Mae Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru yn gweithio i wella polisïau iechyd meddwl, gwasanaethau ac agweddau'r cyhoedd ledled Cymru. Rydym yn ceisio dylanwadu ar newidiadau i'r system iechyd meddwl yng Nghymru drwy ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymateb i ymgyngoriadau a chynnal gwaith eiriolaeth.
Rydym yn defnyddio ymchwil a mewnwelediadau o brofiad byw i lywio ein hargymhellion a'n blaenoriaethau ymgyrchu. Mae'r tîm hefyd yn arwain ymgyrchoedd cyhoeddus, yn meithrin partneriaethau â sefydliadau eraill ac yn cefnogi rhwydwaith ehangach Mind i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol. Ein nod yw creu Cymru lle gall pawb gael y gefnogaeth iechyd meddwl, yr hawliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd deiliad y swydd yn:
- Darparu arweinyddiaeth strategol, cynllunio a mewnwelediad ar bolisi Cymru, ymgyrchoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch er mwyn cyflawni strategaeth Mind yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad i'r uwch dîm rheoli ac ymddiriedolwyr, cynrychioli'r sefydliad ar y lefel uchaf ar faterion polisi cymhleth, a sicrhau bod profiad byw yn rhan greiddiol o waith Mind Cymru.
- Cynnal dull cynhwysol sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau Mind yn y ffordd y caiff gwaith ei gyflawni ac wrth fesur canlyniadau ar lefel tîm. Sicrhau bod lleisiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu cynnwys a'u hadlewyrchu ym mholisi ac ymgyrchoedd Mind Cymru.
- Datblygu perthnasoedd i gryfhau dylanwad Mind Cymru yng Nghymru, gan ddarparu llais cryf ar ran y ffederasiwn a'r bobl rydym yn eu cefnogi. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda gwleidyddion etholedig, Gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, GIG Cymru a phenderfynwyr allweddol eraill.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod anghenion cynulleidfaoedd Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu gweithgareddau polisi ac ymgyrchu.
- Cynrychioli Mind Cymru yn fewnol ac yn allanol, gan weithredu fel llefarydd ac eiriolwr hygred dros ein gwaith, gan gynnwys yn y cyfryngau a thrwy gyfleoedd siarad cyhoeddus.
- Cynnal a chymhwyso gwybodaeth am yr amgylcheddau polisi a gwleidyddol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
#J-18808-Ljbffr