Rheolwr Data a Pherfformiad

Rheolwr Data a Pherfformiad

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i arwain a chydlynu’r gwaith o ddatblygu Cynllun Strategol Data y Cyngor a chefnogi’r gwaith parhaus i ddatblygu trefniadau rheoli perfformiad effeithiol. Bydd y deilydd swydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol ym maes data a pherfformiad, gan helpu’r Cyngor i wella ansawdd, cysondeb, llywodraethiant a’r defnydd o ddata, gan sicrhau bod gwybodaeth berfformio yn ystyrlon, yn brydlon ac yn cael ei defnyddio i gefnogi cynllunio, atebolrwydd, craffu a gwelliannau.

Bydd y deilydd swydd yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws y Cyngor i ddeall eu hanghenion data, cryfhau diffiniadau a safonau data, gwella’r wybodaeth ddibynadwy sydd ar gael, a dehongli data er mwyn ei ddefnyddio i wneud gwell ddewisiadau. Bydd hefyd yn helpu gwasanaethau i ddefnyddio’r data hwnnw i fonitro cynnydd, deall tueddiadau, rheoli risgiau a dangos effaith eu gwaith ar gyfer trigolion a chymunedau.

O fewn y swydd, rhaid canolbwyntio ar gyfuno’r gwaith o adrodd ar ddata, ar berfformiad a dadansoddi mewn ffordd sy’n rhoi tystiolaeth glir, sicrwydd priodol a manylion ymarferol i arweinwyr, aelodau etholedig a gwasanaethau ar ddarparu yn erbyn blaenoriaethau, dyletswyddau statudol, amcanion gwasanaeth a gweithgareddau gwella.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Gwyndaf Parry

Rhif ffôn: 01248 752111

Cyfeiriad e-bost: GwyndafParry@ynysmon.llyw.cymru

Rheolwr Data a Pherfformiad employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team