Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu sesiynau hyfforddi cynhwysol diogel, proffesiynol ac
wedi eu strwythuro’n dda er mwyn gwneud y mwyaf o gyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol. Bydd
gofyn i’r Hyfforddwr Chwaraeon ddarparu ystod lawn o raglenni Môn Actif yn cynnwys: sesiynau all-
gwricwlaidd, sesiynau yn y canolfannau hamdden ac unrhyw sesiynau hyfforddi priodol arall. Bydd yr
Hyfforddwr Chwaraeon yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol a llesiant drwy greu amgylchedd
broffesiynol a chroesawgar.
Cydymffurfio â Pholisi Diogelu Corfforaethol yr awdurdod lleol a'r dyletswyddau a chyfrifoldebau
diogelu y mae'r polisi hwnnw'n eu gosod ar bob gweithiwr, yn cydfynd â gwerthoedd craidd yr
Awdurdod sy'n cynnwys cefnogi plant, oedolion sydd mewn perygl a'u teuluoedd i'w cadw'n ddiogel ac
iach.
Mwy o gwybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.
Manylion cyswllt
Enw: Barry Edwards
Rhif ffôn: 01248 752037
Cyfeiriad e-bost: barryedwards@ynysmon.llyw.cymru
Wrth Gefn - Hyfforddwr Datblygu Chwaraeon employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team