At a Glance
- Tasks: Lead a Welsh nursery, ensuring high standards of care, learning, and play for young children.
- Company: Join a passionate team dedicated to providing the best start for children through the medium of Welsh.
- Benefits: Competitive salary, supportive environment, and the chance to make a real difference.
- Other info: Inclusive workplace that values diversity and supports all applicants.
- Why this job: Make a genuine impact on children's lives while promoting Welsh language and culture.
- Qualifications: Experience in childcare and strong leadership skills required.
The predicted salary is between 40500 - 49500 £ per year.
Ydy’r rôl hon yn addas i chi? Rydym yn chwilio am arweinydd brwdfrydig ac ymroddedig i arwain ein cylch Cymraeg a sicrhau'r safonau uchaf o ofal, dysgu a chwarae i blant bach.
Rydym Yn Edrych Am Rywun sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant drwy gyfrwng y Gymraeg sydd â'r gallu i arwain, ysbrydoli a chefnogi tîm o staff sy'n gallu sicrhau gwasanaeth o safon uchel sy'n ddiogel, cynhwysol a chroesawgar.
Mae angen i chi fod â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol ac yn gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, teuluoedd a phartneriaid. Dylech fod yn ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg, hyrwyddo dysgu drwy chwarae a chreu profiadau cyfoethog i bob plentyn. Mae angen i chi hefyd sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol a diogelu, gan arwain drwy esiampl.
Dyma gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a theuluoedd wrth arwain gwasanaeth Cymraeg o’r radd flaenaf yn y gymuned.
Lleoliad: Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw, Brynithel
Am Sgwrs Anffurfiol Am y Swydd, Cysylltwch â Ceri Preston, Dirprwy Reolwr Talaith
Rhif Ffôn: 07494491884
E-bost: ceri.preston@meithrin.cymru
Gwneud Cais: Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Dychwelwch y Ffurflenni yma: adnoddaudynol@meithrin.cymru
Cyflog: MCC8 £28,879.50 pro rata (£14.81 yr awr). Gwir gyflog ar sail gweithio 33.25 awr yr wythnos £21,962.49.
Oriau: 33.25 awr yr wythnos
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o'r Mwyafrif Byd-eang.
Arweinydd Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihw employer: Mudiad Meithrin
Cylch Meithrin yn Tremadog yw lle gwych i weithio, gan gynnig amgylchedd cynnes a chefnogol i'r staff. Mae'r diwylliant gwaith yn seiliedig ar gydweithrediad a pharch, gyda chyfleoedd i dyfu a datblygu yn y maes addysg. Mae'r lleoliad yn Y Gorlan Fach, Ysgol Y Gorlan, yn cynnig mynediad hawdd i gymuned leol, gan wneud y swydd hon yn gyfle gwerthfawr i'r rhai sy'n frwdfrydig am addysg Gymraeg.