Swyddog Datblygu Gogledd Ceredigion | Development Officer North Ceredigion in Aberystwyth

Swyddog Datblygu Gogledd Ceredigion | Development Officer North Ceredigion in Aberystwyth

Aberystwyth Full-Time No working from home possible
M

Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru.

Ers 1989 rydym wedi helpu busnesau i wneud i bethau ddigwydd. O fusnesau newydd ar lawr gwlad i sefydliadau byd-eang, rydym yn cefnogi cwmnïau i gyrraedd eu llawn botensial a gweithredu ar safon fyd-eang.

Drwy becynnau cymorth wedi'u teilwra, mynediad at gyfleoedd, ac arbenigedd, profiad a chysylltiadau oddeutu 170 o aelodau staff ledled Cymru, rydym yn rhoi i fusnesau'r hyn sydd ei angen arnynt i dyfu, addasu a llwyddo.

Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm deinamig a chynhwysol sy'n helpu busnesau i gyrraedd eu llawn botensial? Dewch i ymuno â ni heddiw!

Mentera is Wales' leading independent business development company.

Since 1989, we've helped businesses make things happen. From grassroots start-ups to global organisations, we support companies to reach their full potential and operate at a world-standard level.

Through tailored support packages, access to opportunities, and the expertise, experience and connections of around 170 staff across Wales, we give businesses what they need to grow, adapt and succeed.

Do you want to be part of a dynamic and inclusive team helping businesses reach their full potential? Come and join us today!

[YOU MAY CHANGE THE LANGUAGE OF THE APPLICATION FORM BY CLICKING ON SETTINGS]

Manylion y swydd: | Job details:

[Scroll down for English language advert]

* SWYDDOG DATBLYGU GOGLEDD CEREDIGION*

Ydych chi'n angerddol am gefnogi busnesau fferm i ffynnu ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau gwledig Ceredigion?

Eich rôl

Fel Swyddog Datblygu yn Gogledd Ceredigion, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a datblygu rhaglen Farming Connect ar draws y sir. Byddwch yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, busnesau amaethyddol a rhanddeiliaid y diwydiant i hyrwyddo gwasanaethau, hwyluso gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, a chreu cyfleoedd sy'n helpu busnesau fferm i ddatblygu a ffynnu. Bydd y rôl yn cynnwys adeiladu perthnasoedd cadarn, trefnu digwyddiadau a gweithgareddau datblygu, a sicrhau bod Ffermwyr yn cael y gefnogaeth a'r wybodaeth sydd eu hangen i wneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer dyfodol eu busnes.

Eich tîm a'ch cyfoedion

Cymerwch y cam nesaf yn eich gyrfa drwy ymuno â tîm bywiog y De Orllewin Cymru a chyfrannu at ddarparu rhaglen Cyswllt Ffermio yn llwyddiannus ledled Cymru.

Eich effaith

Fel Swyddog Datblygu, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau fferm a chymunedau gwledig ledled De Ceredigion. Trwy adeiladu perthnasoedd cryf, hwyluso rhwydweithiau gwerthfawr a chysylltu pobl â gwybodaeth, cyfleoedd a chefnogaeth, byddwch yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnesau, mabwysiadu arferion newydd a chynllunio'n hyderus ar gyfer y dyfodol. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at sector amaeth mwy cynhyrchiol, cynaliadwy a gwydn yng Nghymru.

Buddion a chefnogaeth

  • Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
  • Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
  • 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i'ch hyd gwasanaeath gynyddu
  • Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
  • Y gallu i gario hyd at wyth diwrnod o'ch lwfans absenoldeb drosodd i'r flwyddyn ganlynol
  • Parcio am ddim ymhob swyddfa
  • Polisiau hyblygrwydd ('TOIL') hael gyda'r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
  • Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
  • Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein 'Cyrdde Mawr' yn yr Hâf ac adeg y Dolig
  • Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
  • Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud
  • Cyfarpar technegol ac unrhyw gyfarpar arbenigol sydd angen ar gyfer eich swydd

Ffeithiau hanfodol am y swydd

  • Rhaglen: Cyswllt Ffermio - Tîm Datblygu
  • Ar adeg yr hysbyseb hon mae'r rhaglen uchod wedi ei ariannu'n allanol tan: 31/03/2029 ac mae posibilirwydd am estyniad tan 31/03/2031.
  • Math o gontract: Pen-agored
  • Patrwm gwaith: Hysbysebir y rôl fel un llawn amser (7.5 awr y dydd, Llun-Gwener)
  • Bydd angen gwiriad DBS llawn ar gyfer y swydd hon

Ffeithiau hanfodol am y broses recriwtio (yn amodol ar newid)

Dyddiad cyfweliad/asesiad: Debygol o fod w/c 07/09/2026

Lleoliad cyfweliad/asesiad: Rhithiol

Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Einir Williams, Pennaeth Datblygu Einir.Williams@mentera.cymru

PWYSIG

FEL RHAN O'N PROCES RECRIWTIO, MAE'N ORFFODOL I YMGEISWYR ATEB YR HOLL GWESTIYNAU ATODOL SYDD WEDI'U CYNNWYS YN Y FFURFLEN GAIS.

Does dim angen ateb y cwestiynau yn y Gymraeg a'r Saesneg - rhowch 'N/A' yn y blwch pan fyddwch wedi ateb y cwestiwn yn yr iaith arall.

RHAID I CHI HEFYD GWBLHAU'R RHANNAU CANLYNOL O'CH PROFFIL YN EICH CYFRIF:

  • Hanes cyflogaeth
  • Cymhwysterau
  • Tystysgrifau, trwyddedau a hyfforddiant

* DEVELOPMENT OFFICER NORTH CEREDIGION*

Are you passionate about supporting farm businesses to thrive and eager to make a real difference to rural communities across Ceredigion?

Your role

As a Development Officer in North Ceredigion, you will play a key role in supporting and developing the Farming Connect programme across the county. You will work closely with farmers, agricultural businesses and industry stakeholders to promote services, facilitate knowledge transfer activities, and create opportunities that help farm businesses grow and thrive. The role will involve building strong relationships, organising events and development activities, and ensuring clients receive the support and information they need to make informed decisions for the future of their businesses.

Your team and your peers

Take the next step in your career by joining our vibrant South West team and contributing to the successful delivery of Farming Connect throughout Wales.

Your impact

As a Development Officer, you will make a real difference to farm businesses and rural communities across South Ceredigion. By building strong relationships, facilitating valuable networks, and connecting people with knowledge, opportunities and support, you will help farmers develop their businesses, adopt new practices and plan confidently for the future. Your work will contribute to a more productive, sustainable and resilient agricultural sector in Wales.

Benefits and support

  • Competitive salary and generous employer's pension contribution
  • A 50% contribution towards any fitness activities such as monthly gym memberships, fitness classes, or sports clubs
  • 25 days' holiday (plus 8 bank holidays), increasing to 27 days (+8) as your length of service increases
  • Three extra days' holiday over Christmas
  • The ability to carry over up to eight days of your absence allowance into the following year
  • Free parking in all offices
  • Generous flexibility policies ('TOIL') with the ability to have time off as leave if working longer hours
  • Enhanced family policies
  • Regular corporate social events including our summer and Christmas gatherings/parties
  • Training and development on the job
  • Free Welsh learning/refresher courses, whatever your level of ability at the moment
  • Technical equipment and any specialist equipment needed for your job

Essential facts about the role

  • Programme: Farming Connect - Development Team
  • At the time of advertising, the above programme and its roles are funded externally until 31/03/2029, with a possibility of extension until 31/03/2031.
  • Type of contract: Open-ended
  • Work pattern: The role is advertised as full-time (7.5 hours per day, Monday-Friday).
  • A full DBS will be required for this role

Essential facts about the recruitment process (subject to change)

Interviews: Likely to be w/c 07/09/2026

Location of interviews: Virtual

For more information or for an informal chat, contact Einir Williams, Head of Development Einir.Williams@mentera.cymru

IMPORTANT

AS PART OF OUR RECRUITMENT PROCESS IT IS MANDATORY FOR APPLICANTS TO ANSWER ALL THE SUPPLEMENTARY QUESTIONS CONTAINED IN THE APPLICATION FORM.

There is no need to answer the question in Welsh and English - put 'N/A' in the box when you have answered the question in the other language

YOU MUST ALSO COMPLETE THE FOLLOWING PARTS OF YOUR PROFILE IN YOUR ACCOUNT:

  • Employment history
  • Qualifications
  • Certifications, licences and training

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio drwy greu rhestr fer ddienw er mwyn cefnogi ein gweithdrefnau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'n ofynnol, felly, i chi gwblhau eich proffil personol cyn ymgeisio.

Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu go iawn. Os yw'r rôl hon wedi dwyn eich sylw ond dydch chi ddim yn siŵr eich bod yn bodloni pob gofyniad, byddem yn eich annog i wneud cais beth bynnag. Ac os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd cyn gwneud cais, cysylltwch â ni drwy'r ffôn neu ebost yn defnyddio'r manylion sydd ar yr hysbyseb. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch ar unrhyw gam o’r broses recriwtio, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich cefnogi.

Edrychwn i glywed wrthoch!

[GALLWCH NEWID IAITH Y FFURFLEN GAIS DRWY GLICIO AR Y GOSODIADAU]

We are committed to blind shortlisting to support our equality and diversity procedures. You are therefore required to complete your personal profile before applying.

We're committed to creating a workplace where everyone feels they belong and can truly thrive. If this role sparks your interest but you're not sure you meet every requirement, we'd encourage you to apply anyway. And if you'd like an informal chat about the job before applying, just get in touch with us by phone or email using the details on the advert. If you need any adjustments at any stage of the recruitment process, let us know so we can support you.

We look forward to hearing from you!

[YOU MAY CHANGE THE LANGUAGE OF THE APPLICATION FORM BY CLICKING ON SETTINGS]

#J-18808-Ljbffr

M

Contact Details:

Mentera Recruitment Team