Wrth Gefn - Cynorthwyydd Cymorth Busnes

Wrth Gefn - Cynorthwyydd Cymorth Busnes

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.

Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd

Darparu cymorth busnes i’r adran berthnasol. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda gwybodaeth bersonol a chyfrinachol o ddydd i ddydd a bydd rhaid i ddeilydd y swydd drin y llwyth gwaith yn gyfrinachol. Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau TGCh rhagorol a bydd yn gallu gweithio gyda thaenlenni, cronfeydd data, a nifer o systemau TGCh corfforaethol megis Zellis, CIVICA ac Imperago.

Bydd rhaid i ddeilydd y swydd fod ar gael ar fyr rybudd i ddarparu cymorth busnes ar sail ad-hoc pan fo angen.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Catrin Hughes / Sharon Jones

Rhif ffôn: 01248 752534 / 01248 752959

Cyfeiriad e-bost: catrinhughes@ynysmon.llyw.cymru / sharonjones3@ynysmon.llyw.cymru

Wrth Gefn - Cynorthwyydd Cymorth Busnes employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team