Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Pwrpas cyffredinol y swydd
Arwain a hyrwyddo trefniant a rheolaeth fewnol yr ysgol a darparu addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl. Cyflawni cyfrifoldebau a dyletswyddau proffesiynol y Pennaeth yn amodol ar yr amodau cyfredol i athrawon yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon, Deddf Safonau a Fframweithiau Ysgolion 1998, y safonau gofynnol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig a deddfwriaeth gyfredol arall.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Cytundeb: Llawn Amser
Cyfweliadau:
Ymgymryd ag addoli ar y cyd a chyfarfod y Cyngor Ysgol – wythnos yn dechrau y 7fed o Ragfyr 2026
Cyfweliad Proffesiynol – wythnos yn dechrau y 7fed o Ragfyr 2026
Cyfweliad Llywodraethwyr – Dydd Llun y 14eg o Ragfyr 2026
Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y ffurflen gais a’r disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais
Enw: Mr Stuart Pritchard
Cyfeiriad e-bost: StuartPritchard@ynysmon.llyw.cymru
Ffurflenni cais i’w dychwelyd i: WendyRimmer@ynysmon.llyw.cymru
Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2026
Pennaeth - Ysgol Cybi employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team