Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Darparu gofal personol mewn modd cyfannol drwy gynorthwyo, galluogi, cynnal ac edrych ar ôl llesiant pobl fregus yn eu cartrefi eu hunain yn unol ag anghenion a aseswyd, gan roi cymorth iddynt gynnal eu hurddas ac annibyniaeth a lle mae angen, ddarparu cymorth i’w gofalwyr ffurfiol. Dylid cyfathrebu’n barhaus gyda’r holl swyddogion proffesiynol ac ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gydag Iechyd, Gwaith Cymdeithasol ac asiantaethau eraill wrth ddarparu gofal yn y gymuned.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Ann Corbett
Rhif ffôn: 01248 752781
Cyfeiriad e-bost: AnnCorbett@ynysmon.llyw.cymru
Wrth Gefn - Gofalwr Cartref employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team