Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol

Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol

Full-Time 37111 - 45378 £ / year (est.) No working from home possible
L

At a Glance

  • Tasks: Translate between English and Welsh, ensuring quality and consistency in all documents.
  • Company: Welsh Government committed to equality and diversity in recruitment.
  • Benefits: 31 days annual leave, flexible working, training opportunities, and a supportive work environment.
  • Other info: Flexible working arrangements available across various Welsh Government offices.
  • Why this job: Join a dynamic team making a real impact on Welsh language services.
  • Qualifications: Fluent Welsh and experience in translation or editing required.

The predicted salary is between 37111 - 45378 £ per year.

The Welsh Government operates name-free recruitment.

The recruiting panel will not see personal information such as a candidate’s name and address during the sifting process.

This policy is in line with our commitment to end bias and promote equality and diversity.

  • Vacancy title
  • Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol
  • 21/09/2026, 16:00
  • Advertising basis Fixed Term, Permanent
  • Salary range or pay band HEO £37,111 to £45,378

Work pattern Full time (applications are welcome from people who work part time, as part of a job share or who work full time)

  • Group Operational Effectiveness Group
  • Directorate Pobl a lleoedd
  • Branch Gwasanaeth cyfieithu
  • Location (s) Pan Wales

‘Pan Wales’ means the post holder can be based in any Welsh Government office, subject to business needs.

Roles based outside Wales, including London, are not available unless explicitly stated in the advert.

A list of the Welsh Government’s offices can be found on www. gov. wales/welsh-government-offices .

Please note it may not always be possible to accommodate a preference for a specific office location.

The post holder’s travel from their home to their assigned Welsh Government office is considered their ‘ordinary commute’ and must be done in their own time and at their own cost.

  • Purpose of post
  • Bydd pob uwch-gyfieithydd yn meddu ar y sgiliau iaith a’r crebwyll gwleidyddol a sefydliadol i gyfieithu, heb oruchwyliaeth, rhwng y Saesneg a’r Gymraeg.
  • Ar ôl meithrin rhywfaint o brofiad yn y swydd, disgwylir i uwch-gyfieithwyr adolygu cyfieithiadau testun, a hyfforddi cyfieithwyr llai profiadol.

Gall hyn hefyd olygu cyfrifoldebau rheoli llinell.

  • Bydd rhai uwch-gyfieithwyr yn canolbwyntio ar gyfieithu testunau cyffredinol, tra bydd eraill yn arbenigo mewn cyfieithu deddfwriaeth.
  • Gan ddibynnu ar anghenion busnes y Gwasanaeth Cyfieithu, a chryfderau’r unigolyn, disgwylir i uwch-gyfieithwyr gyfrannu at amryw agweddau ar waith y proffesiwn, ee datblygu a chyflwyno technoleg arbenigol, caffael gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, prosiectau safoni terminology.
  • Key tasks
  • Cyfieithu ysgrifenedig
  • Cyfieithu heb oruchwyliaeth o’r Saesneg i’r Gymraeg ac, o bryd i’w gilydd, o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Bydd natur y testunau yn amrywio o ddogfennau polisi i sgriptiau ac areithiau, a gall y gwaith gynnwys amrediad eang o gyweiriau o’r creadigol i’r deddfwriaethol.

  • Sicrhau ansawdd
  • Sicrhau bod eich gwaith cyfieithu yn gywir, yn briodol ac yn cydymffurfio bob amser â chywair, arddull a therminoleg safonol y Gwasanaeth Cyfieithu ar gyfer y math o destun dan sylw.
  • Sicrhau ansawdd gwaith cyfieithwyr mewnol eraill yn ôl y galw, a chyfrannu at broses monitro ansawdd gwaith y cyflenwyr allanol a ddefnyddir dan gontract gan y Gwasanaeth Cyfieithu.
  • Gwasanaeth i gwsmeriaid
  • Meithrin perthynas â chwsmeriaid mewn meysydd polisi gweinidogol neu dimau cyfreithiol Bydd hyn yn golygu deall gofynion cyfieithu Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg a Rheolau Sefydlog y Senedd, deall y gweithdrefnau deddfu a’r meysydd pwnc, a mynd i’r afael â materion sy’n codi wrth drefnu gwaith cyfieithu.
  • Bod yn atebol am eich gwaith cyfieithu o’i ddechrau i’w ddiwedd, a chymryd y cyfrifoldeb am gyfathrebu’n briodol ac yn brydlon â chwsmeriaid a chydweithwyr eraill i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon.
  • Bod yn ymwybodol o gynulleidfaoedd targed ein cyfieithiadau, ac ystyried eu hanghenion hwythau wrth ddarparu cyfieithiadau ar ran Llywodraeth Cymru.
  • Arddull a therminoleg
  • Ymgyfarwyddo â’r prif egwyddorion ar gyfer safoni termau, a dilyn trefniadau gosodedig y Gwasanaeth ar gyfer paratoi, safoni a rhannu termau drwy gyfrwng Term Cymru.
  • Cydweithio â chyfieithwyr ac eraill i sicrhau cysondeb arddull y Gwasanaeth Cyfieithu a chynorthwyo i ddatblygu’r canllawiau arddull a gyhoeddir ar Byd Term Cymru.
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Defnyddio systemau craidd y Llywodraeth, ynghyd â systemau a meddalwedd arbenigol y Gwasanaeth Cyfieithu, i’w llawn botensial o ddydd i ddydd.

Mae’r systemau arbenigol yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, system llif gwaith, system rheoli dogfennau, meddalwedd drafftio deddfwriaeth a meddalwedd fynegeio.

  • Helpu i ddatblygu’r defnydd o offer TGCh (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu) arbenigol a chadw ar drywydd y datblygiadau technolegol diweddaraf sy’n hyrwyddo prosesau cyfieithu.
  • Adolygu, ôl-olygu a phrawfddarllen testunau
  • Adolygu testunau a gynhyrchir gan gyd-gyfieithwyr a/neu gyfieithwyr llai profiadol, ôl-olygu testunau sydd wedi’u cynhyrchu gan gyfuniad o gof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol, a phrawfddarllen cyfieithiadau er mwyn cyhoeddi testunau sy’n cyfateb yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Rheoli a datblygu cyfieithwyr llai profiadol
  • Ar ôl cyfnod o ymgynefino â’r swydd, ysgwyddo’r cyfrifoldeb o reoli, arwain a datblygu cyfieithwyr llai profiadol.
  • Gwirio a chynghori
  • Darparu gwasanaeth gwirio testun ar gyfer swyddogion sy’n drafftio testunau yn Gymraeg.
  • Rhoi cyngor a chanllawiau clir a safonol i swyddogion ar faterion gramadeg, arddull a therminoleg.
  • Cyffredinol
  • Cynorthwyo’r Arweinwyr Timau i ddyrannu gwaith, gan ddirprwyo ar eu rhan yn ôl y gofyn.
  • Gan ddibynnu ar gryfderau’r unigolyn ac anghenion busnes y Gwasanaeth, arwain a/neu gyfrannu at swyddogaethau a phrosiectau y mae’r Gwasanaeth yn ymwneud â nhw, gan gynnwys cyflwyno technolegau cyfieithu a CAP (Cyfieithu ar y Pryd) newydd, prosesau caffael gwasanaethau cyfieithu, rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr ac ymwelwyr.
  • Gwneud unrhyw dasg resymol arall ar gais arweinydd tîm neu reolwyr eraill y Gwasanaeth Cyfieithu
  • Other vacancy related information

Dylech gyflwyno’ch cais yn Gymraeg, a chynhelir y cyfweliad yn Gymraeg.

Bydd hon yn broses recriwtio tri cham; bydd rhaid llwyddo yn y cam cyntaf i fynd i’r ail gam, etc:

Conditional details removed for refinement purposes.

  • Meini prawf hanfodol
  • Mae sgiliau'r Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'n rhaid cwblhau pob cais a'i gyflwyno yn Gymraeg, a bydd y cyfweliadau'n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol (e. e. gradd-brentisiaeth, dyfarniad lefel 6 neu NVQ lefel 6) mewn iaith, ieithyddiaeth, neu unrhyw bwnc perthnasol arall.
  • Profiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf.
  • Os ceir nifer fawr o geisiadau, cynhelir sifft cychwynnol o gymharu â’r prif faen prawf asesu: Profiad - Gradd neu gymhwyster cyfatebol, a phrofiad o weithio yn broffesiynol ym maes y Gymraeg fel cyfieithydd neu olygydd neu mewn swydd sy’n gofyn am sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf .

Gellir symud ymgeiswyr sy’n pasio’r sifft cychwynnol ymlaen i sifft llawn neu yn syth i gam 2, y prawf ysgrifenedig.

  • Gellir cadw rhestr wrth gefn ar gyfer y cyfle hwn. Bydd unrhyw ymgeisydd sy\'n llwyddiannus wrth gael cynnig statws wrth gefn, yn aros ar y rhestr wrth gefn am 12 mis.
  • Gellir hefyd ystyried penodi ymgeiswyr i swydd Cyfieithydd ar radd EO os nad ydynt yn bodloni’r safon ofynnol ar gyfer y radd hon, ond yn dangos potensial ar y radd is, yn ddibynnol ar anghenion busnes.

Bydd cynllun datblygu strwythuredig yn cael ei lunio ar gyfer unrhyw ymgeiswyr o’r fath, a chynigir cyfle i wneud cais am ddyrchafiad ar ôl lleiafswm o 6 mis.

  • Nodir un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru’n lleoliad ar gyfer pawb a benodir.

Mae gan y Gwasanaeth Cyfieithu staff yn swyddfeydd y Llywodraeth yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Caernarfon a Chyffordd Llandudno, ac mae cyfle i weithio yn swyddfeydd y Llywodraeth ym Merthyr Tudful, Penlle’r-gaer a Wrecsam hefyd.

  • Rydym yn cefnogi Gweithio Deallus, sef dull hyblyg, cynhwysol a diogel o weithio sy’n cydbwyso anghenion y sefydliad a llesiant unigolion.

Mae’r rhan fwyaf o’n cydweithwyr yn treulio tua 40% o’u hamser gwaith, oddeutu deuddydd yr wythnos, mewn swyddfa – pro rata i gydweithwyr rhan-amser – i gefnogi cyswllt, cydweithredu a chyflawni.

Treulir gweddill yr wythnos mewn lleoliad arall neu gartref.

  • Cliciwch ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am y
  • Gwasanaeth

Cyfieithu: Ynghylch Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru | LLYW.

CYMRU

Recruitment adjustments and accessibility information will be provided on request.

All Welsh Government staff are members of the Civil Service, and as a result are eligible for:

  • 31 days annual leave (pro-rated for part time)
  • training and development opportunities
  • Cycle2Work Scheme
  • Smart Working flexible working arrangement
  • Green Car Scheme (subject to availability)

If you are an active Civil Service Pension member you can continue your membership throughout your employment with us.

If you feel your application has not been treated in accordance with these principles and wish to make a complaint please email complaints@gov. wales .

Please ensure that you refer to the vacancy reference number.

If you are not satisfied with the response you receive from the Welsh Government, you can contact the Civil Service Commission: info@csc. gov. uk.

Whats next

We are not able to share the details of the next stage at this time. We will inform you when we know more about the process.

#J-18808-Ljbffr

Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol employer: Llywodraeth Cymru / Welsh Government

Welsh Government is an exceptional employer that fosters a collaborative and inclusive work culture, empowering employees to make a meaningful impact on society through innovative digital communications. Located in the vibrant setting of Wales, the role offers unique opportunities for professional growth and development, alongside a commitment to work-life balance and community engagement. Join us to be part of a forward-thinking team dedicated to promoting positive change and enhancing public services.

L

Contact Details:

Llywodraeth Cymru / Welsh Government Recruitment Team

We think you need these skills to ace Uwch-gyfieithwyr (testun) – Cymraeg yn hanfodol

Communication Skills
Time Management
Attention to Detail
Problem-Solving Skills
Adaptability
Flexibility
Teamwork