddod yn rhan o gymuned ysgol groesawgar a fydd yn eich cefnogi i ffynnu.
Am y Rôl, bydd deiliad y swydd yn:
- Darparu cymorth 1:1 i ddisgybl yn yr Adran Iau, wedi’i deilwra i ddiwallu ei anghenion dysgu, emosiynol a datblygiadol penodol
- Helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhwysol a difyr
- Hyrwyddo annibyniaeth, lles a datblygiad cymdeithasol y disgybl
- Gweithio’n agos gyda staff addysgu, y Cydlynydd ADY (CADY), gweithwyr proffesiynol allanol a rhieni/gofalwyr
Bydd yr Ymgeisydd Llwyddiannus yn:
- Meddu ar brofiad o weithio gyda phlant ifanc
- Amyneddgar, gofalgar ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol
- Meddu ar ddealltwriaeth o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- Dangos hyblygrwydd, gallu i weithio fel rhan o dîm ac agwedd ragweithiol
- Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol
Pam ymuno â ni:
- Patrwm gwaith yn ystod y tymor ysgol
- Mynediad at fuddion gweithwyr yr awdurdod lleol, gan gynnwys pensiwn hael, cymorth lles ac aelodaeth campfa am bris gostyngol
- Cymuned ysgol cynnes, groesawgar a chynhwysol
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion yn rhannu’r ymrwymiad hwn i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a’u amddiffyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl (plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Byddwn yn cynhal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 2il o Dachwedd.
Mae’r swydd uchod ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu yn YGG Gwaun Cae Gurwen, ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
#J-18808-Ljbffr
Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel 2 ( 1:1) Adran Iau 27.5 awr employer: NPT Pass
NPT Pass is an excellent employer, offering a supportive work culture that values teamwork and community service in the heart of Neath Port Talbot. Employees benefit from comprehensive training, generous holiday allowances, and a robust pension scheme, ensuring both personal and professional growth opportunities. Join us to make a meaningful impact while enjoying a fulfilling career in local government facilities management.