Pencadlys Llanelwy/ Gweithio Hyblyg - 30 awr yr wythnos
GTaAGC Gradd 07 £36,581 i £39,481 y flwyddyn (pro rata)
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwerthfawr o 12 mis o gyfnod penodol i
ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Swyddog
Cyfathrebu Corfforaethol o fewn y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, gan
ddarparu cyflenwad ar gyfer cyfnod mamolaeth.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol cyfathrebu helpu i lunio
sut rydym yn ymgysylltu â'n staff, cymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid.
Gan weithio ar draws ystod eang o brosiectau ac ymgyrchoedd,
byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu cyfathrebiadau clir,
ymgysylltu ac effeithiol sy'n cefnogi blaenoriaethau'r Gwasanaeth.
Byddwch yn gyfrifol am greu cynnwys cymhellol ar draws amrywiaeth o
sianeli, cefnogi cyfathrebu mewnol ac allanol, rheoli gweithgarwch
cyfryngau digidol a chymdeithasol, a helpu i amddiffyn a gwella enw da'r
Gwasanaeth trwy gyfathrebu rhagweithiol ac ymatebol.
Fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub
Gogledd Cymru yn ariannu cymhwyster Cysylltiadau Cyhoeddus
Proffesiol CIPR. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar-lein a bydd yn
cael ei chwblhau yn eich amser eich hun, gan roi cyfle gwych i ennill
cymhwyster diwydiant cydnabyddedig wrth weithio yn y rôl.
Amdanoch chiRydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol cyfathrebu brwdfrydig arhagweithiol gyda sgiliau ysgrifennu rhagorol a'r gallu i adeiladuperthnasoedd gwaith effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid.Byddwch yn gallu dangos:
- Bydd gennych radd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnccysylltiedig, neu brofiad cyfatebol ym maes cyfathrebu
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
- Profia o ddarparu cyfathrebiadau mewnol a / neu allanol.
- Profia o greu cynnwys deniadol ar gyfer ystod o cynulleidfaoedda sianeli, gan gynnwys cyfryngau digidol a chymdeithasol.
- Sgiliau trefnu cryf a'r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol.
- Y gallu i adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol a dylanwaduar randdeiliaid ar bob lefel.
- Barn gadarn a'r gallu i drin gwybodaeth sensitif yn briodol.
- Sgiliau Cymraeg i Lefel 4. Bydd angen i chi fod yn siaradwrCymraeg rhugl, gyda sgiliau ysgrifenedig a rhyngbersonol rhagorolyn y Gymraeg a'r Saesneg.
#J-18808-Ljbffr
Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol employer: North Wales Fire and Rescue Service
North Wales Fire and Rescue Service is an exceptional employer, offering a unique opportunity to lead the establishment of a new in-house Estate and Facilities Management function. With a strong commitment to employee development, sustainability, and compliance, we foster a collaborative work culture that empowers our team members to drive continuous improvement across our diverse portfolio of buildings and operational sites in the beautiful North Wales region.
Contact Details:
North Wales Fire and Rescue Service Recruitment Team