Wrth Gefn - Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Wrth Gefn - Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn rwydwaith o glybiau rhan-amser neu ddarpariaeth gymunedol sy'n darparu gwasanaethau ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 a 19 oed sy'n gweithredu'n bennaf rhwng mis Medi a diwedd mis Mawrth.

Bydd y contract sylfaenol am 26 wythnos rhwng mis Medi a diwedd mis Mawrth. Gellir cynnig estyniad pellach yn ystod cyfnod yr haf, i weithio ar raglenni'r haf yn dibynnu ar angen lleol, er nad yw hyn wedi'i warantu. Bydd y gweithiwr yn cael ei gyflogi ar delerau ac amodau'r JNC.


Mae'r Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yn cael ei gyflogi i weithio gyda Swyddog Datblygu Ieuenctid Ardal yr Ysgol a'r Uwch Weithiwr Ieuenctid i ymgymryd â'r holl dasgau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod Clwb Ieuenctid neu ddarpariaeth ieuenctid cymunedol yn cael ei rhedeg yn effeithlon.

Bydd angen i'r ymgeisydd baratoi a chyflwyno ystod o sesiynau gwaith ieuenctid a bydd disgwyl iddo hefyd gyflwyno sesiynau a baratowyd gan yr Uwch Weithiwr Ieuenctid neu'r Swyddog Datblygu Ieuenctid Ardal Ysgol ac ymgymryd â'r holl ddyletswyddau gweinyddol sy'n gymesur â'r swydd.

Mwy o gwybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r manyleb person i’ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, gan bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.

Manylion cyswllt

Enw: Nia Williams

Rhif ffôn: 07811721093

Cyfeiriad e-bost: niawilliams@ynysmon.llyw.cymru

Wrth Gefn - Gweithiwr Cymorth Ieuenctid employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team