Lleoliad: Caerdydd, neu gartref os yng Ngogledd Cymru
Gweithio hybrid: Byddwch yn gallu gweithio o gartref a dod i mewn i’r swyddfa i gydweithio â’ch timau yn ôl y galw. Mae ein horiau craidd yn hyblyg, a dydyn ni ddim yn credu mewn diwylliant presenoliaeth. Fe wnawn drafod yr hyn sy’n bwysig i chi yn ystod y broses recriwtio.
Cyflog a Buddion: £45,700 - £48,500 + 10% pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau’r banc, wythnos waith 35 awr, hyd at 13 diwrnod fflecsi, yswiriant meddygol preifat, yswiriant bywyd, a llawer mwy!
Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2026 am 9.00 y bor. Mae WRAP yn cadw’r hawl i gau’r rôl hon yn gynnar pe derbynnir nifer fawr o geisiadau.
Sefydliad anllywodraethol byd-eang sy’n gweithredu ar yr amgylchedd yw WRAP, sy'n trawsnewid systemau bwyd, pecynwaith, tecstilau a defnyddio adnoddau ar drywydd ffordd gylchol o fyw.
Fel ein Arbenigwr – Rheoli Adnoddau, byddwch yn ymuno â thîm y Rhaglen Newid Gydweithredol – arbenigwyr sy'n cefnogi cynghorau i gyflawni strategaeth economi gylchol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu. Byddwch yn rheoli ac yn cyflwyno cyfres o brosiectau gyda chynghorau ledled Cymru i'w helpu i ddatblygu eu strategaethau ailgylchu a gwastraff. Gan ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar faterion technegol a pholisi ailgylchu a gwastraff, byddwch yn rhoi cyngor ar newidiadau posibl, mawr a bach. Bydd angen i chi ddefnyddio eich gwybodaeth am yr amrywiaeth o systemau casglu, ailgylchu a didoli sy’n bodoli, a deall cyd-destun polisi a deddfwriaethol Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau ailgylchu a gwastraff. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl.
Am bwy ydyn ni’n chwilio? Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros wasanaethau gwastraff ac ailgylchu. Byddwch yn gallu dangos:
- Gwybodaeth helaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau casglu, technolegau didoli a thrin sydd ar waith yng Nghymru, a’r cyd-destun polisi a deddfwriaethol perthnasol ar gyfer y wlad/gwledydd y mae’r swydd wedi’i lleoli ynddi.
- Dealltwriaeth gadarn o strwythurau awdurdodau lleol a phrosesau gwneud penderfyniadau.
- Gallu profedig i ymgysylltu a dylanwadu â rhanddeiliaid uwch allweddol a/neu benderfynwyr i ddatblygu strategaethau, a chytuno ar newid a’i gyflawni.
- Profiad profadwy o ysgrifennu adroddiadau gyda'r gallu i gyflwyno a chyfathrebu'r canfyddiadau'n hyderus trwy gyfrwng gweithdai a chyfarfodydd gydag amrywiaeth eang o gynrychiolwyr.
Sylwer bod y swydd hon yn cynnwys teithio yn ôl yr angen i leoliadau yn y Deyrnas Unedig. Yn achlysurol byddwch yn treulio amser oddi cartref dros nos. Mae angen trwydded yrru lawn ar gyfer y rôl hon gan y byddwch yn ymweld â safleoedd anghysbell nad ydynt yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo'ch oedran, hil, rhyw, niwroamrywiaeth, gallu, credoau, rhywioldeb neu ddewisiadau personol.
Rydym am eich helpu i fod ar eich gorau, felly cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch yn ystod y broses recriwtio.
Gallwch ddysgu mwy am fywyd gyda WRAP.