Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu a hyrwyddo gwasanaeth rheng flaen proffesiynol, safon uchel ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn y Ganolfan Hamdden (yn unol â’r safonau a’r targedau yn Siarter Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor Sir). Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am yr ymateb cychwynnol i’r holl ymholiadau gan gwsmeriaid a hynny mewn ffordd effeithlon ac amserol a chan ddangos ymrwymiad y Gwasanaeth i roi gwasanaeth effeithiol i’w gwsmeriaid. Mae rôl y derbynnydd yn hanfodol er mwyn:
- Cyfrannu at brofiad sy’n hwylus i’r cwsmer.
- Creu argraff gyntaf ffafriol o'r Ganolfan Fusnes.
- Rhoi gwybodaeth gywir i gwsmeriaid.
- Hyrwyddo rhaglenni gweithgareddau’r Canolfannau Hamdden
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw: Mair Eluned
Rhif ffôn: 01248 722 966
Cyfeiriad e-bost: MairEluned@ynysmon.llyw.cymru
Wrth Gefn - Swyddog Gofal Cwsmer (Derbynnydd) employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team