Crëwr Cynnwys Digidol - Digital Content Creator

Crëwr Cynnwys Digidol - Digital Content Creator

Full-Time On-site
M

GWNEWCH YN SIŴR EICH BOD CHI'N DARLLEN AC YN DILYN Y CYFARWYDDIADAU "SUT I WNEUD CAIS" ER MWYN RHOI'R CYFLE GORAU I CHI'CH HUN O GYRRAEDD Y RHESTR FER!

(Mae'r cyfarwyddiadau wedi eu hatodi ar waelod yr hysbyseb hon.)

MAKE SURE YOU READ AND FOLLOW THE "HOW TO APPLY" INSTRUCTIONS TO GIVE YOURSELF THE BEST CHANCE OF REACHING THE SHORTLIST!

(The instructions are attached at the bottom of this advert.)


[Scroll down for English language advert]

Ydych chi’n berson creadigol sy’n mwynhau dod â syniadau’n fyw drwy gynnwys digidol?

Eich rôl

Fel ein Crëwr Cynnwys Digidol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth arddangos y bobl, y busnesau a’r cyfleoedd sy’n gwneud diwydiant bwyd a diod Cymru yn sector mor gyffrous i fod yn rhan ohono. Gan weithio ar raglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, byddwch yn creu cynnwys digidol deniadol ar draws amrywiaeth o lwyfannau, o gyfryngau cymdeithasol, graffeg a ffotograffiaeth i fideo a fformatau creadigol eraill. Byddwch yn helpu i adrodd straeon busnesau a gweithwyr sy’n datblygu eu sgiliau drwy ein gweithgarwch Gweithlu, gan hefyd ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ein gwaith Ymgysylltu gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, disgyblion a myfyrwyr.

Eich tîm a’ch cyfoedion

Byddwch yn rhan o’r tîm Marchnata a Chyfathrebu, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws y timau Gweithlu ac Ymgysylltu. Byddwch hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda busnesau bwyd a diod, darparwyr addysg a phartneriaid allanol i ddod o hyd i straeon gwych a’u troi’n gynnwys creadigol sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n dod â’r rhaglen a diwydiant bwyd a diod Cymru yn fyw.

Eich effaith

Byddwch yn helpu i lunio’r ffordd rydym yn adrodd ein stori’n ddigidol, gan gynyddu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad a sicrhau bod ein cynnwys yn parhau’n ffres, yn berthnasol ac yn ddiddorol. Byddwch yn cael y cyfle i: Greu cynnwys digidol deniadol, gan gynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol, graffeg, ffotograffiaeth, fideo, cyfweliadau ac asedau digidol eraill. Cofnodi straeon a phrofiadau gan fusnesau, gweithwyr, disgyblion, myfyrwyr a phartneriaid ledled Cymru. Arddangos effaith sgiliau a hyfforddiant, gan amlygu cyfleoedd i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant bwyd a diod. Ysbrydoli cynulleidfaoedd iau drwy ddod â’r amrywiaeth eang o yrfaoedd, swyddi a llwybrau o fewn diwydiant bwyd a diod Cymru yn fyw. Adnabod cyfleoedd ar gyfer cynnwys gwych, gan ddatblygu syniadau newydd a dulliau creadigol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd a sianeli digidol. Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws Gweithlu, Ymgysylltu, Marchnata a Chyfathrebu, a rhaglenni Bwyd a Diod eraill o fewn Mentera. Cyflwyno cynnwys cyson o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu brand y rhaglen a gweithgarwch ymgyrchu ehangach.

Ffeithiau hanfodol am y swydd

Ar adeg yr hysbyseb hon mae’r rhaglen uchod wedi ei ariannu’n allanol tan: 31/03/2027 ac mae posibilirwydd am estyniad tan 31/03/2029.

Math o gontract: Pen-agored

Patrwm gwaith: 37.5 awr yr wythnos (7.5 awr y dydd Llun-Gwener)

Fodd bynnag rydym yn agored i drafod trefniadau rhan-amser neu hyblyg hyd at 4 diwrnod yr wythnos lle mae'r rhain yn diwallu anghenion y gwasanaeth.

Dyddiad cyfweliad/asesiad: Debygol o fod w/c 16/11

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Rhiain Williams, Rheolwr Marchnata a Chyfarthrebu rhiain.williams@mentera.cymru

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu go iawn. Os yw'r rôl hon o ddiddordeb ond dydych chi ddim yn siŵr eich bod yn bodloni pob gofyniad, byddem yn eich annog i wneud cais beth bynnag.

Edrychwn ymlaen i glywed wrthoch!

===========================================

Are you a creative storyteller who loves bringing ideas to life through digital content?

Your role

As our Digital Content Creator, you’ll play a key role in showcasing the people, businesses and opportunities that make Wales’ food and drink industry such an exciting sector to be part of. Working on the Welsh Government Sgiliau Bwyd a Diod Cymru / Food & Drink Skills Wales programme, you’ll create engaging digital content across a range of platforms, from social media, graphics and photography to video and other creative formats. You’ll help tell the stories of businesses and employees developing their skills through our Workforce activity, while inspiring the next generation through our Engagement work with schools, colleges, universities, pupils and students.

Your team and your peers

You’ll be part of the Marketing and Communications team, working closely with colleagues across the Workforce and Engagement teams. You’ll also work directly with food and drink businesses, education providers and external partners to uncover great stories and turn them into creative, people-focused content that brings the programme and the Welsh food and drink industry to life.

Your impact

You’ll help shape how we tell our story digitally, growing awareness and engagement and ensuring our content stays fresh, relevant and engaging. You’ll be empowered to: Create engaging digital content including social media posts, graphics, photography, video, interviews and other digital assets. Capture authentic stories and experiences from businesses, employees, pupils, students and partners across Wales. Showcase the impact of skills and training, highlighting opportunities for people already working within the food and drink industry. Inspire younger audiences by bringing the wide variety of careers, roles and pathways within the Welsh food and drink industry to life. Spot opportunities for great content, developing new ideas and creative approaches for different audiences and digital channels. Work collaboratively with colleagues across Workforce, Engagement, Marketing and Communications and other Food and Drink programmes within Mentera. Deliver consistent, high-quality content that reflects the programme’s brand and wider campaign activity.

Essential facts about the role

At the time of advertising, the above programme and its roles are funded externally until 31/03/2027, with a possibility of extension until 31/03/2029.

Type of contract: Open-ended

Work pattern: 37.5 hours per week (7.5 hours per day, Monday-Friday).

However, we are open to discuss part-time or flexible arrangements up to 4 days per week and where these meet the needs of the service

Interviews: Likely to be w/c 16/11

For more information or for an informal chat, contact Rhiain Williams, Marketing and Communications Manager rhiain.williams@mentera.cymru

We’re committed to creating a workplace where everyone feels they belong and can truly thrive. If this role sparks your interest but you’re not sure you meet every requirement, we'd encourage you to apply anyway.

We look forward to hearing from you!

Crëwr Cynnwys Digidol - Digital Content Creator employer: Mentera

Mentera is an exceptional employer, offering a vibrant and inclusive work culture that empowers employees to make a real impact in rural communities across South Ceredigion. With competitive salaries, generous benefits including fitness contributions and flexible working policies, as well as ample opportunities for professional development, Mentera fosters an environment where staff can thrive while supporting local businesses to reach their full potential.

M

Contact Details:

Mentera Recruitment Team