Dyma Gastell-nedd Port Talbot. Lle sy'n llawn o uchelgais, gwytnwch a chyfle.
A ninnau wedi ein lleoli wrth galon de Cymru, rydyn ni'n fwrdeistref o gymunedau balch, asedau naturiol trawiadol, treftadaeth ddiwydiannol sylweddol a gweledigaeth glir am y dyfodol, Gyda rhaglenni adfywio enfawr ar y gweill, buddsoddiad sylweddol yn cael ei sicrhau ac agenda corfforaethol uchelgeisiol, dyma gyfnod cyffrous i ymuno â ni.
Fel rhan o'n buddsoddiad parhaus i faes gallu arweinyddol, rydyn ni'n creu rôl newydd ar gyfer Cyfarwyddwr Strategol Lle ac Economi. Mae hwn yn fwy na phenodiad arweinyddol, Dyma gyfle prin i roi ffurf ar ddyfodol hirdymor Castell-nedd Port Talbot a gadael gwaddol fydd yn para am genedlaethau i ddod.
Gan ateb yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr fel aelod allweddol o'n Tîm Arwain Strategol, byddwch chi'n arwain portffolio eang a dylanwadol sy'n cynnwys Tai a Chymunedau, Eiddo ac Adfywio, a Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant. Byddwch chi'n gyfrifol am ddatblygu a darparu gweledigaeth gref ar gyfer lle, gan yrru adfywio, hybu twf economaidd cynhwysol a sicrhau fod ein cymunedau'n ffynnu.
Rydyn ni'n chwilio am arweinydd strategol eithriadol sydd â record brofedig o ddarparu canlyniadau trawsnewidiol mewn amgylcheddau cyhoeddus, preifat neu reoledig cymhleth. Byddwch chi'n dod â phrofiad sylweddol yn eich sgil o arwain rhaglenni ar raddfa fawr ym maes adfywio, datblygu economaidd, isadeiledd, tai, creu lle neu faes cysylltiedig, law yn llaw â'r gallu i adeiladu partneriaethau cryfion ar draws llywodraeth, busnes, buddsoddwyr a chymunedau.
Mae'r swydd hon yn galw am rywun all feddwl yn hirdymor ac ar yr un pryd ddarparu canlyniadau go iawn heddiw. Arweinydd sy'n deall grym cydweithio, a all lywio drwy gymhlethdod ac amgylchfydoedd gwleidyddol yn hyderus, sy'n angerddol am greu lleoedd ble mae pobl eisiau byw, gweithio, buddsoddi ynddynt ac ymweld â nhw.
Yn fwyaf pwysig, byddwch chi'n rhannu ein huchelgais dros Gastell-nedd Port Talbot ac yn cydnabod y cyfle unigryw a gynigir gan y swydd hon. Bydd y penderfyniadau a wnewch chi a'r partneriaethau a adeiledir gennych yn helpu i roi ffurf ar y fwrdeistref am ddegawdau i ddod.
Os ydych chi'n arweinydd sy'n gallu ysbrydoli, ac rydych chi'n barod i yrru newidiadau trawsnewidiol a chreu gwaddol fydd yn para, byddem ni wrth ein bodd o glywed gennych.
Dyddiad cau: 9yb, Dydd Llun 2 Tachwedd.
This is Neath Port Talbot. A place of ambition, resilience and opportunity.
Positioned at the heart of South Wales, we are a borough with proud communities, stunning natural assets, significant industrial heritage and a clear vision for the future. With major regeneration programmes underway, substantial investment being secured and an ambitious corporate agenda, this is an exciting time to join us.
#J-18808-Ljbffr
Strategic Director of Place and Economy (Full Time) in Wales employer: New Start
New Start is an exceptional employer that prioritises the well-being and growth of its employees, offering a supportive work culture focused on recovery and social reintegration. With a competitive salary and opportunities for professional development, staff are empowered to make a meaningful impact in the lives of residents while enjoying a balanced work-life schedule. Located in a vibrant community, employees benefit from a collaborative environment that fosters innovation and personal fulfilment.