At a Glance
- Tasks: Support farmers by coordinating mentoring and ensuring smooth service delivery.
- Company: Mentera, a leading independent business development company in Wales.
- Benefits: Competitive salary, generous pension, fitness contributions, and 25+ days holiday.
- Other info: Join a dynamic team dedicated to rural development and personal growth.
- Why this job: Make a real impact on farming families and contribute to sustainable agriculture.
- Qualifications: Passion for supporting farmers and strong communication skills.
The predicted salary is between 27000 - 33000 £ per year.
Mentera yw prif gwmni datblygu busnes annibynnol Cymru. Ers 1989 rydym wedi helpu busnesau i wneud i bethau ddigwydd. O fusnesau newydd ar lawr gwlad i sefydliadau byd-eang, rydym yn cefnogi cwmnïau i gyrraedd eu llawn botensial a gweithredu ar safon fyd-eang. Drwy becynnau cymorth wedi'u teilwra, mynediad at gyfleoedd, ac arbenigedd, profiad a chysylltiadau oddeutu 170 o aelodau staff ledled Cymru, rydym yn rhoi i fusnesau'r hyn sydd ei angen arnynt i dyfu, addasu a llwyddo.
Ydych chi'n angerddol am gefnogi ffermwyr a'u helpu i roi eu syniadau ar waith? Ydych chi'n mwynhau meithrin perthnasoedd, datrys problemau a sicrhau bod gwasanaethau o safon yn rhedeg yn esmwyth?
Eich rôl
Fel Swyddog Agrisgôp a Mentora, byddwch wrth galon dau wasanaeth sy'n annog cydweithio, arloesi a datblygiad personol ar draws cymuned ffermio Cymru. O gydlynu perthnasoedd mentora a chefnogi ymholiadau gan ffermwyr, i reoli cofnodion rhaglenni a helpu gweithgareddau i redeg yn esmwyth, byddwch yn chwarae rôl allweddol i sicrhau bod ffermwyr yn cael profiad rhagorol. Mae hon yn swydd amrywiol lle byddwch yn cyfuno sgiliau trefnu, cyfathrebu a datrys problemau i gefnogi ffermwyr ar eu taith unigol, gan helpu Cyswllt Ffermio i gyflawni ei hamcanion.
Eich tîm a'ch cyfoedion
Byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig a brwdfrydig sy'n helpu busnesau ffermio i ffynnu. Gan weithio'n agos gyda'r Arweinydd Tîm Agrisgôp a Mentora, Arweinwyr Agrisgôp, Mentoriaid a Swyddogion Datblygu, byddwch yn rhan o dîm cefnogol o gydweithwyr sy'n angerddol dros ffyniant cefn gwlad a darparu cefnogaeth i ffermwyr ledled Cymru.
Eich effaith
Bydd eich gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar deuluoedd ffermio a busnesau gwledig. Byddwch yn helpu unigolion i gael yr hyder, y wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu busnesau, gan gyfrannu at adeiladu sector amaethyddol mwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Buddion a chefnogaeth
- Cyflog cystadleuol a chyfraniad pensiwn hael gan y cyflogwr
- Cyfraniad o 50% tuag at unrhyw weithgareddau ffitrwydd megis aelodaeth campfa misol, dosbarthiadau ffitrwydd, neu glybiau chwaraeon
- 25 diwrnod o wyliau (ac 8 gŵyl banc), yn cynyddu i 27 diwrnod (+8) wrth i'ch hyd gwasanaeath gynyddu
- Tridiau ychwanegol o wyliau dros y Nadolig
- Y gallu i gario hyd at wyth diwrnod o'ch lwfans absenoldeb drosodd i'r flwyddyn ganlynol
- Parcio am ddim ymhob swyddfa
- Polisiau hyblygrwydd ('TOIL') hael gyda'r gallu i gael amser nôl fel gwyliau os yn gweithio oriau hirach
- Polisiau teuluol hael megis mamolaeth a mabwysiadu
- Digwyddiadau cymdeithasol corfforaethol rheolaidd yn cynnwys ein 'Cyrdde Mawr' yn yr Hâf ac adeg y Dolig
- Hyfforddiant a datblygiad yn y swydd
- Cyrsiau dysgu/gloywi Cymraeg am ddim, beth bynnag yw lefel eich gallu ar y funud
- Cyfarpar technegol ac unrhyw gyfarpar arbenigol sydd angen ar gyfer eich swydd
Ffeithiau hanfodol am y swydd
- Rhaglen: Cyswllt Ffermio
- Math o gontract: Dros dro am oddeutu 12 mis (cyfnod mamolaeth)
- Patrwm gwaith: Hysbysebir y rôl fel un rhan amser (7.5 awr y dydd)
- Bydd angen gwiriad DBS llawn ar gyfer y swydd hon
Ffeithiau hanfodol am y prosess recriwtio (yn amodol ar newid)
- Dyddiad cau: 26/08/2026 am 10:00yb
- Dyddiad cyfweliad/asesiad: Debygol o fod w/c 31/08/2026
- Lleoliad cyfweliad/asesiad: Aberystwyth
Am fwy o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Owain Rowlands, Arweinydd Tîm owain.rowlands@mentera.cymru
RHAID I CHI HEFYD GWBLHAU'R RHANNAU CANLYNOL O'CH PROFFIL YN EICH CYFRIF: Hanes cyflogaeth, Cymhwysterau, Tystysgrifau, trwyddedau a hyfforddiant.
Swyddog Agrisgôp a Mentora - Agrisgôp and Mentoring Officer in Aberystwyth employer: Mentera
Mentera is an exceptional employer dedicated to fostering a supportive and inclusive work environment, particularly for those passionate about rural development in Wales. With competitive salaries, generous holiday allowances, and a strong emphasis on employee growth through training and wellness initiatives, we empower our team to make a meaningful impact on the farming community. Join us in Aberystwyth, where your contributions will directly support farmers in achieving their full potential and building a sustainable agricultural sector.