Rheolwr Rhaglenni Moderneiddio

Rheolwr Rhaglenni Moderneiddio

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

O fewn y swydd, rhaid darparu arweinyddiaeth ar gyfer rhaglenni moderneiddio’r Cyngor a chefnogi’r sefydliad i gyflawni ei amcanion strategol a Chynllun y Cyngor drwy siapio, cydlynu, darparu, monitro ac adrodd ar bortffolio o brosiectau a rhaglenni moderneiddio.

Bydd y deilydd swydd yn arwain ac yn cyfarwyddo adnoddau rheoli prosiect a rhaglen, gan ddarparu cyfarwyddyd proffesiynol, cymorth a her adeiladol i gryfhau capasiti’r tîm i ddarparu, a’r Cyngor ehangach. O fewn y swydd rhaid sefydlu, datblygu a chyfrannu at drefniadau llywodraethu priodol ar lefel rhaglen leol a lefel y Cyngor cyfan i sicrhau bod rhaglenni a phrosiectau’n cael eu darparu’n effeithiol, ac o fewn amserlenni, cyllidebau a safonau ansawdd cytunedig.

Bydd y deilydd swydd yn rheoli a datblygu tîm bychan, gan weithio’n agos gydag uwch swyddogion, aelodau etholedig, rheolwyr gwasanaeth, partneriaid a rhanddeiliaid allanol i flaenoriaethu darpariaeth, cryfhau sicrwydd, cyflawni buddion, cefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau gwybodus ac ymgorffori gwelliannau parhaus ar draws y sefydliad.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Gwyndaf Parry

Rhif ffôn: 01248 752111

Cyfeiriad e-bost: GwyndafParry@ynysmon.llyw.cymru

Rheolwr Rhaglenni Moderneiddio employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team